Hiraeth Fydd am y 701

Atgofion Steff Rees am fws y 701 sef testun sengl newydd Bwca “Hiraeth Fydd (701)”

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)

Bwca yn rhyddhau “Hiraeth Fydd (701)”

Ar ddydd Gwener Mehefin 5ed cafodd sengl diweddaraf Bwca ei ryddhau sef “Hiraeth Fydd (701)”. Cliciwch y ddolen isod i wrando arni nawr:

https://song.link/i/1513729182

Cân yw hon am fws y 701 oedd arfer cysylltu Caerdydd a choridor yr M4 gydag Aberystwyth. Daeth gwasanaeth y 701 i ben yn Awst 2016 a bellach mae’r llwybr yn cael ei wasanaethu gan goets tipyn fwy modern y T1C ond dal i hiraethu y mae cyfansoddwr y gân Steff Rees am yr hen siarabáng.

Atgofion Steff o’r 701

Pan dechreues i fel myfyriwr yn Aberystwyth yn 2010 doedd Mam ddim yn awyddus i mi fynd â’r car lan ‘da fi achos fod dim angen car arnai ac yn bwysicach oll bydde rhywbeth yn digwydd i’r car. Gyda Dad yn amenio hyn gan bregethu fod car segur yn wael i’r batri roedd rhaid i mi gyfarwyddo gyda theithio ar y bws pan yn dychwelyd i Bontyberem am benwythnos bob hyn a hyn.

Chwarae teg i fy rhieni, cefais fy ngwyliau tramor cyntaf gyda nhw ar wyliau bws Wallace Arnold pan yn iau ac nid mewn bws cyffredin chwaith ond yn y Grand Tourer (wwwww!). Rwy’n cofio troelli lan heolydd enwog Awstria fel y Grossglockner fel tase fi oedd Kaiser Frans Josef ei hun. Ac rwy’n cofio mynd i Lago di Como yn Yr Eidal a chamu o’r goets fawr fel rial Michael Portillo mewn i fad bach oedd yn gwibio heibio villa George Clooney draw i bentref prydferth Bellaggio.

Digon teg yw dweud nad Grand Tourer oedd y 701. Doedd yna ddim seti lledr beige gyda digon o le i’ch coesau, doedd yna ddim air-con a doedd yna ddim lolfa fach yn y gwt gyda pheiriant diodydd poeth. Dwi’n cofio unwaith roedd yna ddŵr glaw yn dod trwy’r ffans a glwchu un o fy nghyd-deithwyr. Er hyn pan yn sefyllan ar y stryd yn aros am y bws ger siop Eirllin Cross Hands ar rhyw nos Sul oer ym mis Tachwedd roedd unrhywbeth yn grand!

Yn ogystal â bod yn hwyr pob tro un o nodweddion fwyaf cofiadwy y 701 oedd y gyrrwr oedd yn fyr ei amynedd a gweud y lleiaf! Yn drewi o fwg ac yn berchen ar acen oedd yn fy atgoffa o un o ffyddloniaid y Nag’s Head yn Peckham dyma i chi gymeriad oedd yn fwy na parod i rannu ei farn am faterion cyfoes. Os fyddai’n siaradwr Cymraeg mae’n siŵr ‘da fi bydde fe’n neud gwd job fel un o wybodusion Pawb a’i Farn.

Gwnâi byth anghofio’r profiad o glywed e’n pasio rhyw hên berson carcus un noson ar gyrion Peniel gan ganu’r corn a gweiddi: ‘This person’s either 107 or is completely drunk – move over will ya!’

Nid y gyrrwr oedd yr unig gymeriad lliwgar ar y 701. Yn wir, roedd y bws cyfan yn goctel diddorol o wragedd ffarm oedd wedi bod yn siopa yn y ddinas fawr ddrwg, stiwdants a’u clustffonau’n bleran ac ambell i frodor o Wlad Pwyl yn teithio i Lanybydder a Llambed. Weithiau byddech chi’n gorfod eistedd drws nesaf i rywun oedd yn eich holi’n dwll tra ar nosweithiau eraill byddech yn dechrau slwmbran am rai munudau cyn cael eich dihuno gyda shiglad wrth i’r goets fawr blymio mewn i Grand Canyon o dwll rhywle yng nghanol y fagddu.

Yn ystod oriau tywyll y gaeaf bydden i ddim yn gallu gweld rhyw lawer o olygfeydd. Er hyn byddai yna ambell i uchafbwynt yn tynnu fy sylw am rai munudau gan gynnwys blasu diwylliant min nos Llambed ac Aberaeron a gweld goleuadau coch Ffatri Laeth Felinfach a mast Blaenblwyf. Ym mhen dim bydden ni’n cyrraedd gorsaf fysus Aberystwyth ac yn paratoi i hastu lan tyle Penglais nol i fywyd y Brifysgol cyn ailadrodd y daith unwaith eto ymhen rhai wythnosau.

Cofiwch am gig Bwca nos Wener yma

Yng nghanol y cloi lawr presennol mae’n siŵr fod llawer ohonoch sydd yn darllen yr erthygl yma wedi bod yn hiraethu am deithiau arbennig ymhob cwr o’r byd ac yn ysu am gael gwneud hynny eto. Beth felly am wrando ar “Hiraeth Fydd (701)” gan Bwca nawr o’r platfformau digidol megis Spotify ac iTunes ac ail-fyw dyddiau’r 701.

Bydd Steff yn perfformio’r gân hon a rhai o ganeuon eraill Bwca mewn gig rhithiol ar Facebook Live yn arbennig i BroAber360 am 8 o’r gloch nos Wener Mehefin 12fed felly cofiwch diwnio mewn.

Er mwyn darganfod mwy am Bwca ewch i dudalennau Bwca ar Facebook, Instagram a Twitter.