Geiriau i’n Cynnal: Canfod a Chredu

Geiriau i’n Cynnal: Canfod a Chredu

William Howells
gan William Howells

GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Canfod a Chredu’

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Unwaith eto cawn ein hunain yn wynebu cyfnod o gyfyngiadau a chloi i lawr yn sgil lledaeniad haint y Coronafirws. Y gobaith oedd llacio’r mesurau dros gyfnod y Nadolig er mwyn i deuluoedd ymgynnull i ddathlu’r ŵyl, ond wrth i’r sefyllfa waethygu ac ystadegau’r rhai yr effeithiwyd arnynt gynyddu, bu’n rhaid adolygu’r trefniant hwnnw. Bu’r penderfyniad yn un anodd gan ddwyn ei siom i gynifer a chwalu eu gobeithion a’u disgwyliadau.

O fewn pum diwrnod mi fydd hi’n Nadolig, ac er y bydd hi, ar lawer ystyr, yn ŵyl wahanol eleni, mi fydd ei chenadwri yr un mor rymus ag y bu erioed.

Ar y 17eg o fis Rhagfyr 1903 yn nhalaith Gogledd Carolina, wedi sawl cynnig aflwyddiannus, fe lwyddodd Orville a Wilbur Wright i hedfan awyren a hynny am y waith gyntaf mewn hanes. Wedi iddynt gyflawni’r gamp danfonwyd telegram at eu tad yn nodi: ‘Wedi hedfan 120 o droedfeddi – byddwn adref ar gyfer y Nadolig.’ Pan ddarllenodd Katherine eu chwaer y neges rhedodd ar ei hunion i swyddfa’r papur newydd lleol a’r telegram yn ei llaw a’i ddangos i’r golygydd. O’i ddarllen dywedodd: ‘O, dyna braf, mi fydd y bechgyn adref ar gyfer y Nadolig,’ gan anwybyddu’r neges ryfeddol am orchest y ddau yn hedfan yr awyren.

I lawer, mae’n siŵr, prif gonsýrn y Nadolig yma fydd lledaeniad haint y Coronafirws a’r gobaith y bydd y canllawiau a gyflwynwyd yn llwyddo i’w lesteirio. Ond neges ryfeddol a newyddion da’r Nadolig yw: ‘Ganwyd i chwi heddiw, yn nhref Dafydd, Waredwr yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.’

Ar drothwy’r Nadolig, fe eir ati i ailadrodd yr hen, hen stori. Fe drown i’r adrannau cyfarwydd yn Efengyl Mathew a Luc sy’n sôn am ddyfodiad Doethion a Bugeiliaid yn eu cwest i ganfod yr un a aned ym Methlem, ymhell, bell yn ôl.

Efallai fod tuedd inni feddwl am y digwydd yng nghyd-destun y cymeriadau a oedd yn rhan o’r ddrama wreiddiol mewn lleoliad nodedig, ar gyfnod penodol mewn hanes ac nad oes a wnelo hynny bellach â’n bywydau ni ugain canrif a mwy yn ddiweddarach.

Mae’n siŵr fod nifer ohonom yn cofio inni unwaith pan oeddem yn bethe bach gamu i lwyfan drama’r Geni mewn ysgol neu Ysgol Sul a phortreadu’r cymeriadau hynny a gysylltir â’r digwydd. Yn un o’r bugeiliaid, efallai, gan nad oedd cyfyngiad ar eu niferoedd hwy. Tri gŵr doeth mewn gwisgoedd mwy ysblennydd oedd y Doethion, a choron am eu pennau a blychau addurnedig i gynrychioli’r anrhegion drud o aur a thus a myrr. I ferched bach, roedd y gyfaredd o gael gwisgo adenydd a chylch golau yn rôl angylion, ac wrth gwrs rhaid oedd i rywun chwarae rhan y brenin cas, bygythiol Herod, rôl y cefais fy hun ynddi fwy nag unwaith! Ond os oedd gennych lais canu gwell na’r gweddill efallai i chi gael cynnig chwarae rhan rhai o brif gymeriadau’r ddrama oherwydd gan amlaf roedd disgwyl i Mair a Joseff ganu carol neu ddwy fel rhan o’r digwydd a dod yn sêr y perfformiad.

Mi gofiwch taw ymateb y bugeiliaid i neges yr angylion oedd: ‘Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.’

Nid oedd y ddigon iddynt eu bod wedi clywed y newyddion da o lawenydd mawr, yr oeddynt am fod yn dystion o’r digwyddiad – yr oeddynt am droi’r cyhoeddiad yn brofiad a stori’r Nadolig – eu stori hwy.

Dyhead y Nadolig yw acennu bwriad y bugeiliaid, sef ein bod ni yn canfod trosom ni ein hunain y Ceidwad yn y gwair a bod modd i ni, o’i ganfod, gyhoeddi i’r byd wyrth y beudy. Symud o ddigwydd y Nadolig i brofiad y Nadolig.

A dyna yw’r gamp. Mor aml yn sedd y gwrando a’r gwylio y byddwn ni – yn rhyw edrych i mewn ar y digwydd yn hytrach na chamu i’w ganol.

Onid ydym wedi canu’r garol lawer gwaith: ‘I orwedd mewn preseb rhoed crëwr y byd’ ac wedi ymuno yn anogaeth y pennill olaf: ‘Tyrd Iesu i’m hymyl ac aros o hyd i’m caru a’m gwylied tra bwyf yn y byd …’ Hynny yw, fod yr un a roed mewn preseb yn un sydd yma i’n caru a’n gwylied nawr – yn Un fedr gamu i ganol ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau cyfyng y Nadolig hwn gan ddwyn ei gyfaredd a’i gyffro a gobaith i’n rhan.

Rhai blynyddoedd yn ôl ar fore gaeafol, oer, dechreuodd gŵr ifanc chwarae ei feiolin ar ochr palmant yn un o orsafoedd Metro dinas Washington DC. Tra bu yno’n chwarae rhuthrodd cannoedd o bobl heibio iddo i ddal y trenau bore ar eu ffordd i’w gwaith. Ond bu clywed y gerddoriaeth yn fodd i eraill arafu eu cam ryw ychydig, cyn codi cyflymdra eu cerddediad drachefn i gyfeiriad y platfform llwythog.

Taflodd rhai arian i’r cap brethyn oedd ar lawr wrth iddynt gamu heibio iddo’n frysiog. Oedodd un wraig ifanc am foment i wrando, ond yna, o ganfod yr amser, brasgamodd yn ei blaen, yn amlwg roedd yn hwyr!

Gollyngodd crwt bach ei afael yn llaw ei fam a stopio i syllu ar y gŵr oedd yn chwarae’r feiolin, ond teimlodd law ei fam yn cydio ynddo: ‘Tyrd yn dy flaen – fedrwn ni ddim sefyllian.’

Yn y tri chwarter awr y bu’r feiolinydd wrthi’n chwarae, chwe pherson yn unig a stopiodd i wrando arno. Gosododd rhyw ugain o bobl arian yn ei gap – cyfanswm o $32 i gyd – a phan orffennodd y gŵr chwarae, ni dderbyniodd unrhyw gymeradwyaeth na sylw am ei berfformiad.

Ni sylweddolodd neb ychwaith mai Joshua Bell, un o gerddorion mwyaf blaenllaw’r byd, oedd y feiolinydd. Yn ystod yr amser y bu yno chwaraeodd chwe darn o gerddoriaeth o waith y cerddor J.S. Bach ar feiolin a oedd yn costio 3.5 miliwn o ddoleri. Dau ddiwrnod ynghynt roedd wedi perfformio i lond neuadd gyngerdd yn Boston a’r tocynnau’n costio can doler yr un.

Mae’n stori wir – Joshua Bell oedd y feiolinydd fu’n chwarae yng ngorsaf Metro Washington DC fel rhan o arbrawf a drefnwyd gan y Washington Post i astudio canfyddiad a blaenoriaethau pobl ar adeg y Nadolig.

Mi fydd ein ffydd weithiau yn colli ei sbarc a’i egni, ei gyffro a’i afiaith, a’n hymlyniad yn ddim ond cadw arferiad a threfn, ac eto heb y dimensiwn ysbrydol hwnnw – heb yr Un hwnnw a ddaeth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl ac sy’n dal i dreiddio i ganol ein sefyllfaoedd yn barhaus – y mae bywyd yn amddifad o bwrpas a thrywydd a nod. Oherwydd yr Un hwnnw a wisgodd gnawd ac a anwyd gynt ym Methlehem yw ffynhonnell y cyffro a gobaith y byd.

A dyna yw Neges y Nadolig yn ei hanfod. Dyna yw’r datguddiad – fod DUW WEDI DOD ac yn DAL I DDOD i’n hymyl, ac fe ddaw eto y Nadolig gwahanol hwn gan ein cyfareddu a’n cyffroi. ‘Tyrd Iesu i’n hymyl ac aros o hyd, i’m caru a’m gwylied trwy fwyf yn y byd …’ ‘Gadewch i ni fynd ar ein hunion a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd i ni amdano.’

Fy nghofion cynhesaf atoch ar drothwy Gŵyl y Geni, Nadolig Dedwydd, Bendithiol, Diogel i chwi i gyd,  Peter.

DARLLENIADAU: Mathew 1:18–23; 2:1–12; Luc 2: 1–20

GWEDDI: Arglwydd Iesu yn ein heiriolaeth deisyfwn arnat gofio’r anghenus a’r unig y Nadolig hwn. Y rhai sydd mewn afiechyd a gwendid, y rhai sy’n bryderus ac ofnus, y tlawd, y newynog a’r digartref. Gad iddynt brofi o wres dy gwmni a’th ymgeledd, dy gymorth a’th nerth.

Arglwydd Iesu. pâr i ni brofi o’r Bywyd hwnnw yr wyt ti yn ei gynnig – bywyd sy’n creu cyffro a chyfaredd, bywyd yn ei helaethrwydd, bywyd tragwyddol. Bendithia ni a’n hanwyliaid y Nadolig hwn a gad i’r munudau hyn gyfeirio’n taith o’r newydd i Fethlem er mwyn inni trwy lygaid ffydd ganfod yno yn ei grud Arglwydd arglwyddi yr holl fyd. Derbyn ni a chofleidia ni yn dy gariad. Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD