Geiriau i’n Cynnal 20: Geiriau

Geiriau i’n Cynnal 20: Geiriau

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

2il Awst, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 20: ‘Geiriau’

Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.

Anwyliaid yr Anwel,

Bu’n fraint arbennig dros y misoedd diwethaf i baratoi’r myfyrdodau wythnosol hyn – ugain i gyd – ac rwy’n mawr obeithio iddynt fod yn gyfrwng bendith ac yn eiriau cynnal mewn dyddiau anodd. Rwy’n ddyledus i’r rhai a fu’n fy nghynorthwyo trwy ddosbarthu’r myfyrdodau ac am eu gosod ar wefannau. O ganlyniad fe gyrhaeddodd ambell fyfyrdod gylchoedd llawer pellach na gogledd Ceredigion. Diolch hefyd i’r rhai a fu’n garedig eu hymateb a’u sylw o’u darllen. Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio a mesur o normalrwydd ddychwelyd, efallai ei bod yn amser i dynnu pethe i fwcwl am y tro gan fawr obeithio y bydd modd inni gynnal oedfaon yn y gwahanol gapeli o fis Medi ymlaen. 

Fel rhyw ganllaw i ganfod hyd y gwahanol fyfyrdodau, mi fyddaf yn gwasgu’r botwm word count ar fy nghyfrifiadur ac mi fydd hwnnw’n nodi nifer y geiriau a ddefnyddiwyd wrth eu llunio. Rwy’n sylwi fod ambell fyfyrdod wedi cynnwys mwy o eiriau na’r gweddill – gobeithio na chawsoch eich llethu!

Poloniws yn un o ddramâu Shakespeare sy’n holi’r tywysog Hamlet: ‘Beth ydych yn ei ddarllen f’arglwydd?’, ac fe etyb hwnnw: ‘Geiriau, geiriau, geiriau – dim byd ond geiriau.’

Ry’n ni’n byw mewn cymdeithas a byd lle y cawn ein bombardio’n ddyddiol gan eiriau, ar radio a theledu, papurau dyddiol, cylchgronau amrywiol a thros y We. Dyma oes y sound-bite pymtheg eiliad a’r hysbysebion cynnil sy’n rhannu eu negeseuon yn dreiddgar a phenodol. Mi fydd y geiriau hynny yn ein hannog i wneud a dweud yn ôl eu cymhellion, ac eto, mi fydd yna adegau pan deimlwn fod llawer o’r geiriau hynny’n eiriau gwag heb lawer o sylwedd na dyfnder iddynt.

Medr y geiriau a lefarwn ddylanwadu ar y bobl sydd yn eu clywed – eu calonogi neu ddinistrio’u hyder, creu agwedd neu newid agwedd. Medrant gyflyru’r emosiwn neu dynnu’r gwynt o’n hwyliau – creu ynom dristwch neu ennyn dagrau o lawenydd. Grym Geiriau!

‘Ni regodd fyd, a welai weithiau fel pe’n stremp i gyd,’ meddai T. Rowland Hughes yn ei gerdd ‘Hen Weinidog’: ‘Ni chododd ef ei law mewn sydyn wrthrych braw am chwip o eiriau pigog llym, er dyfod i’r gewynnau rym rhyw ddicter dwyfol, lawer gwaith.’

Gofynnodd gŵr i berchennog garej un tro, ‘Wnewch chi drwsio fy nghar i? A chofiwch wneud y gwaith mor rhad ag sydd bosibl, chi’n gweld, pregethwr tlawd ydw i.’ ‘Rwy’n gwybod,’ medde dyn y garage, ‘ro’n i’n gwrando arnoch chi bore dydd Sul.’

Mi fydd gan eiriau hefyd y gallu i newid bywydau pobl, i ennyn hyder ac ymddiriedaeth, i’n codi i’r entrychion neu ein dymchwel i’r gwaelodion, ein clwyfo neu’n hadfer.

Francis o Assisi a ddywedodd: ‘Pregethwch yr Efengyl bob amser, ac os yw’n angenrheidiol, defnyddiwch eiriau.’ Ond sut mae cyfathrebu’r neges oesol os na fydd geiriau?

Yn y bedwaredd salm ar bymtheg darllenwn fod ‘y nefoedd yn adrodd gogoniant Duw a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; eto fe â eu sain allan drwy’r holl ddaear a’u lleferydd hyd eithafoedd byd.’

Ers cychwyn y greadigaeth y mae Duw wedi bod yn cyfathrebu yn ei fyd, a’r holl fydysawd yn ategu ei ogoniant a gwaith ei fysedd. Dydd yn e-bostio dydd a nos yn anfon negeseuon testun i’r nos ymhell cyn geni’r dechnoleg sydd mor allweddol i’n bywyd heddiw.

Rai blynyddoedd yn ôl derbyniodd y ffilm Into Great Silence gryn sylw a chymeradwyaeth. Ffilm ydyw sy’n rhannu stori criw o fynachod Ffrengig mewn mynachlog ym mynyddoedd yr Alpau. Maent yn treulio eu dyddiau mewn tawelwch, heb yngan yr un gair ac mae symledd eu byw a’u hargyhoeddiad unplyg yn fynegiant gwahanol iawn i fwrlwm arferol bywyd. Distawrwydd sy’n fwy huawdl na thraethawd o eiriau.

Ar derfyn proffwydoliaeth Jeremeia yn yr Hen Destament ma’na stori am frenin o’r enw Sedeceia. Ef oedd mab y brenin Joseia a ddarganfu Lyfr y Gyfraith yn y deml, a bu darllen ei gynnwys yn gyfrwng a arweiniodd at ddiwygiad crefyddol yn y wlad. Yn anffodus, nid oedd Sedeceia yn rhannu argyhoeddiad ei dad; casglodd o’i gwmpas gynghorwyr a doethion, spin doctors y cyfnod, a oedd yn ofalus i ddatgan yr hyn a fyddai’n plesio ac yn dwyn boddhad i’r brenin ar waetha’r canlyniadau. Ond fe dda’th ’na gyfnod yn hanes Sedeceia pan ddechreuodd yntau flino ar eu geiriau arwynebol ac yna’n sydyn mae’n cofio am Jeremeia, proffwyd Duw, a oedd wedi ei daflu i garchar rai blynyddoedd ynghynt am ei fod e wedi dweud rhyw bethau nad oedd wedi plesio’r brenin ar y pryd. A dyma roi gorchymyn i alw am Jeremeia, ac ma’nhw’n dod â fe o’r carchar yn ei garpiau i ymddangos gerbron y brenin.

Cwestiwn Sedeceia i’r proffwyd yw: ‘A oes yna air oddi wrth yr Arglwydd?’ Y mae Jeremeia’n ateb, ‘Oes.’ Yn amlwg, nid oedd yn air yr oedd y brenin am ei glywed gan ei fod yn sôn am ymosodiad byddin, am ddinistr a chaethglyd. Ond o ofyn y cwestiwn ‘a oes yna air oddi wrth yr Arglwydd?’ mae’n rhaid bod yn barod wedyn i’w dderbyn a gweithredu yn unol â’i gymhellion ac er nad yw’r gair hwnnw yn plesio o hyd, y mae’n fynegiant o drefn a bwriad Duw.

‘O Arglwydd y Lluoedd, Duw Israel, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd – tydi a wnaeth y nefoedd a’r ddaear – dy air di a ddeil yn ddi-syfl.’

Y mae gair yr Arglwydd yn air i’w gredu, yn air sydd byth yn dychwelyd yn wag ac ymhob cyfnod yn air sy’n cynnig goleuni a chyfeiriad.

Mae’r myfyrdod hwn, fel y gweddill, yn cynnwys toreth o eiriau, ac rwy’n mawr obeithio y bydd modd inni ganfod, trwy’r geiriau, acenion bwriadau Duw, ei addewidion a’i gynlluniau anhygoel ar gyfer ein bywydau a bod inni rannu argyhoeddiad y salmydd yn y Salm fawr fod Gair Duw yn ‘llusern i’n traed ac yn llewyrch i’n llwybrau’.

Bendithied yr Arglwydd chwi a’ch cadw, llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnoch a bod yn drugarog wrthych; dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnoch a rhannu i chwi o’i dangnefedd.

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Salm 19; Jeremeia 37:16–21; 1Timotheus 1:15–17.

GWEDDI: Nid oes gennym ond geiriau, Arglwydd – geiriau cyfyng, geirau brau. Helpa ni i gyfeirio’n geiriau’n addoliad a chlod i’th enw. Datguddia i ni dy fwriadau a’th ewyllys, tywys ni i ryngu dy fodd a bydded geiriau ein genau a myfyrdod ein calon yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, ein craig a’n prynwr.’  Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD