Geiriau i’n Cynnal 7 : ‘Duw mewn man tywyll’

Geiriau i’n Cynnal 7: ‘Duw mewn man tywyll’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 3ydd Fai, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 7: ‘Duw mewn man tywyll’

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Anwyliaid yr Anwel,

‘Nid yw’r firws yn symud – pobl sydd yn ei symud.

Os na fydd pobl yn symud, mi fydd y firws yn stopio symud ac yn marw.’

Gwirionedd mewn dweud syml sy’n llwyddo i gadarnhau yr hyn a glywn yn ddyddiol yn natganiadau’r Llywodraeth ac ar y cyfryngau o’r pwysigrwydd inni barhau i gadw o fewn libart ein cartrefi, i hunanynysu ac ymbellhau’n gymdeithasol er mwyn arafu lledaeniad haint Covid-19. Ac er bod hynny’n brofiad anodd a chwithig, mae’r anghenraid i wneud yn eithriadol bwysig. Mae ymdrechion diflino meddygon a nyrsys ein hysbytai, sy’n ddyddiol yn mynd i’r afael â’r haint, yn wrthrych ein hedmygedd a’n diolch, ynghyd â’r rhai sy’n gweini ac yn gofalu mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned. Ond efallai mai’r peth mwyaf dirdynnol yr wythnos hon ydoedd cyhoeddi’r ystadegau diweddara a thrist o effeithiau dinistriol y pla ac am y cynnydd uwch na’r disgwyl yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i’r haint, a hynny’n ennyn ein cydymdeimlad a’n tosturi.

Ma ’na stori am yr awdur a’r llenor Robert Louis Stevenson, a fu farw yn 44 oed o haint yr ysgyfaint, iddo ryw noson pan oedd yn grwt bach gael ei hunan yn edrych allan drwy ffenest llofft ei gartref ar y stryd islaw yn ninas Caeredin. Drwy’r ffenest medrai weld y gŵr a oedd yn gyfrifol am gynnau’r lampau nwy a oleuai’r stryd yn agosáu, yn estyn â’i fachyn hir, yn tynnu’r gadwyn ac yna’n cynnu’r golau. Galwodd y forwyn fach a oedd yn ei warchod y noson honno arno fwy nag unwaith i ddod i gael ei swper, ond ni fedrai adael y ffenest gan gyfaredd yr olygfa, ac meddai wrth y forwyn: ‘Dewch gloi, ma ’na ddyn mas fan’na sy’n dyrnio tyllau yn y tywyllwch.’

Ma ’na nifer o gyfeiriadau o fewn cloriau’r Beibl at sefyllfaoedd tywyll. Mae stori Llyfr Genesis yn cychwyn drwy ddatgan i Dduw yn y dechreuad greu y nefoedd a’r ddaear: ‘yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder’.

Ganrifoedd yn ddiweddarach y mae Eseia yn cyfeirio at gyfnod anodd yn hanes cenedl Israel – pan oedd ‘trallod a chyfyngder’ i’w ganfod, a duwch a gwewyr meddwl, ‘a’r bobl yn rhodio mewn tywyllwch’. ( Eseia 8:22; 9:2)

Wrth gamu i gofnod y Testament Newydd gwelwn yn rhai o ddamhegion yr Arglwydd Iesu – damhegion y talentau a’r wledd fawr – fod tywyllwch yn cael ei uniaethu â chosb a gwrthwynebiad, a cheir fod yr un diymdrech yn cael ei ‘fwrw i’r tywyllwch eithaf’.

Ac yna yng nghlo yr Efengylau darllenwn am y tywyllwch hwnnw a daenwyd adeg croeshoelio’r Crist: ‘O ganol dydd hyd dri o’r gloch y prynhawn daeth tywyllwch dros yr holl wlad.’

Ond, ymhob un o’r enghreifftiau hynny, fe ddaw pelydrau o oleuni i wasgaru’r tywyllwch. I ganol y tywyllwch oedd yn ymsymud ar wyneb y dyfnder yn Stori’r Creu daeth o enau’r Creawdwr y gorchymyn treiddiol: ‘Bydded Goleuni’, a chanlyniad y dweud oedd i’r goleuni ddod, a ‘gwelodd Duw fod y goleuni yn dda, a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch’.

At genedl ynghanol anobaith a dryswch y daeth addewid Duw trwy ei broffwyd Eseia: ‘Fe gyfyd yr Arglwydd drosoch, a’i ogoniant a ganfyddir: y bobl a rodiasant mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr, y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.’

Ac i ganol tywyllwch dioddefaint a marwolaeth Crist ar groesbren Calfaria y treiddiodd sicrwydd yr Atgyfodiad yn wawr ac yn oleuni i fyd cyfan. Gwaredwr sydd â’r gallu i ddyrnio tyllau yn y tywyllwch.

Ond, pan drown i’r ugeinfed bennod o Lyfr Exodus, rywsut ma ’na ddweud gwahanol, oherwydd yno cawn hanes Moses yn arwain y genedl allan o orthrwm gwlad yr Aifft drwy’r Môr Coch ac i’r anialwch, a dod, ymhen rhai dyddiau, i droed Mynydd Sinai a chodi gwersyll yno. Y mae’r lle’n llwyddo i greu arswyd ac ofn – mae taranau a mellt yn hollti o gwmpas copa’r mynydd a chwmwl o niwl yn amgylchynu’r lle.

Ar wŷs Duw mae Moses yn dringo’r mynydd er mwyn derbyn y dengair deddf yn gyfraith ac yn ganllaw i’r genedl, ac yna fe gofnodir yr adnod hon: ‘Safodd y bobl o hirbell, ond nesaodd Moses i’r tywyllwch lle’r oedd Duw.’ Mae Moses yn cwrdd â Duw mewn man tywyll.

Efallai, ar un olwg, fod y darlun yma o gamu i’r tywyllwch lle’r oedd Duw’n ymddangos yn rhyfedd, o gofio’r llu cyfeiriadau eraill yn y Beibl lle mae Ef dro ar ôl tro yn ymddangos mewn goleuni.

Ond y mae i’r darlun hwn hefyd ei werth a’i neges benodol mewn dyddiau anodd, sef bod modd inni ddod o hyd i Dduw mewn sefyllfaoedd cyfyng a thywyll.

Y mae Salm 23 yn nodi: ‘Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf niwed, oherwydd yr wyt Ti gyda mi.’

Y mae tuedd ynom i uniaethu’r ymadrodd hwnnw â marwolaeth – ‘Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau …’ oedd yn yr hen gyfieithiad, ond y mae’r newydd yn rhagori ac yn awgrymu fod yna nifer o sefyllfaoedd – tristwch, afiechyd, argyfwng, gwasgfaeon, tensiynau – lle y mae bywyd yn ein tywys ni drwy batshis tywyll du; ond neges y Salm yw bod Duw yno gyda ni ac yn ein cynnal.

Efallai fod yna duedd ynom ar adegau i anghofio am Dduw a derbyn ei roddion yn ganiataol pan fydd popeth yn mynd o’n plaid a phan fydd bywyd yn esmwyth a digwmwl, ond stori arall yw hi mewn tywydd garw – pan fydd yr argyfwng yn cydio a bywyd yn mynd yn drafferthus.

Ond dyma’r Duw sydd yn parhau’n ffyddlon yng nghanol gofidiau ac anawsterau ac argyfyngau bywyd. Y Duw agos, agos sydd wrth ein hochr. Gweddïwn y bydd i deuluoedd galar yr anwyliaid a gollwyd brofi o’i ymgeledd a’i dangnefedd.

Epistol Cyntaf Ioan sydd yn ein hatgoffa yn yr ail bennod a’r 8fed adnod: ‘oherwydd y mae’r tywyllwch yn mynd heibio a’r gwir oleuni eisoes yn llewyrchu’. A dyna yw Gair Duw ar gyfer dyddiau’r cysgodion a byd ansicr – bod goleuni yn drech na thywyllwch, a phan fydd y tywyllwch yn ein hamgylchynu a’r nos yn cau o’n cwmpas gallwn fod yn sicr y bydd Duw yno i’n cynnal, ein cyfeirio a’n goleuo. Ymddiriedwn ynddo.

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

 

DARLLENIADAU:

Salm 27: 1–5; Salm 119: 101–105; Mathew 4:16 a 5:14–16; Ioan 1:5 a 8:12.

 

GWEDDI:

Tyrd atom ni, O Grewr pob goleuni
tro di ein nos yn ddydd;
pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi
dan lewyrch gras a ffydd. (W.Rhys Nicholas)

Arwain ni, O Dduw, yn dy gyfiawnder, gwna dy ffordd yn union o’n blaen, oherwydd Ti yn unig sy’n peri inni fyw’n ddiogel. (Salm 5:8)

O Dad, clyw ein gweddi dros y rhai a effeithiwyd gan haint Coronafirws fel bod modd iddynt brofi adferiad ac iachâd.

O Dad, clyw ein gweddi dros feddygon, nyrsys ac ymchwilwyr meddygol, a phawb sy’n ymroi ynghanol yr argyfwng hwn fel bod modd iddynt, trwy eu sgiliau a’u gallu, hybu iachâd y rhai sydd yn eu gofal.

O Dad, clyw ein gweddi dros y rhai sy’n fregus ac ofnus, yn ddifrifol wael ac yn marw; gad iddynt brofi dy ymgeledd Di a’th gysur.

O Dad, clyw ein gweddi dros y rhai sy’n llywio ac yn llywodraethu’n cenedl, yn llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau. Estyn iddynt ddoethineb ac arweiniad.

Cyflwynwn ein hunain i Ti, ynghyd â’r rhai yr ydym yn eiriol trostynt. Goleua ein tywyllwch a chadw ni rhag perygl ac enbydrwydd. Cylcha o’n cwmpas a thywys ni i ryngu dy fodd a dwyn clod i’th enw yn Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD