Geiriau i’n Cynnal: ‘Dychwelyd’

Geiriau i’n Cynnal: ‘Dychwelyd’

William Howells
gan William Howells

MYFYRDOD DIWEDD BLWYDDYN 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Dychwelyd

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Rhyw Sul od yw’r Sul yma, Sul sy’n syrthio rhwng dwy stôl, rhwng cyfaredd Gŵyl y Nadolig a chyffro Blwyddyn Newydd. Sul â’i ddisgwyliadau’n gyfyng rhywsut – fel cracer wedi ei dynnu a’i gynnwys wedi ei ddatgelu. Sul yr anticleimacs yn nhyb eraill gan ei fod yn arwyddo fod y Nadolig wedi ei ddathlu am flwyddyn arall. Ond er mai Nadolig gwahanol ydoedd i lawer eleni o ganlyniad i’r cloi i lawr, fe lwyddodd ei neges oesol am ddyfodiad Mab Duw i’n byd – yn Geidwad a Gwaredwr – i gyfeirio’n dathlu o’r newydd.

Mi fydd diwedd blwyddyn yn gyfle i fwrw trem tros ei digwydd a chloriannu’r profiadau ac yn ddi-os mi fydd 2020 yn flwyddyn gofiadwy ar lawer ystyr. Blwyddyn Coronafirws a’i ledaeniad rheibus a ddygodd bryder a gofid, colledion a thristwch i gynifer. Yn flwyddyn o gyfyngu ar weithgaredd ac o ymgadw rhag ymgynnull mewn niferoedd, o ymbellhau ac o warchod. Blwyddyn pan gofiwn am ymroddiad y gwasanaethau gofal mewn ysbyty a Chartref; am gyfarwyddiadau gwleidyddol ac arweinyddol; am egnïon gwyddonol a meddygol i ddarganfod brechlyn ac am ymdrechion gwirfoddol a chonsyrniol o fewn ein cymunedau.

Y mae englyn grymus John Phillips rywsut yn crynhoi’r atgof:

Cael awr i agor cloriau – hen gyfrol
I gyfrif y breintiau,
A chanfod rhai penodau
Yn y cof sy’n gwrthod cau.

Gall y cipolwg o’r Dwyfol a ddatguddiwyd inni dros ŵyl y Nadolig ddiflannu’n gynnar ac fe gawn ein hunain yn wynebu blwyddyn newydd gyda’r un beichiau, yr un ofnau a’r un amheuon ag oedd gennym gynt.

Y mae D.H. Lawrence yn ei nofel The Rainbow yn rhannu’r profiad o dreulio’r Nadolig: ‘Yr oedd y bore yn llawn cyfaredd a bwrlwm, ond erbyn y prynhawn a’r hwyr peidiodd y rhamant ac aeth dydd Nadolig yn debycach i unrhyw ŵyl y banc arall – yn ddiflas a digyffro.’

Ond os llwyddodd y Nadolig i gyffwrdd â’n bywyd o’r newydd a rhannu ei neges oesol, mi fyddwn yn troi o’r ŵyl eleni ‘gan ogoneddu a moliannu Duw …’ a chamu ymlaen gydag agwedd gadarnhaol a llawnder Ysbryd Duw’n llifo’n llawenydd i’n bywyd.

Fe ddown ar draws fwy nag un enghraifft yn y Beibl o bobl yn dychwelyd. Cofiwn i’r genedl Iddewig fentro’n hyderus i wlad yr Aifft er mwyn profi o’i digonedd a’i llawnder, ond yn dychwelyd gyda chreithiau’r gaethglud yn amlwg ar eu bywydau. Fe aeth y mab ieuengaf yn nameg yr Arglwydd Iesu i’r wlad bell yn llawn afiaith a phenderfyniad a’i bocedi yn llawn arian, dim ond i ddychwelyd yn waglaw a newynog a’i gydwybod wedi ei dolcio.

Yng nghyd-destun yr Ŵyl y buom yn ei dathlu gwta ddeuddydd yn ôl fe ddarllenwn am fugeiliaid a doethion yn dychwelyd wedi canfod rhyfeddod y digwydd ym Methlehem, ac y mae’r Sul yma rywsut yn gyfle inni efelychu eu hesiampl a’u hymateb.

Fe gofiwn i’r bugeiliaid droi am adref i wynebu cyfrifoldeb a dyletswyddau eu gwaith bob dydd – y gwarchod a’r gofalu am ddefaid bryniau Jwdea. Ond rywsut roedd y dychwelyd hwnnw’n wahanol i bob dychwelyd a brofwyd cynt – yn wahanol i’r daith yn ôl o’r mart, neu o fod yn ymweld â theulu a chyfeillion, ac yn wahanol hyd yn oed i’w pererindod flynyddol i’r deml yn Jerwsalem a chyfaredd y digwydd hwnnw.

Ro’dd y dychwelyd o Fethlem yn brofiad cwbl unigryw ac, er mai mynd nôl i ganol arferion eu byw bob dydd a’u gwaith a wnaethant, ro’dd yna bersbectif gwahanol i’w dychweliad a dimensiwn dyfnach i’w holl fodolaeth rywsut. Y maent yn dychwelyd ‘gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a welsant ac a glywsant’.

Y mae eu dychweliad yn acennu’r neges a glywyd gan angylion uwchlaw meysydd Jwdea: ‘Gogoniant yn y goruchaf i Dduw ac ar y ddaear tangnefedd i rai o ewyllys da.’

Y mae’r gair ‘gogoniant’ yn air hynod ddiddorol –yn un o’r geiriau hynny sy’n llwyddo i greu darlun, ac y mae yna banorama o ddarlun fan hyn.

Fe’i defnyddiwyd i ddisgrifio presenoldeb Duw yn ystod y cyfnod pan fu’r genedl Iddewig yn teithio drwy’r anialwch wedi iddynt adael yr Aifft a chroesi’r Môr Coch. Presenoldeb a amlygwyd mewn colofn o dân yn y nos a cholofn o fwg yn y dydd. Y gair a ddefnyddiwyd gan yr Israeliaid i ddisgrifio’r presenoldeb hwnnw oedd y gair shekhinah, sef y weithred o ‘godi pabell’.

A dyna oedd neges yr angylion i fugeiliaid ar feysydd Jwdea – yr oedd y darlun yn ffitio i’r dim gan mai pobl ar grwydr oedd y bugeiliaid, yn chwilio’n gyson am laswellt a lloches i’w preiddiau ac yn byw mewn pebyll – a dyma dderbyn y neges ryfeddol yma un nos gan gôr o angylion, fod y Duw mawr, a oedd ar adegau yn ymddangos yn bell, bell i ffwrdd, bellach wedi dod yn agos – mor agos yn wir nes ei fod wedi codi ei babell yn eu canol.

A dyna yw gair yr angylion – shekhinah – ‘gogoniant’, sef bod Duw wedi dod i godi ei babell yn ein plith a dod i’n canol ni a rhannu yn ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau ni, a dod ei hunan, dod mewn baban bach a’i eni mewn stabl llwm. A dyna yw byrdwn cân y bugeiliaid wrth ddychwelyd.

Darllenwn yng nghofnod Mathew wedyn i’r doethion ddychwelyd ‘ar hyd ffordd arall’. Roedd yn rhyfeddol eu bod wedi cyrraedd pen draw’r daith o gwbl, o gofio’r pellter a deithiwyd ganddynt ac o gofio taw prin fu’r cyfarwyddiadau ac mai un seren ddisglair ymhlith miliynau o rai eraill oedd yr unig gyfrwng i’w harwain. Ond yn wyrthiol fe gyrhaeddwyd pen draw’r daith ar waethaf rhyw flerwch y tu fas i balas Herod – ‘ac arhosodd y seren uwchlaw’r man lle ganed y baban’.

Mae’n siŵr i’r tri, o gofio mai gwŷr doeth oeddynt, fod wedi nodi wrth dramwyo’r ffordd i Fethlem y cyfarwyddiadau, yr heolydd a’r tirlun er mwyn eu cynorthwyo i ddychwelyd yr un ffordd ag y daethant.

Ond ‘ar hyd ffordd arall’ y dychwelwyd – ffordd newydd, ddieithr, ffordd na fuont yn ei cherdded cynt – a’r awgrym cynnil yw nad oes neb ohonom yn dychwelyd i’n ffordd yn union yr un fath wedi gweld y Baban.

Cyfrinach Gŵyl y Nadolig yw’r syndod a’r rhyfeddod sy’n peri i ninnau hefyd droi o’n llwybrau cyfarwydd, arferol, y rhai y buom yn eu cerdded gyhyd, a chanfod ffordd newydd a gwahanol.

Wrth gwrs, gallwn droi o’r ŵyl eleni eto heb iddi fod wedi gwneud iot o wahaniaeth i ni a heb lwyddo i’n cyffwrdd mewn unrhyw fodd. Ond, os llwyddodd y Nadolig yn ei neges, mi fyddwn yn dychwelyd ar hyd llwybrau newydd a daw’r Crist a aned gynt ym Methlem yn gydymaith inni i’n gwarchod a’n caru a chyfeirio’n bywydau i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan.

Boed inni brofi o’i gwmni wrth inni groesi rhiniog blwyddyn newydd. Bendith Duw a fyddo i’ch rhan a’m cofion cynhesaf,

Peter

DARLLENIADAU: Luc 2:15–20; Mathew 2:7–12

GWEDDI:
Hyd nes cawn eto gwrdd, O Dad bydd inni’n rhan
Ynghanol dyddiau dwys, mewn oriau gwan,
Rho inni nerth a gwrando’n cri
Ac estyn dy amddiffyn trosom ni.

A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall a gadwo ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.  Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD