Tîm Gweithredu Penparcau yn cefnogi’r gymuned

Tîm Gweithredu Penparcau

gan Karen Roberts

Mae’r Tîm yn yr Hwb Cymunedol yn Penparcau wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi aelodau bregus ac ynysig o’r Gymuned ac wedi sefydlu Tîm Gweithredu Penparcau (PAT) Penparcau Action Team, grŵp cymunedol wirfoddol sydd yn cygysylltiedig gyda’r Hwb sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda meddygfeydd lleol i gefnogi aelodau o’r gymuned sydd yn fregus yn feddygol ac yn hunanynysu . Mae PAT yn canolbwyntio a’r ddosbarthu presgripsiynau a gwaith banc bwyd gydag Eglwys St Anne’s, sy’n darparu cefnogaeth gymunedol a blaenoriaeth logistaidd, drefnus a rheoledig yn ystod Covid19.

Yn ystod amseroedd anodd ac ansicr, yr ydym wedi dibynnu ar y da yn y gymuned i ymateb a sefyll yn dal a chefnogi’r rhai mwyaf anghenus. Nod PAT yw darparu’r gefnogaeth honno ac rydym bellach yn gweithredu gwasanaeth cymorth dyddiol, saith gwaith yr wythnos o’r Hwb yn ein bws mini. Mae’r swyddfa hefyd ar agor rhwng 10:00–14:00 bob dydd i dderbyn galwadau ffôn yn unig. Mae hwn yn darparu pwynt cyswllt hanfodol i’r gymuned lle gallant dderbyn gwybodaeth, cefnogaeth a chyfarwyddyd gan staff a gwirfoddolwyr gwybodus yr Hwb.

Yr ydym hefyd yn gwneud yr hyn a allwn gyda pha bynnag warged bwyd a ddarperir i ni o archfarchnadoedd lleol. I’r perwyl hwnnw, rydym yn ddiolchgar iawn i Lidl, Tesco, Marks & Spencer, Morrisons, Tamed Da ac Ultracomida Aberystwyth.

Rydym wedi derbyn llawer iawn o adborth, ac mae bron pob un ohonynt wedi bod yn gadarnhaol. Gobeithio y gall pobl ddeall bod cyfyngiad i’r hyn y gallwn ei wneud ond byddwn yn parhau i ddosbarthu eitemau o’r fath pan fyddwn yn eu derbyn.

Yn y cyfamser, cadwch yn ddiogel, a daliwch ati i olchi eich dwylo.