MYFYRDOD YR WYTHNOS
Sul, Hydref 25ain, 2020
GEIRIAU I’N CYNNAL
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas]
‘Dewis’
Anwyliaid yr Anwel,
Ar gychwyn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd yna ddyn yn byw yng Nghaergrawnt o’r enw Thomas Hobson. Ef oedd perchennog tafarn y George Inn yn y ddinas honno, ond roedd ganddo hefyd stablau eang ac yn cadw tua deugain o geffylau yn ôl yr hanes. Mi fyddai Thomas Hobson yn llogi’r ceffylau hyn i gwsmeriaid, a hynny mewn cyfnod pan oedd teithio yn dipyn anoddach a’r ffyrdd yn llawer mwy garw ac ar gefn ceffyl oedd y ffordd fwyaf effeithiol i deithio o un lle i’r llall.
Roedd Thomas Hobson yn ddyn gonest a theg a phan fyddai rhywun yn dod ato i logi ceffyl mi fyddai’n derbyn y ceffyl nesaf yn y rhes a hynny er mwyn diogelu nad oedd un ceffyl yn cael ei weithio’n galetach na’r gweddill.
Roedd yna adegau pan fyddai rhai cwsmeriaid yn awyddus i gael ceffyl arbennig o blith y deugain oedd ganddo ond – os nad oedd hwnnw’r nesaf yn rheng y llogi – roedd yn cael ei wrthod. ‘Y ceffyl nesaf yn y rheng, neu dim ceffyl o gwbwl,’ oedd ymateb Thomas Hobson. Oherwydd y trefniant hwnnw, aethpwyd i alw’r dewis yn ‘ddewis Hobson’ – ‘Hobson’s choice’ – hynny yw: y dewis anochel, y dewis cyfyng – derbyn neu fod heb.
Dywedir bod Henry Ford, dyfeisiwr y car modur oedd yn dwyn ei enw, wrth dderbyn cais gan wahanol gwsmeriaid a oedd yn awyddus i ddewis lliw arbennig o gar, yn rhoi iddynt yr atebiad cwrtais: ‘Mae croeso i chi ddewis pa liw bynnag a ddymunwch, tra bod y lliw hwnnw’n DDU.’ Enghraifft arall o ‘ddewis Hobson’.
Pan oeddem yn yr ysgol, fe gofiwn am yr anghenraid i ddarllen toreth o lyfrau gosodedig ar gyfer yr arholiad – dysgu darnau helaeth o ddramâu Shakespeare a darllen rhyw lyfrau clasurol a oedd yn ymddangos yn ddigon diflas ar y pryd. Ond do’dd dim dewis yn y mater, oherwydd os oeddem am lwyddo yn yr arholiad, rhaid oedd derbyn y trefniant a gwneud.
Mi fydd yna adegau mewn bywyd hefyd pan fod yn rhaid inni dderbyn y dewis anochel – dewis Hobson, a’i dderbyn yn rasol, heb stwbwrnio na phrotestio; derbyn mai dyna yw’r unig ddewis o dan yr amgylchiadau.
Y mae lledaeniad carlamus haint y Coronafirws yn ystod y ddeufis diwethaf wedi peri fod y Senedd yng Nghaerdydd wedi penderfynu unwaith eto i gyflwyno cyfnod pellach o gloi lawr cenedlaethol mewn ymgais i geisio lleihau effeithiau andwyol y feirws. Nid yw’r penderfyniad heb ei feirniaid wrth reswm, ond os y bwriad yw diogelu a gwarchod iechyd y mwyafrif a lleihau’r perygl o lethu’r gwasanaeth iechyd, yna dylem gydsynio a gwneud y gorau ohoni. Mi fydd hynny’n golygu cyfyngiad ar ein symud a’r angen i ymgadw rhag cyfarfod mewn niferoedd. Yn hanes yr eglwysi hynny a fentrodd yn wrol dros y ddeufis diwethaf i agor eu hadeiladau a darparu’r canllawiau priodol, mi fydd yn rhaid iddynt gau’r drysau eto am gyfnod.
Mae dewis Hobson yn gallu bod yn anodd weithiau, ac fe eilw am ddoethineb a dewrder wrth ei wneud.
Y mae salm 91 yn ein cymell i ymddiried yn Nuw mewn sefyllfaoedd cyfyng ac anodd:
Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog yn dweud wrth yr Arglwydd, “Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.” Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl yr heliwr ac oddi wrth bla difaol; bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd … i ti bydd yr Arglwydd yn noddfa … oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd …’
Boed i angylion gwarcheidiol Duw ein hamgylchynu a’n cynnal yn ystod y cyfnod hwn a boed iddo estyn o’i adnoddau a’i gymorth i bawb sydd mewn angen a phryder.
Hyd nes cawn eto gwrdd, Duw fyddo’n rhan,
Ynghanol dyddiau dwys, mewn oriau gwan,
Fe rydd yn gyson i’n o’i nerth a gwrendy’n llef,
Cawn brofi o’i ymgeledd a’i amddiffyn Ef. (P.M.T.)
Gyda’m cofion cynhesaf, Peter
DARLLENIADIADAU: Salm 91 a 42; 1 Corinthiaid 16 adn.13
GWEDDI: Diolch i ti o Dad am gyfle i ymddiried ynot o’r newydd ac i ildio’n beichiau a’n pryderon i’th ofal. Diolch am dy oleuni a’th arweiniad, dy fendithion a’th ddaioni ac am ein cynnal mewn dyddiau anodd ac ansicr. Estyn dy gymorth i’r rhai sy’n llywio a gweinyddu mewn Senedd a Llywodraeth; rho iddynt ddoethineb a chrebwyll wrth lunio penderfyniadau ac estyn canllawiau. Diolch i ti am ymroddiad meddygon a nyrsys a gofalwyr mewn ysbyty a chartref gofal; cynnal a nertha hwy yn eu hymdrechion i wella a gwarchod. Gwarchod ninnau a’n hanwyliaid a thywys ni i ryngu dy fodd yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD