Geiriau i’n Cynnal: Cofio #cofio

Geiriau i’n Cynnal: Cofio

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘COFIO’

Sul, 8fed Tachwedd, 2020
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas]

 

Anwyliaid yr Anwel,

Eleni, oherwydd lledaeniad haint Covid 19 a’r angen i ymgadw rhag cynnull mewn niferoedd, penderfynwyd rhoi heibio’r arfer mewn llawer man o gynnal gwasanaeth wrth gofebau rhyfel ar Sul y Cofio. Penderfynwyd yn hytrach gyflwyno digwyddiadau rhithiol dros y we ac ar deledu mewn ymgais i gofio ymdrech ac aberth y rhai a gollodd eu bywyd mewn dau ryfel byd ac mewn brwydrau eraill.

Mi fydd yr arfer o wisgo pabi coch ar got a gosod plethdorchau ar gofebau yn fynegiant o’r cofio hwnnw.

Ni ddaw henaint i’w rhan hwy,
Fel i ninnau, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded
Na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i’w orwel
Ac yn y bore,
Ni a’u cofiwn hwy,
Ni a’u cofiwn hwy.
(efel. Cymraeg o eiriau Laurence Binyon)

Aeth canrif a mwy heibio bellach ers diwedd y rhyfel byd cyntaf – ac eto fe erys yr arfer o gofio.

Mi fydd cofio yn gyfrwng  i gysylltu digwyddiadau ddoe â’n byw heddiw ac yn ein galluogi i uniaethu â’u profiadau, a hynny oherwydd ein bod yn rhannu o’r un ddynoliaeth, ac o’r gwead dirgel, chwedl Waldo, ‘sy’n cydio pob dyn byw; cymod a chyflawn we, Myfi, Tydi. Efe …’

Ni chyfyngir y cofio hwnnw chwaith gan y rheidrwydd inni fod yno. Nid oes neb yn byw bellach a brofodd erchylltra brwydrau’r Liège, y Somme, Ypres a Passchendaele – bu farw Henry John Patch, y milwr olaf a frwydrodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 111 oed ym mis Gorffennaf 2009, ac eto ar y Sul hwn ganrif a mwy wedi’r digwydd yr ydym yn dal i goffáu eu haberth hwy mewn tosturi a chydymdeimlad, yn dawel a dwys; fe barchwn ac anrhydeddwn eu coffadwriaeth.

Beth wnewch chi â’ch pabi coch wedi Sul y Cofio tybed? Fyddwch chi’n ei daflu i ffwrdd, neu yn ei gadw tan flwyddyn nesaf? Fyddwch chi’n ei osod mewn drôr ynghanol trangwns eraill a’i anghofio neu a fyddwch yn ei osod mewn lle amlwg a gweladwy? Ond, yn fwy penodol efallai, ga i holi – beth a wnawn ni â’n cofio wedi i Sul y Cofio fynd heibio?

Heddiw ar y Sul hwn, mi fydd llawer un yn cofio am aberth y rhai a gollodd eu bywyd o ganlyniad i gyflafan rhyfel ac yna ddydd Mercher mi fydd y cofio’n parhau gan fod yr 11eg Tachwedd yn Ddydd y Cofio. Am 11.00 o’r gloch ar y dyddiad hwnnw yn 1918 y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Ond beth am ddydd Iau a’r diwrnod wedyn – a fydd y cofio wedi gorffen wedyn? A fyddwn yn rhoi heibio ein cofio am flwyddyn arall fel a wnawn gyda’n trimins a’n haddurniadau ’Dolig ddeuddeg diwrnod wedi’r digwydd?

Mi ddylai’n cofio wneud gwahaniaeth i’r modd y byddwn yn byw ein bywydau wedi’r digwydd.

Ar gychwyn y nawdegau cyhoeddwyd cyfres o ysgrifau ar hanes Cymru o dan y teitl COF CENEDL ac yn ei ragymadrodd i’r gyfres y mae’r golygydd, yr Athro Geraint Jenkins, yn cyfeirio at yr elfennau nodedig hynny a gyfranna i’n bodolaeth fel cenedl. Hebddynt, meddai, ‘Nid oes gennym nac enw, na llais, na hawliau, nac aelodaeth ym mrawdoliaeth dynolryw; oherwydd o fewn y frawdoliaeth honno saif y cyfrifoldeb i ni hybu a diogelu’r gwerthoedd hynny sy’n esgor ar gariad, heddwch a chymod rhwng dyn a’i gyd-ddyn – y rhain yw seiliau gwareiddiad a gobaith pobloedd y byd.’

Mae Gair Duw yn ein hatgoffa’n gyson o’r angen i gofio. Y mae’r Hen Destament yn frith o gyfarwyddiadau i’r genedl gofio ymwneud Duw yn eu hanes ac am ei berthynas unigryw â hwy, ei ddarpariaeth a’i waredigaeth.

Yn y Deg Gorchymyn a dderbyniodd Moses gan Dduw ar fynydd Sinai y mae gofyn i’r genedl ‘gofio’r dydd Sabath i’w sancteiddio’ (Exodus 20:8) ac wrth inni gamu i Lyfr Deuteronomium cawn yno restr o’r gorchmynion yr oedd disgwyl i’r genedl eu cofio a’u dilyn: ‘Gofalwch na fyddwch yn anghofio’r Arglwydd eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion …’(Deut. 8:11).

Y mae Llyfr y Pregethwr yn ein hannog ‘i gofio’r Creawdwr yn nyddiau ein hieuenctid, cyn i’r dyddiau blin ddod …’ (Preg.12:1).

Ac yna mae’r proffwyd Eseia yn cymell y genedl i ymgadw rhag loetran uwchben hen hanes ond i gofio fod y Duw sydd wedi darparu yn cyflawni pethau newydd yn barhaus (Eseia 43: 18–19).

Fel rhan o ddefod Gŵyl y Bara Croyw i gofio gwaredigaeth yr Aifft, y mae Moses yn gorchymyn: ‘Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ caethiwed oherwydd â llaw nerthol y daeth yr Arglwydd â chwi oddi yno.’ (Exodus 13:3)

Wrth inni droi i’r Testament Newydd wedyn gwelwn y cofio yn fynegiant o’n ffydd a’n hymddiriedaeth yn ein Harglwydd Iesu Grist. Mi fydd cofio ei aberth a’i fuddugoliaeth ar Galfaria yn ein hatgoffa taw ef a roes ei ddwylo pur ar led ac a wisgodd goron ddrain – trosom ni. Ar groesbren Calfaria y gwelwyd yr aberth eithaf – ym marwolaeth Iesu, ei ddioddefaint a’i goncwest ef ar angau a bedd, y mae inni waredigaeth a bywyd.

Yng nghyd-destun ein haddoliad mi fydd yr anghenraid i gofio yn elfen amlwg o’r digwydd. Mi fydd y weithred o dorri bara ac yfed y cwpan mewn cymun yn fynegiant o aberth Iesu Grist ac fe wnawn hyn ‘er cof amdano’.

Fe rydd Thomas Lewis, y gof o Dalyllychau, lais a mynegiant i’r cofio hwnnw yn ei emyn grymus:

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd a’i chwys fel defnynnau o waed,
Aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad,
A’i arwain i Galfarî fryn a’i hoelio ar groesbren o’i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn, pa galon mor galed na thodd?

Ynghanol pob argyfwng – ynghanol cwestiynau nad oes iddynt ateb a thristwch nad oes iddo ymwared – diolchwn fod inni ‘Ŵr dirmygedig sy’n gynefin â dolur – yr Hwn a gymerth ein gwendid ni ac a ddug ein doluriau ni’, sydd yno ynghanol pob adfyd a chaledi yn uniaethu â dioddefaint y byd, am iddo yn ei gariad anhraethol ein prynu ni i fywyd trwy ei waed.

‘Efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni …’

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Eseia 53; 1Corinthiad 11 23-26

GWEDDI: Ar y Sul hwn, O Dad, cysegra di ein cofio a rho dy gymorth inni fyw mewn cymod a chariad â’n gilydd. Cofia am y rhai sy’n gorfod ymgodymu ynghanol sefyllfaoedd o wrthdaro a thrais, cysgoda trostynt ac estyn iddynt o’th gymorth a’th amddiffyn. Cyflwynwn i’th ofal y rhai hynny sydd â’u sefyllfaoedd yn fregus ac yn anodd, cylcha o’u cwmpas a dyro iddynt dy nerth a’th ymgeledd. Diolchwn, O Dad, y medri di gamu i’n hymyl yn ein hadfyd a’n siom, yn ein gwynfyd a’n gorfoledd gan rannu inni o’th dangnefedd a’th gariad. Helpa ni i ymddiried ynot o’r newydd a phwyso arnat am dy arweiniad.

Yn enw Iesu Grist, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD