Hanes Mwynfeydd Llanafan a Brynafan

Hanes Mwynfeydd Llanafan a Brynafan

Mewn erthygl yn “Y Llan” 20fed o Fai 1910 (yn wreiddiol yn y cylchgrawn Cymru (rhifyn 36, 1909), ceir hanes rhai o fwynfeydd Gogledd Ceredigion, gyda pheth diweddariad diolch i wefan Archeoleg Dyfed.

CWM YR YSTWYTH (PONTRHYDGROES I LANAFAN)

Roedd 3 fwynfa yn yr ardal yma, Gwaith Goch (wedi ei enwi ar ôl Graig Goch), Gelli Las (wedi ei enwi ar ôl fferm gyfagos) a Grogwynion (wedi ei enwi ar ôl Castell Grogwynion a fferm Pengrogwynion).

http://welshminestrust.org/gelli-las-mine-photo-archive/

GROGWYNION

Un o weithiau hynaf y sir, a saif ar lethr serth uwchlaw afon Ystwyth (rhwng Llanafan a Phontrhydygroes), tir a ddelid gynt gan L. Pryse, Woodstock.

Mae Grogwynion yn fwynglawdd hynafol, a chredai llawer i’r Rhufeiniaid fod yn chwilio am fwyn ynddo. Bu’n destun achos cyfreithiol yn y 1740au. Roedd ystad Gogerddan yn berchen ar fferm Pengrogwynion ac ystad Trawscoed ar y tir o’i hamgylch. Mae chwedl a adroddwyd gan Morgan ym 1977 yn adrodd sut y collodd y teulu Vaughan o Drawscoed Bengrogwynion i ystad Gogerddan pan oeddynt yn gamblo mewn tafarn ar ras rhwng dwy gleren. Roedd Trawscoed wedi gwneud prydlesi mwynau newydd i Fentrau Mwyngloddiau Lloegr ym 1742, prydles a heriwyd gan ystad Gogerddan, a heb amheuaeth, dyma’r cyfnod pryd y bydd cloddio yn gyntaf. Dyma un o’r pedwar mwynglawdd a weithiwyd gan Syr H. Mackworth yn 1744.

Erbyn amser Lewis Morris, yr oedd yn nwylaw cwmni o Loegr, ar brydles oddi wrth Waller Pryse ac Arglwydd Lisburne. Codid pedwar cant o dunelli o’r mwyn elwid yn “Potter’s Ore” ynddo tua’r adeg yma. Roedd yn can gwrhyd o ddyfnder (gwrhyd yn hyd braich), a llawer o waith ei gadw rhag llanw o ddwfr.

Yn 1810, gweithiai John Probart o’r Amwythig ef ar brydles. Mwyn plwm a gloddwyd yn bennaf, a werthai yn 1806 am ddeunaw punt y dunnell. Gan John Kitto y gweithiwyd ef ddiweddaf.

GWAITH GOCH neu TAN y GEULAN

Yng Nghwm yr Ystwyth, ychydig i’r gorllewin o waith Grogwynion, ac yn rhan o’r un wythïen. Gweithid ef ar brydles oddi wrth Arglwydd Lisburne, gan gwmni o anturiaethwyr ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Caeodd y gweithfeydd hyn yn y 1920au er i gynllun o eiddo’r Llywodraeth i ail-weithio tomenni ysbwriel mwynglawdd Frongoch gael ei sefydlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo’r ysbwriel i weithfeydd wedi’u hadeiladu ar lannau Afon Ystwyth gan ddefnyddio llwybr awyr. Mae’r mwynglawdd bellach gan goncrid gan ei fod mor agos i’r afon gyda pherygl o gael ei orlifo, ac er diogelwch y cyhoedd.

CWM NEWIDION, neu WEST FRONGOCH

Roedd pedwar pwll yn ardal Fron Goch rhwng Brynafan a Phont-rhyd-y-groes,

Y perchennog gwreiddiol West Frongoch oedd Mrs. Lloyd, ac wedi hynny daeth i ddwylo’r Milwriad Wemyss. Morgan Powell oedd yr un a’i tyllodd gyntaf tua 1810. Wedi hynny, bu ym meddiant Taylor, yr hwn a agorodd amryw leoedd, a golchid rhwng trigain i drigain a deg o dunelli o fwyn y mis. Collodd Murray ei afael ynddo rywfodd, a syrthiodd i ddwylo Cwmni’r Fron Goch. Am ryw reswm, ni fu gweithio ynddo dan y cwmni hwn, ac ni weithiwyd mohono byth wedi hyn. Mwyn sine, ac ychydig fwyn plwm a geid ynddo.

GRAIG GOCH (RED ROCK MINE)

Ychydig yn is i lawr yng nghwm Cwm Newidion, y saif y Graig Goch. Ni fu’r gwaith yma ar agor am gymaint o amser, ond daeth i feddiant John Kitto agos yr un amser a’r Frongoch. Gweithiai oddeutu deg ar hugain o ddynion ynddo. Mwyn sine geid ynddo yn bennaf. larll Lisburne yw’r tirfeddiannwr.

PONT CEUNANT

Mae Pont Ceunant yn enghraifft gynnar o orsaf gynhyrchu trydan dŵr, a oedd yn gweithredu rhwng 1899 a 1903. Fe’i hadeiladwyd gan gwmni o Wlad Belg, y Societe Anonyme Metallurgique, o Liege, ar gost o £11,400 yn fuan ar ôl iddynt feddiannu Pwll Frongoch. Roedd yn rhan o system bŵer trydan newydd ar gyfer y pwll, gyda’r nod o gynyddu cynhyrchiant a galluogi trin mwynau gradd isel. Roedd Pont Ceunant (a elwir yn ‘The Central Station’) wrth galon y system newydd hon, wedi’i lleoli 1.6km i’r gorllewin o loriau gwisgo’r pwll glo ac wedi’i ddylunio gan y peiriannydd Eidalaidd Bernardino Nogara. Roedd y llwybr cyflenwi dŵr i’r orsaf yn gymhleth ac yn cynnwys adeiladu cronfa gynhwysedd uchel o’r enw ‘New Pond’, wedi’i lleoli ar ochr y bryn 400m i’r gogledd a 130m uwchben yr orsaf. O’r gronfa ddŵr, daethpwyd â dŵr i Bont Ceunant trwy system o bibellau dur. Roedd y dŵr yn cael ei fwydo i mewn i Nant Cwmnewydion. Roedd yr orsaf hefyd yn gartref i injan stêm a boeler i’w defnyddio yn ystod adegau pan nad oedd y cyflenwad dŵr yn ddigonol. Trosglwyddwyd pŵer o’r orsaf i Bwll Frongoch trwy linell bŵer uwchben yn rhedeg o dwr cebl haearn rhychog yr ochr arall i’r ffordd gyferbyn â’r adeilad.

PANTAU HIRION (PANT YR HIRIAN)

Ar y ffordd o Lanafan i Brynafan, roedd mwynglawdd Pantau Hirion, wedi ei enwi ar ol fferm gyfagos, ac afon Nant Pant Yr Haidd. Fel y Graig Goch, yn gymharol ddiweddar yr agorwyd Pantau Hirion. Bu ym meddiant John Kitto am flynyddoedd. Nifer y gweithwyr oedd deg ar hugain. Mae’r gweddillion bellach yn y coed.

PONT-RHYD-Y-GROES AC YSBYTY YSTWYTH

Mae 5 gwaith yn yr ardal yma, Lefel Fawr, Glog Fach, Glog Fawr (a enwyd ar ôl Pen Glog Fawr), Logaulas a Penygist (ger y Gistfaen). Ystyriwyd rhai o’r rhain yn is-weithien o brif fwynfa Lefel Fawr.

LEFEL FAWR neu’r TRAWSCOED

Saif y Lefel fawr ym mhentref Pont-rhyd-y-groes. Gweithiwyd ef gan Bushell, ac yn ddilynol gan y cwmni o’r hwn yr oedd y Tywysog Rupert yn aelod. Bu yn waith llwyddiannus iawn dan y cwmni hwn. Nodir ef allan fel un o weithiau’r Rhufeiniaid, a dywedir fod rhyw gymaint o fwn arian wedi ei gael ynddo. Dechreuwyd y lefel roddodd fod i’r enw sydd arno yn 1700. Gwariwyd arni ddwy fil o bunnau yn yr ugain mlynedd gyntaf. Ymestynna, am y pellter o filltir a hanner dan y mynydd, a chysyllta’r gwaith hwn a gwaith y Glog. Dechrau y 19ain ganrif, gweithid ef gan J. Probart o’r Amwythig, a chanlynwyd ef gan Taylor, dan yr hwn y bu llawer iawn yn gweithio. Gadawyd ef i aros oddeutu pum mlynedd ar hugain yn ôl. Newydd da i drigolion yr ardal oedd clywed, rai misoedd yn ôl, sôn yr ail-ddechreuid ef.

Ym 1909, gweithia ynddo ddeugain o ddynion yno. Arglwydd Lisburne oedd y tirfeddiannwr. Mwyn plwm gloddid o honno, a gwerthai yn 1800 am wyth punt y dunnell.

GLOG FAWR

Ychydig yn uwch i fyny na’r olaf a enwyd. Bu yn waith cyfoethog iawn flynyddoedd yn ôl. Mwyn plwm geid ynddo. Enillai’r gweithwyr gyflogau uchel iawn yno wrth godi mwyn wrth y dunnell.

GLOG FACH

Mae gwaith y Glog Fach ar bwys y Glog Fawr. Mwyn plwm geid yma. Roedd y ddau ym meddiant Mr. Nankarrow, perchennog y Lefel Fawr.

PENLAN FACH

Rhwng Ysbyty Ystwyth a Phontrhydfendigaid, roedd gwaith bach Penlan-Fach. Peter Garland (rheolwr mwynfeydd Lisburne) oedd yr unig un fu yn ei weithio, a bu ar agor yn 1775 a’i ail-agor rhwng 1877-1885. Mwyn plwm gafwyd yno, ac mae’r fferm o’r un enw yn parhau yn yr ardal.