Geiriau i’n cynnal 6: Pan ddaw’r bore

Geiriau i’n Cynnal 6: Pan ddaw’r bore

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 26ain Ebrill, 2020

Geiriau i’n cynnal 6: Pan ddaw’r bore

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Anwyliaid yr Anwel,

Mae’n rhyfedd fel y bydd tuedd ynom weithiau i gysylltu profiadau ysbrydol gyda’r anarferol a’r anghyffredin, fel na phetai gan bethau felly eu lle yng nghanol rhuthr arferol ein byw bob dydd.

Fe gofia nifer ohonom am gân fyrlymus Ryan Davies, ‘Yn y Bore’: “Codwch a gwenwch pan welwch yr haul yn y bore …”

Ma ’na hen ddywediad sy’n nodi taw’r ‘bore piau hi’ ac ma ’na rinwedd yn perthyn i’r bore – ei wawr, ei obaith a’i gyfle newydd.

Ma ’na fwy nag un cyfeiriad yn adroddiadau’r Pasg cyntaf at bethe’n digwydd yn y bore:

“Yn gynnar iawn yn y bore, dyma’r holl brif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod yn rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth …” (Mathew 27:1)

“Yn gynnar ar y bore Sul pan oedd y Saboth Iddewig drosodd a hithau’n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a’r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd ac yn sydyn bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o’r nefoedd a rholio’r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni.” (Mathew 28:1–2)

“Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y traeth, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd.” (Ioan 21:4)

Ro’n i wedi codi’n gynnar y bore hwnnw i hebrwng Meryl a’r plant i ddal y trên hanner awr wedi pump o orsaf Aberystwyth. Wedi ffarwelio, fe benderfynais yrru heibio’r prom cyn dychwelyd i’r tŷ a brecwast. Ro’dd hi’n fore hyfryd, y wawr newydd dorri, a dyma barcio’r car am ennyd a mynd allan i gerdded ar hyd ymyl y traeth ac anadlu’n ddwfn yr awelon ffres cyn i’r dref godi a thorri ar dangnefedd y bore hwnnw. Prin oedd y rhai a gerddai’r strydoedd yr adeg yna o’r dydd, ond wrth imi droi yn ôl i gyfeiriad y car fe’i gwelais – un gŵr unig wrth ymyl y trochion, bwced yn un llaw a phâl yn y llall, wrthi’n casglu mwydod mae’n siŵr. Ond gan fod ’na bethau eraill ar fy meddwl y bore hwnnw, rhaid i mi gyfaddef taw bach iawn o sylw a roddais iddo. Wedi’r cyfan, pa wahaniaeth pwy ydoedd? A phe byddai rhywun wedi gofyn imi ddisgrifio’r person, ni fyddai gennyf fawr o syniad, a dweud y gwir, ar wahân i’r ffaith ei fod yn ddyn ar y traeth.

Ym mhennod glo Efengyl Ioan ma ’na gofnod od am saith disgybl mewn cwch pysgota a fethodd adnabod y gŵr a gerddai wrth ymyl y trochion yn y bore bach.

Pam ddylen nhw? Pa gonsýrn ydoedd iddyn nhw fod yna rywun yno o gwbl? Efallai mai dim ond casglu mwydod oedd yntau hefyd.

Ro’n nhw wedi bod allan drwy’r nos yn pysgota a heb ddal yr un pysgodyn. Cyn hir mi fyddent yn dychwelyd i’r lan ac yn gorfod cydnabod gerbron eraill eu haflwyddiant, a stori ddiflas fyddai honno. A chyda’r blinder o ddiffyg cwsg, a swp o rwydau gweigion, ma’n nhw yn ei helmio hi i gyfeiriad y lan.

Ond yn waeth o lawer na diflastod y rhwydau gwag o’dd y ffaith fod eu popeth nhw wedi dod i ben rai diwrnode ynghynt, holl gastelli eu bywyd wedi eu dymchwel pan groeshoeliwyd eu Harglwydd ar fryn Calfaria, a nawr yn eu hansicrwydd a’u hanobaith ma’n nhw wedi dychwelyd i’w cynefin yng Ngalilea ac wedi treio eu llaw at bethe cyfarwydd – cychod a rhwydau a gêr pysgota.

Saith gŵr mewn cwch pysgota wedi ymgolli cymaint yn eu meddyliau, eu siom a’u tristwch, nes iddynt fethu adnabod y dyn ar y traeth.

Ei adnabod Ef sy’n troi anobaith yn obaith, siom yn orfoledd ac ansicrwydd yn argyhoeddiad di-syfl.

“Pan ddaeth y bore”, meddai’r cofnod, “safodd Iesu ar y lan”, a dyna wahaniaeth mae ei ymddangosiad Ef yn ei wneud. Ar y bore rhyfeddol hwnnw yng Ngalilea wedi’r Pasg mae pysgotwyr digalon yn canfod ma’r dyn ar y traeth yw’r Atgyfodiad Mawr ei hunan.

Ie, fe sy’n padlan ei dra’d yn y trochion. Fe sydd wedi gwitho’r tân golosg ar y tra’th ac wedi coginio brecwast. Fe, nid ysbryd, na rhith, Fe ei hunan.

Ac ar ei air Ef, fe fwriwyd y rhwyd, ac ar ei air Ef ma’r wyrth yn digwydd ac ma’n nhw’n cofio am rywbeth tebyg a ddigwyddodd rai blynydde ynghynt ac yntau wedi sôn bryd hynny am fod yn bysgotwyr dynion.

Na, yn amlwg, do’dd pethe ddim ar ben, a thros frecwast y bore hwnnw y mae Crist yr Atgyfodiad yn gosod o flaen ei ddisgyblion ei fwriadau – agenda a maniffesto’r Deyrnas.

Ysgogiad y Pasg yw i eglwys Iesu Grist ymgadw rhag pwyso ar ei rhwyfau gyda’i methiannau a’i hatgofion am ddigwyddiadau ddo’, i ymgadw rhag loetran mewn gardd o gylch bedd ac amdo’r marw, ond i symud ymlaen.

Mae’n siŵr y bydd y cyfnod hwn yn esgor ar newidiadau yn ein hymwneud a’n rhannu ac yn ein cyfathrebu. Dyhead Waldo Williams yn ei gerdd ‘Plentyn y Ddaear’ yw y “daw’r bore ni wêl ond brawdoliaeth yn casglu teuluoedd y llawr”. Tybed a fydd yr argyfwng yn gyfle i ni, o sylweddoli’n breuder, i ymddiried mewn gwerthoedd rhagorach nag eiddo’r byd ac i ddyfnhau’n ffydd mewn Un sy’n Arglwydd Bywyd ac yn orchfygwr angau.

Onid anogaeth yr angel o enau’r bedd gwag ar fore’r Pasg oedd i’w ddisgyblion droi i lecyn gwahanol er mwyn ei ganfod Ef yno a gwneud hynny yng nghanol trefn a digwydd arferol bywyd – wrth ymyl y trochion ar lan môr, yn y bore bach.

Mi fydd rhyw lecynnau yn ein hanes ni hefyd a ddônt yn fannau cyfarfod â’r Crist Byw, yn fannau i’n hysgogi i dreulio amser yn Ei gwmni ac i fentro i’r anturiaeth newydd y mae Ef yn ei chynnig inni’n wastadol. Boed inni, o’u canfod, ymddiried ynddo.

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Salm 30:1–5; Eseia 41:10; Ioan 21: 1–14

GWEDDI:

Diolch i ti Arglwydd am lygaid agored i’th ganfod di yn dy fyd ac yn dy greadigaeth. Diolch am yr ymwybyddiaeth dy fod ti ym mhob dim ac ym mhopeth sydd o’n cwmpas ni. Agor ein llygaid i’th weld yn y cyffredin, yng nghanol berw a bwrlwm ein byw, yn ein hymwneud â’n gilydd, yng nghanol ein cyfrifoldebau a’n dyletswyddau, yn ein gobeithion a’n dyheadau – yr oll yn gysegredig, am dy fod Ti yn Arglwydd y cyfan.

Cynorthwya ni i’th ganfod yn awr yn y gyfeillach hon o gylch y Gair a synhwyro dy fod wrth ein hymyl ni y foment hon. Bendithia ni, nertha ni, defnyddia ni; bwrw dy gysgod trosom a maddau i ni bopeth nad yw’n brydferth yn ein bywydau.

Tywys ni i ryngu dy fodd a dwyn clod i’th enw – yn Iesu Grist, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Clychau’r Gog