GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Trwy lygaid gwahanol’
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas]
Anwyliaid yr Anwel,
Cyfeiriwyd at fis Tachwedd fel mis oeri’r gwaed, mis nychdod ac anhwylder, mis y falen. Efallai fod y nodweddion hynny wedi bod yn fwy amlwg eleni am inni gamu i’w libart dan gysgod rheolaeth a chyfyngiad, pryder ac ansicrwydd.
Ym mhennod glo Llyfr Datguddiad cyfeirir at ‘Bren y Bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, pob mis yn rhoddi ei ffrwyth; a dail y pren oedd er iachâd y cenhedloedd.’ Cyfeirio y mae’r adnod at ddarpariaeth ddigonol Duw ar gyfer pob tymor, pob amgylchiad, ac y mae ei ddarpariaeth ar gyfer Tachwedd bywyd yr un mor gynhwysfawr a gwerthfawr â’r gweddill. Mi fydd yn Dachwedd ar rai trwy gydol y flwyddyn wrth i afiechyd lesteirio a phryder gystwyo, ond addewid Gair Duw yw y bydd dail y pren yn adfer ac yn iacháu ac, fel yn hanes pob addewid cyffelyb, os ydym am brofi’r wyrth mi fydd yn rhaid ymddiried a chredu.
Fe ŵyr nifer ohonom am gyfnodau pan fydd amgylchiadau bywyd yn medru’n llethu a sugno’r gwynt o’n hwyliau, pan fydd siom a digalondid yn llesteirio’n hysbryd ac yn ein herio ar dro i roi’r ffidil yn y to a rhoi i fyny’r ymdrech. Ond gwyddom hefyd fod darpariaeth Duw yng nghanol y dyddiau anodd wedi’n galluogi i ddal ati ac i gamu ymlaen yn hyderus.
Dai Jones, Llanilar – (ac fe gofiwn yn gynnes at Dai yn ei anhwylder yntau y dyddiau hyn) – biau’r stori honno am ffermwr o Geredigion nôl yn 60au’r ganrif ddiwethaf yn ennill cystadleuaeth yn y Farmers Weekly: Penwythnos yn Llundain – a phob dim wedi ei dalu. Do’dd y ffermwr na’i deulu bach erioed wedi bod ymhellach na Phorthcawl ar drip Ysgol Sul ac yr oedd cael eu hunain ynghanol prysurdeb dinas fawr yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Tra oedd ei wraig wedi mynd i mewn i un o siopau mawr Oxford Street, eisteddai’r ffermwr a’i fab yn y cyntedd i aros amdani.
O’u blaenau yn y cyntedd hwnnw oedd dau ddrws metal sgleiniog a fyddai’n agor a chau i ddatguddio ystafell fechan y tu mewn. Gofynnodd y bachgen i’w dad – beth ydoedd? Ond doedd gan y tad yr un syniad; nid oedd wedi gweld dim byd tebyg erioed.
Tra bod y ddau’n syllu ar y drysau sgleiniog gwelsant hen wraig wargrwm ar bwys ei ffon yn dod ymlaen at y drysau ac yn gwasgu botwm. Agorodd y drysau a chamodd hithau i mewn i’r ystafell fechan. Caeodd y drysau a syllodd y ddau mewn rhyfeddod wrth i gylchoedd bychain a rhifau arnynt oleuo yn rhes am i fyny. Yna’n sydyn gwelsant y cylchoedd bychain yn goleuo eto, ond am i lawr y tro hwn. Agorodd y drysau drachefn a chamodd merch ifanc brydferth allan o’r ystafell. Heb dynnu ei lygaid oddi ar y ferch ifanc siapus dyma’r ffermwr yn sibrwd wrth ei fab – ‘Cer gloi i nôl dy fam.’
Mae’n rhyfedd fel y bydd pobl yn gweld pethe trwy lygaid gwahanol – gweld potel wedi ei llenwi i’r hanner fel potel hanner gwag, tra gwêl eraill yr un botel yn hanner llawn. Y smotyn inc ar ganol tudalen wen yn mynd â sylw rhai, tra bydd gwynder gweddill yr un dudalen yn tynnu sylw’r arall.
Y mae’r modd yr edrychwn ar bethau yn gallu gwneud gwahaniaeth – weithiau mi fydd angen i ni weld pethe o bersbectif gwahanol, gweld ymhellach na’r digwydd, ac edrych ar y posibiliadau yn hytrach na’r anawsterau.
Yn Llyfr Numeri yn yr Hen Destament cawn hanes gŵr o’r enw Caleb – ef oedd un o’r deuddeg a ddewiswyd gan Moses i fod yn ysbïwr. Mae’r genedl wedi cyrraedd tir Paran ac mae Moses yn danfon y deuddeg ar draws yr Iorddonen i archwilio gwlad Canaan. Wedi iddynt dreulio deugain niwrnod yn y wlad, maent yn dychwelyd at Moses drachefn gyda’u hadroddiadau.
Roedd adroddiad y mwyafrif yn ochelgar a negyddol tra bod adroddiad y lleiafrif yn hyderus a gobeithiol. Yr un sefyllfa – llygaid gwahanol.
‘… y mae’r bobl sy’n byw yn y wlad yn gryf; y mae’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn … y mae’r wlad yr aethom drwyddi i’w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae’r holl ddynion a welsom ynddi yn anferth … nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn …’
Gweld yr anawsterau, y problemau a’r cyfyngiadau a wnaeth y mwyafrif – yn hytrach na’r posibiliadau – ac fe ddaethant i’r casgliad na fyddai’n werth mentro. Yn wir, anfadrwydd fyddai’r cyfan.
Ond fe welodd Caleb yr un sefyllfa trwy lygaid gwahanol a’i anogaeth eofn a hyderus yntau yw:
‘Gadewch i ni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu’r wlad oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu. Y mae Duw gyda ni, nac ofnwn.’
Tristwch yr hanesyn yn Llyfr Numeri yw na weithredwyd ar argymhelliad yr un a welai bethau’n wahanol.
‘Tir Paran’ yw’r man lle y mae’n rhaid holi: i ble’r ŷn ni’n mynd o’r fan hyn? Ac onid dagrau pethau yn aml yw i ni golli’r cyfle pan ddaw. Colli cyfle i weld pethe’n wahanol a wna’th y genedl a chanlyniad hynny oedd iddynt dreulio deugain mlynedd mewn anialwch.
Ond mae’n ddiddorol cofio, pan ddaeth yn amser i’r genedl groesi afon yr Iorddonen i feddiannu gwlad Canaan o dan arweiniad Joshua ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, fod Caleb yno ar y blaen ymhlith y rhengoedd blaengar. Yr oedd yn ŵr oedrannus erbyn hyn, yn wyth deg pum mlwydd oed.
Ond y rhan y mae Caleb yn ei dewis fel maes brwydr yw tir Hebron – yr union fan lle yr oedd Amalec y cawr ynghyd â byddin gref yr Amoriaid yn trigo. Nid yw Caleb yn dadlau, gan ei fod yn hen ŵr bellach, am faes haws i frwydro – y mae’n mynd allan yn fentrus, yn trechu’r cawr â’i fyddin ac yn meddiannu’r wlad.
Mae Llyfr Numeri yn sôn fod gan Caleb ‘ysbryd gwahanol’, meddylfryd amgenach na’r gweddill. Credodd ef fod meddiannu gwlad Canaan, ar waetha’r ofnau a’r anawsterau, yn rhan o drefniant Duw ar gyfer y genedl – ac o gael Duw o’u plaid, nad oedd dim oll yn mynd i’w rhwystro.
A chyda’r un ysbryd a’r un hyder y mae’n rhaid i ni ddal ati mewn dyddiau anodd ac edrych i’r yfory trwy lygaid gwahanol – yn obeithiol a chadarnhaol gan wybod fod Duw o’n plaid ac yn hynny byddwn yn fwy na choncwerwyr.
Cofion cynnes, Peter
DARLLENIADAU: Llyfr Numeri 13; Llyfr Datguddiad 22: 1–5
GWEDDI:
Arglwydd, gad im fyw i weled,
Gad im weled mwy i fyw;
Gad i’m profiad droi’n ddatguddiad
Ar dy fywyd, O! fy Nuw:
A’r datguddiad dyfo’n brofiad dwysach im. Amen.GWEDDI’R ARGLWYDD