Gemau Cofiadwy

Yr awdur a’r cefnogwr brwd Gwynfor Jones yn son am rai o’r gemau pêl-droed rhyngwladol mae wedi eu gwylio.

gan Gruffudd Huw

Mwynhewch y cyfle yma i wrando ar un o ohebwyr ifanc BroAber360 yn sgwrsio gyda Gwynfor Jones am rai o gemau mwyaf cofiadwy tîm pêl-droed Cymru. Mae Gwynfor wedi gwylio dros 150 o gemau Cymru ac wedi ysgrifennu dwy gyfrol ar hanes pêl-droed yng Nghymru. Pwy well i hel atgofion?

 

Yn y llun uchod mae Lyn Ebenezer gyda Gwynfor Jones ar noson lansio ei lyfr cyntaf yn 2016 sef Y Crysau Cochion. Lansiodd ei ail gyfrol, Pêl-droed Cymru o Ddydd i Ddydd yn 2018 ac mae’r ddwy gyfrol wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa ac ar gael yn eich siop lyfrau leol.

1 sylw

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

Braf ail-fyw gêm Cymru a Lloegr. Cofio mwynhau’r gêm yn sefylll ar y ‘Kop’ yn y Cae Ras.

Mae’r sylwadau wedi cau.