Dan Gysgod Mynydd Epynt

Cofio Epynt – Colli Cymdeithas

gan Elin Mair Mabbutt

Magwyd Elin Mair Price ar Fferm Pant-teg yn Sir Frycheiniog, o dan gysgod Mynydd Epynt. Fel rhan o’i chwrs Lefel-A Cymraeg yn Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa, fe gyflwynodd Draethawd Ymchwiliadol ar ‘Epynt’. Dyma ddarn bach o’r traethawd hwnnw.

Epynt

Rwy’n cofio ’rhen ardal yn uchel ei bri

A heddwch a chroeso yn llanw bob tŷ,

A phawb wrthi’n ddyfal o fore hyd hwyr

Yn ennill bywoliaeth yn llon ac yn llwyr.

 

Un bore daeth newydd o dristwch i’n rhan,

I gefnu ar gartre a’r Capel a’r Llan,

Gwasgarodd y bobl i bob rhan o’r wlad,

Darllenwch yr hanes i gael eglurhad.

                                         David Lewis, Cefnuchaf

 

Roedd 1939 yn flwyddyn fythgofiadwy – blwyddyn olaf y tridegau a’r flwyddyn y dechreuodd y rhyfel. Nid hawdd yw anghofio am drychineb, dinistr a chreulondeb yr Ail Ryfel Byd ond, i drigolion Brycheiniog, mae’r cyfnod yn hel atgofion am gymdeithas wledig Gymreig a chwalwyd. Diwreiddiwyd darn o Gymreictod Cymru a llofruddiwyd cymdeithas canol cefn gwlad pan orfodwyd trigolion Epynt i adael eu cynefin a’u cartrefi.

Rhoddai’r diwrnodau cynnar, twym ym mis Medi 1939 deimlad o dawelwch a sirioldeb i Epynt – roedd y digwyddiadau yn Ewrop yn bell i ffwrdd a’r rhyfel yng nghefn meddyliau trigolion y gymuned leol. Adeg y cynhaeaf, i grynhoi ac i fynychu’r amryw wasanaethau diolchgarwch ydoedd.

Ond yng nghanol y bodlonrwydd diwyd yma, death y negesydd tyngedfennol â’r Hysbysiad Dadfeddiad i’r hanner cant a phedwar cartref. Roedd y fyddin wedi penderfynu taw Mynydd Epynt fyddai’r lleoliad perffaith i adeiladu safle ymarfer ar gyfer y lluoedd arfog.

Ebrill 30ain, 1940 oedd y dyddiad ymadael ond cafwyd estyniad hyd Fehefin 30ain er mwyn hwyluso’r wyna a symud yr anifeiliaid. Roedd y ffermwyr yn pendroni a oedd pwrpas agor gwter, gwella to’r sgubor, troi cae neu blygu perth.

Yn ystod y misoedd i ddilyn, cynhaliwyd nifer o werthiannau stoc ym Mhontsenni a phentrefi cyfagos, ac erbyn Mai 1940 canfuwyd cartrefi newydd gan bob teulu, bron. Er i rai teuluoedd ffodus brynu neu rentu ffermydd mewn ardaloedd cyfagos, gorfodwyd llawer i symud yn bell o’u cynefin.

Daeth Iorwerth C. Peate i ymweld ag Epynt ar y diwrnod ymadael a dyma a welodd ar Fferm Waun Lwyd:

‘…. yr oedd lori wrth gefn y tŷ yn prysur lwytho. Yno hefyd yr oedd hen wraig bedwar ugain a dwy yn eistedd yno fel delw gan syllu I’r mynydd-dir a’r dagrau’n llifo i lawr ei gruddiau. Fe’i ganesid yna, a’i thad a’i thaid o’i blaen. Mae’n mynd heddiw a dyma hi’n cronni i’w munudau olaf un olwg gyfoethog ar yr hen fynydd neu’n ail-gofio dyddiau ei heinioes yn yr hen dyddyn.

Dywedodd wrthyf, “Fy machgen bach i, ewch yn ȏl yno (i Gaerdydd) gynted ag y medrwch, mae’n ddiwedd byd yma.”’

Cyn 1939, roedd teuluoedd ifanc, Cymraeg yn byw ym mhob tŷ yn yr ardal a hyfyrd yw meddwl am firi a chwerthin plant ar aelwydydd ffermdai ag enwau swynol fel ‘Gilfach yr Haul’, ‘Llawr Dolau’, ‘Ffrwd Wen’, ‘Sychnant’, ‘Hafod y Cadno’, ‘Pantyberllan’ a ‘Blaencwm’.

Collwyd tafarn hanesyddol y Drovers Arms a fu’n lloches i borthmyn am ddegawdau, Capel Methodistaidd y Babell ac Ysgol Fach Cilieni a fu’n agored am 57 o flynyddoedd.

 

                   

Adfail o Gapel y Babell cyn iddo gael ei ddymchwel       Plac i gofnodi safle Capel y Babell 

 

Ni bu’r ardal yn fagwrfa i’r un dyn byd-enwog efallai, ond ceid yma, yn y dyddiau difyr, gynt, gymeriadau gwreiddiol cefn-gwlad – ‘halen y ddaear’ os mynnwch – a’r famiaith yn feunyddiol ar eu gwefusau.

Trasiedi o’r mwyaf oedd colli’r cornel bach hwn o Gymru – colli cymuned Gymraeg – a hynny er mwyn hyfforddi dyn i ladd ei gyd-ddynion.

Trist oedd yr awr, y gymdogaeth ar chwâl,
Bugeiliaid Epynt yn ffarwelio’n friw,
Heb gael ond briwsion llywodraeth yn dâl
Am ildio’u treftadaeth, a’u ffordd o fyw.
Fe beidiodd sŵn chwarae yn iard y Cwm,
A diffodd wnaeth golau ffenestri’r fro.
Y capel unig ar y llechwedd llwm,
Heb y moliant mwy, a’i ddrysau ar glo.
Daeth milwyr a’u gynnau i rosfa’r praidd
Gan dorri yr heddwch a chwalu’r tai.
Sarnwyd yr erwau lle bu cnydau haidd,
Aeth paradwys ebol yn fangre gwae.
Yn sgil y newid a’r byddarol ru
Aeth Epynt mebyd i mi’n fynydd du.

                                                           Dienw

       

Trigolion yr ardal yn torri mawn ar Epynt        Fferm Gwybedog, Epynt, gynt