Gŵyl Arswyd Abertoir yn cyhoeddi rhaglen 2020

Bydd yr ŵyl ffilmiau arswyd yn cymryd lle ar-lein ar ddiwedd y mis.

Mae Abertoir, Gŵyl Arswyd Rhyngwladol Cymru, wedi datgelu’r rhaglen lawn ar gyfer 15fed rhifyn yr ŵyl sydd ar y gweill ar ddiwedd y mis. Mae’r ŵyl, sydd fel arfer yn digwydd yn flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn cael ei chynnal ar-lein am y tro cyntaf wrth addasu i effeithiau’r pandemig Covid-19.

Gyda wyth premiere ymysg 19 o ffilmiau, ac 11 digwyddiad arbennig ymhellach, gan gynnwys rhai digwyddiadau ecsgliwsif, mae rhaglen Abertoir 2020 mor llawn ag erioed.

“Rydyn ni wedi bod yn awyddus i ail-greu’r profiad arferol o Abertoir y gorau gallwn ni ar-lein,” dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Gaz Bailey. “Dyma’r arfer newydd am eleni yn unig, ‘ni’n gobeithio, ac rydyn ni am i bobl gael blas go iawn o Abertoir ac o Aberystwyth.”

Yn derbyn ei dangosiad cyntaf unrhyw le yn y byd bydd Tales of the Uncanny, ffilm ddogfen sy’n edrych ar hanes ffilmiau arswyd antholeg. Dangosiadau Ewropeaidd cyntaf yr ŵyl yw drama angerddol o Ganada, Bleed With Me, ffilm gothig ac iasol o India, Kriya, a’r gwaedlyd The Cemetery of Lost Souls o Frasil. Mae dangosiadau Prydeinig cyntaf fel rhan o’r ŵyl yn cynnwys y disgwyliedig Come True, ffilm ias-a-chyffro o’r Ariannin History of the Occult, a ffilm ddogfen sy’n bortread o Rosaleen Norton, artist ac ocwltydd o Awstralia, The Witch of Kings Cross. Ffilmiau newydd eraill sy’n cael eu dangos fel rhan o’r ŵyl yw Relic gan Natalie Erika James, 12 Hour Shift gan Brea Grant a’r arobryn Detention gan John Hsu.

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr yr ŵyl, Nia Edwards-Behi “Mae’n wefr i barhau i fedru dangos ystod eang a diddorol o ffilmiau arswyd eleni, o ddramâu milain a meddylgar i wleddoedd gwaedlyd.”

Mae’r digwyddiadau arbennig sy’n rhan o’r ŵyl yn cynnwys cyfweliad manwl gydag un o gynhyrchwyr a chyfarwyddwr mwyaf toreithiog cyfnod modern sinema America, Roger Corman. Bydd y comedïwr ac awdur Robin Ince hefyd yn ymddangos fel rhan o’r ŵyl gyda sioe newydd sbon, The Robin Ince That Dripped Blood, wedi’i baratoi’n arbennig ar gyfer Abertoir.

Bydd hefyd ddigwyddiadau arbennig iawn gydag wynebau cyfarwydd i’r ŵyl ac i’r ardal, gan gynnwys peintiadau gan Peter Stevenson yn darlunio hen ddrama radio, a fersiwn arbennig o gyfeiliant y pianydd Paul Shallcross i ffilmiau mud.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein, ac yn ychwanegol at y dangosiadau ffilm a digwyddiadau, bydd cyfleoedd hefyd i gymdeithasu trwy Zoom a llwyfannau eraill. “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw pobl yn teimlo fel eu bod nhw’n eistedd gartref yn gwylio ffilmiau ar eu pennau eu hunain,” meddai Rhys Fowler, cyd-gyfarwyddwr yr ŵyl.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o 28 Hydref hyd at 1 Tachwedd, gyda digwyddiad cymdeithasol ar-lein i gynhesu yn cael ei gynnal ar Hydref 27ain. Mae pasiau’r ŵyl yn dechrau am £39 yr un, gyda thocynnau unigol ar gael hefyd. Ewch i wefan yr ŵyl am fwy o wybodaeth.