gan
Gruffudd Huw
Cadarnhawyd ar dudalen Facebook Cynghrair Ieuenctid Aberystwyth na fydd Gŵyl Bêl-droed Gary Pugh yn cael ei chynnal eleni. Yn anffodus, bu raid i Glwb Pêl-droed Llanilar ohirio’r ŵyl, a oedd i’w chynnal ar 6 Medi, oherwydd Covid 19.
Mae’r ŵyl yn un o brif ddigwyddiadau chwaraeon yr ardal ac yn denu cannoedd o ieuenctid i gaeau Blaendolau bob blwyddyn. Sefydlwyd yr ŵyl er cof am Gary Pugh, cyn-hyfforddwr Llanilar, ac mae wedi codi miloedd o bunnau ar gyfer elusennau lleol dros y blynyddoedd.
Mae’r clwb yn datgan y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf, ar 5 Medi 2021.