Penderfynodd byrddau Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Thai Ceredigion Cyf i uno yn dilyn dwy flynedd o drafod. Barcud fydd enw’r corff newydd yn adlewyrchu canolbarth Cymru. Byddant yn cadw ei swyddfeydd presennol yn Aberystwyth (Glyn Padarn), Y Drenewydd a Llanbedr Pont Steffan.
Bydd yr uno’n creu corff fydd yn cyflogi 220 o bobl ac sydd â 4,000 o gartrefi wedi’u gwasgaru ar draws Powys, Ceredigion, Gogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. O’r 4,000 o gartrefi sy’n eiddo i’r grŵp, mae tua 1,600 yn eiddo i Dai Canolbarth Cymru a 2,400 o eiddo ym mherchnogaeth Tai Ceredigion. Mae gan Dai Ceredigion 150 o staff fydd yn ymuno a 80 o staff Tai Canolbarth Cymru.
Ni fydd yr uniad yma yn arwain at unrhyw ddiswyddiadau, ac fe’i hystyrir yn gam nesaf naturiol i ddau sefydliad sydd wedi bod yn cydweithredu ers cryn amser beth bynnag. Nid oes disgwyl i denantiaid sylwi ar newidiadau mawr yn eu gwasanaeth, ond fe fydd ymgynghori yn cael ei gynnal gyda’r tenantiaid.
Bu trafodaethau am yr uniad ar droed ers dros ddwy flynedd, a’r gobaith yw y bydd y corff yn uno’n ffurfiol erbyn Hydref y 1af.
Dywedodd Peter Swanson, cadeirydd Tai Canolbarth Cymru: “Mae hwn yn gyfle anhygoel i bawb dan sylw a byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau trosglwyddiad didrafferth. Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau a chefnogaeth ddwyieithog o’r ansawdd uchaf i denantiaid presennol a newydd a les ddeiliad.”
Dywedodd Karen Oliver, Cadeirydd Tai Ceredigion a’r Bwrdd Cysgodol: “Mae hanes o 40 mlynedd gan Dai Canolbarth Cymru a gweledigaeth ac uchelgais gan Dai Ceredigion (sy’n dathlu deg blwyddyn ers trosglwyddo stoc o’r Cyngor Sir eleni) yn dod ag opsiynau tai newydd cyffrous i’r rhanbarth. Mae wedi bod yn siwrnai anodd oherwydd Coronafeirws, ond mae ymrwymiad aelodau’r Bwrdd a’r staff wedi bod yn hanfodol i gyflawni’r penderfyniad cyffrous yma”.
Penodwyd Steve Jones yn Haf 2019 fel Prif Weithredwr ddynodedig i’r grwpiau cyfun gan y bwrdd cysgodol sy’n paratoi ar gyfer yr uniad. Ychwanegodd Steve: “Mae’r bwrdd cysgodol wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers dros ddwy flynedd, ac fel tîm, rydyn ni’n gwybod ein bod ni yn gallu adeiladu sefydliad cyfun cryfach.
“Byddwn yn datblygu hyd yn oed mwy o gartrefi fforddiadwy ac yn darparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i’n staff a’n tenantiaid yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Daw gweithio mewn partneriaeth â chyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.”
Ymysg y prosiectau sydd i’w cwblhau, mae Maes Arthur o amgylch Clwb Pel-droed Aberystwyth yn aros am denantiaid cyntaf, ac mae Tai Canolbarth Cymru yn datblygu Cylch Caron, datblygiad yn Nhregaron.
Mae gwaith ymgynghori â thenantiaid a les ddeiliaid wedi bod yn digwydd yn y ddwy gymdeithas dai, ac mae’r Cyd-banel Tenantiaid sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Fforwm Tenantiaid a Phreswylwyr Tai Canolbarth Cymru a Grŵp Monitro Tai Ceredigion yn hollol gefnogol i’r uno. Bydd rhagor o waith ymgynghori â thenantiaid a les ddeiliaid yn digwydd wrth i’r prosiect symud i’r cam integreiddio, os gofynnir am ganiatâd y cyfranddalwyr a’r benthycwyr ac os ceir eu caniatâd.
Gwneir cyhoeddiadau pellach wrth i’r cymdeithasau tai gyrraedd y cerrig milltir olaf cyn yr uno y disgwylir yn Hydref 2020.