gan
Llew Schiavone
Os ddarllenoch chi’r erthygl ddiwethaf gen i, fe fyddwch chi’n gwybod yn ystod mis Mai eleni fe wnes i a fy mrodyr redeg Marathon ym Mai er mwyn codi arian at elusen Tŷ Hafan.
Fe fuodd hi’n her, ond yn y diwedd fe lwyddes i a Moi i wneud dau farathon ac fe lwyddodd Now, sy’n bump oed, i redeg 40 milltir, sef marathon a hanner.
Pan fuon ni’n cerdded a rhedeg, fe ddaethon ni ar draws rhai llwybrau newydd yn Aberystwyth, ac roedd e’n hwyl mynd ar lwybrau doedden ni erioed wedi bod arnyn nhw o’r blaen.
Fe godon ni £249.00 i Dŷ Hafan a diolch o galon i bawb wnaeth ein noddi ni. Ymlaen i’r her nesaf!