Geiriau i’n Cynnal 19: Adfer

Geiriau i’n Cynnal 19: Adfer

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, 26ain Gorffennaf, 2020

GEIRIAU I’N CYNNAL 19: ‘Adfer’

Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.

Anwyliaid yr Anwel,

Fe ŵyr y rhai hynny ohonoch sy’n ymddiddori mewn creiriau a hen bethau fel y bydd y nam lleiaf mewn llestr yn ddigon i ostwng ei werth yn sylweddol. Yn hanes llestri cyffredin, pe digwydd iddynt dorri fe’u teflir gan amlaf i’r bin sbwriel, ond weithiau, a hynny oherwydd bod y llestr yn hen, neu wedi ei dderbyn yn rhodd, fe eir ati i geisio gludo’r darnau mewn ymgais i’w adfer. Mi fyddai’n arfer ’slawer dydd i staplo’r darnau toredig ynghyd, ond fel y nodais mewn pennill un tro: ‘er y prysur gyfannu i ddwyn ynghyd y darnau brau, ceir o hyd ôl y creithiau’.

Ymhlith fy hoff raglenni ar deledu y dyddiau hyn y mae’r rhaglen The Repair Shop a byddaf yn rhyfeddu at ddawn rhai o’r arbenigwyr wrth iddynt fynd ati i adfer y darnau toredig. Yn eu plith ma’na wraig yn yr adran cerameg sy’n medru trwsio llestr toredig gyda’r fath fedrusrwydd fel na fedrwch weld y creithiau bellach.

Gwyddom i gyd am sefyllfaoedd toredig mewn bywyd hefyd, ac am y tristwch a’r chwalu a ddaw yn sgil y profiadau chwerw hynny.

Mae’r cyfnod hwn wedi dwyn ei dristwch i gynifer, gan adael creithiau dwfn ar fywydau llawer un. Pan ystyriwn fod dros ddeugain a phump o filoedd wedi marw ym Mhrydain o ganlyniad i firws Covid-19, heb sôn am y miloedd mwy ar draws y byd, mi fydd yn ddigon i’n brawychu – y teuluoedd a fylchwyd, y breuddwydion a’r gobeithion a chwalwyd.

Ma’na dŷ bwyta yn y ganolfan fasnach ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. ‘Wagamama’ yw enw’r lle ac mae bwyd o ansawdd arbennig yn cael ei weini yno. Bwydydd o wlad Thai a Siapan sydd ar y fwydlen.

Ystyr y gair wagamama yn iaith Siapan yw boddhad, sy’n rhyw awgrymu, mae’n siŵr, y byddai blasu arlwy’r tŷ bwyta hwnnw yn fwynhad arbennig.

Bellach, o ganlyniad i ledaeniad yr haint ac oherwydd yr angen i ymgadw rhag ymgynnull mewn sefyllfaoedd clòs, mae’n siŵr y bu’n rhaid i’r tŷ bwyta hwnnw fel llawer lle arall fynd ati i ad-drefnu pethau. O fewn yr adeilad roedd byrddau hir a meinciau pren i eistedd arnynt ac roedd disgwyl ichwi rannu’r bwrdd gyda chwsmeriaid eraill o’ch cwmpas. Mi fyddai sgwaryn o bapur a chopsticks yn nodi eich safle ar y bwrdd ac ar hwnnw mi fyddai’r gweinydd yn ysgrifennu rhif eich dewis o’r fwydlen. Yna ar ddiwedd y pryd mi fyddai’r darn papur a’r chopsticks yn cael eu clirio, y ford yn cael ei sychu a darn papur a chopsticks glân yn cael eu gosod ar gyfer y cwsmer nesaf.

Mi fydd y darnau papur gan amlaf yn hysbysebu prydau penodol o’r fwydlen gan ein hannog i fentro eu dewis a’u blasu. Ond pan fuom ni yno rai dyddiau cyn y cau-lawr nôl ym mis Mawrth yr oedd yna ddarlun gwahanol ar y darn papur, ac yn hytrach na gadael iddo fynd i’r sbwriel fe ddes ag ef adref gyda mi. Ar y darn papur nodwyd fod cwmni Wagamama yn cefnogi ymgyrch Iechyd Meddwl a bod cyfran o elw’r cwmni yn cael ei gyflwyno’n nawdd. Ar y darn papur yr oedd llun plât a oedd wedi chwalu a rhywun wedi mynd ati i’w adfer, ond yn hytrach na cheisio cuddio’r creithiau a’r craciau, fe aed ati i’w pwysleisio trwy gymysgu aur gyda’r glud er mwyn dwyn sylw at brydferthwch yr hyn a dorrwyd.

‘O’r toredig i’r prydferth’ yw’r ymadrodd sy’n ymddangos uwchlaw’r llun gan gyfeirio at y grefft Siapaneaidd KINTSUGI (trwsio ag aur), y grefft o adfer crochenwaith toredig. Y mae’r defnydd o aur nid yn unig yn trwsio’r darn ond yn ychwanegu at ei werth. Yn hytrach na chuddio’r brychau y mae artistiaid Kintsugi yn dwyn prydferthwch, deinameg a newydd-deb i ddarnau toredig.

Weithiau mi fydd pobl yn adweithio i sefyllfaoedd toredig a thrist trwy geisio cuddio’u siom a’u poen. Yn gwisgo ffrynt gan roi’r argraff allanol eu bod yn ymdopi’n iawn tra eu bod mewn gwirionedd yn gwegian oddi mewn.

Mynych yn ystod ei weinidogaeth ddaearol cawn enghreifftiau o’r Arglwydd Iesu yn adfer bywydau toredig, yn dwyn balm i drwsio calonnau, ac Ef yw’r un sy’n ein cymell i ddod ato gyda’n blinderau a’n hofnau, yn doredig a llwythog i brofi gorffwystra i’n heneidiau a balm i’n briwiau (Mathew 11:28).

Fe gofiwn iddo un tro ar gais gŵr o’r enw Jairus iacháu ei ferch fach a oedd yn ddifrifol wael ac yn marw. Ond ar ei ffordd i’w hadfer ma’na wraig a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeg mlynedd yn mentro cyffwrdd ag ymyl ei fantell ac mae’r cyffyrddiad hwnnw yn dwyn iachâd. Mae Iesu yn synhwyro fod yna rinwedd wedi mynd allan ohono ac fe holodd y rhai o’i gwmpas: ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ Y mae’r wraig yn camu ymlaen yn wylaidd, yn cydnabod taw hi a wnaeth ac yn rhannu ei stori.

Dro arall roedd Iesu newydd fynd i mewn i’r synagog ar y Sabath pan welodd ddyn a oedd wedi camu i gysgodion yr ystafell – dyn a chanddo law ddiffrwyth. Awgrymodd rhai mai saer ydoedd o ran ei alwedigaeth, ond o ganlyniad i’w gyflwr bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w grefft. O bawb oedd yno, dyma’r un sy’n mynd â sylw Iesu ac o’i weld yno, fe ddywed Iesu wrtho: ‘Cod a saf yn y canol.’ Mae’n gwella’r llaw ac yn ennyn beirniadaeth rhai a oedd yno o gofio taw’r Sabath oedd hi.

Nid yw’r adferiad yn digwydd ar unwaith bob tro; fe gofiwn yn hanes y deg gwahanglwyf mai yn y mynd yr oedd mendio; wrth iddynt droi i’w ffordd i ddangos eu hunain i’r offeiriad y daeth iachâd. A syndod y digwydd hwnnw oedd mai ond un ohonynt a ddychwelodd at Iesu i ddiolch iddo. Ac ma’na gymaint mwy o enghreifftiau on’d oes? – y bywydau toredig a ddaeth i gyswllt â’r Arglwydd Iesu yn ystod ei weinidogaeth ac yntau’n llwyddo i’w gwella a chofnod eu stori’n troi’n dystiolaeth i’w allu a’i ddawn ryfeddol, yn dwyn prydferthwch o bethau toredig.

Onid anogaeth Iesu Grist i’w ddilynwyr oedd iddynt hwythau yn ei enw rannu’r un ddawn: ‘A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan … ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn iro llawer o gleifion ag olew a’u hiacháu.’ (Marc 6:7–13)

Weithiau, mi fydda i’n rhyfeddu fod Duw yn medru gweld a chyfeirio’n benodol ei nerth a’i iachâd, ei ymgeledd a’i gysur i bobl yn eu hangen a’u trallod.

Ma’na gerdd gan Alfred Lord Tennyson am ferch fach o’r enw Amy sydd mewn ysbyty – yntau’r bardd wedi galw i’w gweld yn ei llesgedd ac wedi ei hannog hi i ddweud ei phader bob nos, a hithau’n ateb:

‘Yes and I will,’ said Amy, ‘but then, if I’ll call to the Lord

How will he know it’s me, with so many beds on the ward?’

Y mae Ef yn ein gweld ni i gyd jyst fel ry’n ni ac yn gwybod am ein hanghenion, ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau. Mae’n medru camu i’n hymyl mewn oriau anodd a repario pethe toredig; mae’n medru estyn balm i’r briwedig a chysur i’r trallodus. Felly, sut bynnag y mae arnom y foment hon, beth am inni ymddiried ynddo a phrofi cyffyrddiad y llaw sy’n adfer ac yn euro’r creithiau.

Cofia’r byd, o Feddyg da, a’i flinderau,
Tyrd yn glau, a llwyr iachâ ei ddoluriau.

 

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Jeremeia 8:1–11; Mathew11:28–30; Luc 6:6–11 ac 8:40–56.

GWEDDI:

O Dad nefol, ‘Ti yw’r un sy’n adnewyddu, ti yw’r un sy’n bywiocáu’. Gennyt Ti y mae’r ddawn i gyfannu’r darnau toredig, i asio’r deunydd brau ac i euro’r creithiau yn wrthrychau cain a phrydferth drachefn. Adfer ein bywydau ninnau a gwna ni’n gyfryngau clod a mawrhad i ti. Yn enw Crist, Amen.

 

GWEDDI’R ARGLWYDD