Geiriau i’n Cynnal 12: ‘Brawdoliaeth’

Geiriau i’n Cynnal 12: ‘Brawdoliaeth’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

7fed Mehefin, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 12: ‘Brawdoliaeth’

Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.

Anwyliaid yr Anwel,

Hanner cant a saith o flynyddoedd yn ôl ar yr 28ain o fis Awst 1963 yn ninas Washington traddododd Dr Martin Luther King araith rymus a chofiadwy ar risiau Cofeb Lincoln gerbron cynulleidfa o dros chwarter miliwn o bobl:

Mae gennyf freuddwyd y bydd pobl yn cael eu barnu nid yn ôl lliw eu croen ond yn ôl cryfder eu cymeriad … Mae gen i freuddwyd y bydd plant bach du a phlant bach gwyn ryw ddydd yn gallu dal dwylo fel brodyr a chwiorydd … Mae gen i freuddwyd y gwelaf y genedl hon yn codi ryw ddydd i fyw’r hyn a ddywed un o erthyglau ei chyfansoddiad: ‘Daliwn fod y gwirionedd hwn yn eglur, fod pob dyn yn gydradd.’

Llwyddodd ei araith i ysbrydoli nid yn unig y miloedd a oedd yno fel rhan o’r orymdaith ond miloedd mwy trwy’r wlad yn gyfan a oedd yn dyheu am gydraddoldeb a diwedd ar wahaniaethu yn yr Unol Daleithiau ac yn galw am hawliau cyfartal, rhyddid a chyfiawnder i bobl o bob tras, beth bynnag fo lliw eu croen.

Ond bu llofruddiaeth giaidd George Floyd, gŵr du ei groen, gan aelodau o’r heddlu ym Minnesota ychydig dros wythnos yn ôl yn fodd i’n hatgoffa gyda thristwch fod y freuddwyd honno a fu’n gyfrwng gobaith yn 1963 heb gael ei gwireddu eto, a bu’r protestiadau a’r gwrthdaro ar strydoedd Washington ac mewn llawer dinas ar draws yr Unol Daleithiau yn brawf o hynny. Y mae ei farwolaeth wedi tynnu sylw at gamweddau hiliol y mae cynifer o fewn ein cymunedau ac ar draws y byd yn eu hwynebu’n ddyddiol.

Y mae troi llygad ddall i’r anghyfiawnder hwn neu anwybyddu tynged y bobl hyn yn golygu ein bod yn hyrwyddo ei barhad yn hytrach na chodi’n llais i roi terfyn arno. Bellach, y mae pobl mewn llawer man, gan gynnwys Aberystwyth, wedi uniaethu â’r alwad i fynegi mewn protest heddychlon y gri: ‘Mae bywydau Pobl Ddu o bwys’. Cri a acennwyd gan y Cyn-arlywydd Barack Obama wrth bobl ifanc: ‘Mae’ch bywyd chi’n werthfawr a’ch breuddwydion chi o bwys.’

Pa werth na thry yn wawd
Pan laddo dyn ei frawd?     (Waldo Williams) 

Dwy fil o flynyddoedd yn ôl ar ddydd y Pentecost traddododd Pedr, un o ddisgyblion Iesu Grist a oedd newydd dderbyn eneiniad yr Ysbryd Glân, anerchiad gerbron tyrfa yn ninas Jerwsalem. Fe gododd destun o Lyfr Proffwydoliaeth Joel yn yr Hen Destament gan atgoffa ei gynulleidfa gosmopolitan a oedd wedi ymgynnull yno ‘o bob cenedl dan y nef’ am addewid rhyfeddol Duw:

Ar ôl hyn y tywalltaf o’m hysbryd ar bob cnawd a bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion a’ch gwŷr ifanc yn cael gweledigaethau ac ar fy ngweision a’m morwynion fe dywalltaf o’m hysbryd yn y dyddiau hynny.

Mae’n addewid cynhwysol. Sylwch nad oes dim gwahaniaethu; nid addewid ydyw hwn ar gyfer rhywrai dethol ar draul y gweddill, ond i bawb yn ddiwahân – does neb yn cael ei adael allan. Ar ddydd y Pentecost gwireddwyd proffwydoliaeth Joel a rhoddwyd i wŷr ifanc a hynafgwyr, yn ferched a dynion, yn gaeth a rhydd, y ddawn i broffwydo, i ganfod gweledigaethau ac i freuddwydio breuddwydion.

Mae’r Ysbryd yn cael ei dywallt ar bawb (Effesiaid 5:18), yn rhannu o’i roddion a’i ddoniau i bawb (1 Corinthiaid 12:7) ac yn eu grymuso a’u galluogi i fod yn dystion, yn lladmeryddion Efengyl Iesu Grist ac yn genhadau cymod a chyfiawnder a heddwch.

Cymaint fu effaith y bregeth honno ar ddydd y Pentecost fel bod nifer o’r rhai a’i clywodd wedi ymateb i’r genadwri: ‘Fe’u dwysbigwyd yn eu calon a dywedasant wrth Pedr, “Beth a wnawn ni?”’

Mae Pedr yn ateb: ‘Edifarhewch a bedyddier chwi, pob un ohonoch, yn enw Iesu er maddeuant eich pechodau ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.’

Gair diddorol yw’r gair edifarhau. Mae’n golygu mwy na jyst ‘Sorri, ddylswn i ddim fod wedi gwneud hyn’na’! Ystyr ‘edifeirwch’ yw troi – newid cyfeiriad – newid ffordd, newid meddylfryd a newid y modd yr edrychwn ar fywyd er mwyn canfod ffordd amgenach.

Pan mae Paul yn ysgrifennu ei lythyr at eglwys Rhufain y mae’n rhestru hanfodion y bywyd newydd yn Iesu Grist ac yn dweud: ‘Peidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn’ – byd lle mae pobl yn ystyried eu hunain yn well nag eraill, yn hybu diwylliant sy’n rhoi’r hunan yn gyntaf. Cymdeithas lle mae pobl yn ddifater o ddyfodol y blaned a’r newid mewn hinsawdd; cymdeithas sy’n pentyrru arfau dinistriol mewn ymgais i ddangos goruchafiaeth a grym; cymdeithas sy’n ystyried pobl yn israddol oherwydd bod lliw eu croen yn wahanol. Trowch a ‘gadewch i Dduw eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl a chanfod beth yw ei ewyllys a beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg’ (Rhuf. 12:2). A dyna yw rhodd y Pentecost, dyna y mae’r Ysbryd hwn yn medru ei wneud – ein troi ni a’n newid ni.

Newid ein hagwedd meddwl ni mewn perthynas â’n cyd-ddyn, ein cymydog a’n brawd a dweud ‘Na!’ wrth hiliaeth a gorthrwm ym mhob sefyllfa ar draws y byd. Mae cân Sydney Carter yn holi: ‘Pan oedd angen cymydog ble roet ti? Dydi’r lliw na’r enw na’r gred ddim yn cyfrif – ble roet ti?’ Ble ’ryn ni’n sefyll? Beth yw ein hymateb ni? ‘Yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.’ (Mathew 25:40)

Yn y weithred o edifarhau yr ydym yn cydnabod yr angen i newid, i geisio meddylfryd gwahanol a ffordd amgenach, gan arddel Iesu Grist yn Arglwydd a Gwaredwr, derbyn ei faddeuant a dod yn gyfranogion o’i addewid rhyfeddol – ‘a chwi a dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.’

Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw;
Cymod a chyflawn we
Myfi, Tydi, Efe.        (Waldo Williams)  

Onid dyna yw Brawdoliaeth?

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Actau’r Apostolion: 2:14–42; Rhufeiniaid 12: 1–21

GWEDDI:

Ein Tad, mewn byd caled a chreulon, lle mae anghyfiawnder a diffyg brawdgarwch yn parhau i greu tensiynau a dryswch, gad inni gofio dy fod wedi ein creu yn blant i ti ac mai dy fwriad yw i bawb ohonom geisio byw mewn cytgord a chymod â’n gilydd. Dilea atgasedd a chrea ynom frawdgarwch a pharch at ein cyd-ddyn pwy bynnag y bo.

Pâr inni ddathlu amrywiaeth ein harferion a’n diwylliant ac ymroi i barchu’n gilydd mewn cariad, i sicrhau rhyddid, cydraddoldeb a goddefgarwch yn ein holl ymwneud.

Gweddïwn am gymod rhwng cenhedloedd am heddwch sy’n seiliedig ar gyfiawnder ac i ymwrthod â gormes a gwrthdaro.

Cylcha o’n cwmpas â’th Ysbryd Glân a gwared ni yn enw Iesu Grist, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Protest heddychlon yn Aberystwyth 4 Mehefin i gofio George Floyd a chefnogi Black Lives Matter.