Florrie Hamer a Stad Gogerddan

Sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd Ceredigion am gasgliad Florrie Hamer am stad Gogerddan.

William Howells
gan William Howells

Helen Palmer, Archifydd Ceredigion

Helen Palmer, Archifydd Ceredigion, oedd y siaradwraig wadd yng nghyfarfod Urdd y Gwragedd yn Neuadd Eglwys S Ioan, Penrhyn-coch nos Lun 3 Mawrth. Cafwyd ganddi gyflwyniad difyr i gasgliad Florrie Hamer, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ei pherthynas â theulu Stad Gogerddan.

Roedd Florrie Hamer yn gasglwr brwd o bob math o ddogfennau, yn lluniau, biliau, llythyron a thoriadau papur newydd. Ond yn bwysicach na hynny, gadawodd lyfrau nodiadau niferus a dyddiaduron yn cofnodi pob agwedd o fywyd pob dydd ar stad Gogerddan, bywyd sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn.

Dafydd Morgan. Hen dad-cu Florrie Hamer a aned yn 1813. Bailiff Gogerddan.

Gwnaeth yr un peth ar gyfer pentrefi Bow Street a Phenrhyn-coch (mae’r casgliad hwnnw yn Llyfrgell Genedlaethol Cynru) gan restru’r tai, dyddiad adeiladu a nodyn am bawb o’r trigolion. Diddorol oedd clywed am arferion cymdeithasol slawer dydd, Ysgoldy Lady Pryse, ac ymweliadau’r tinceriaid i’r ardal a chael darllen rhai o’r dogfennau drosom ein hunain.

Wrth edrych nôl heddiw gallwn werthfawrogi’r holl waith manwl â wnaed ganddi. Tamaid i aros pryd oedd hwn. Os oes diddordeb gyda chi i weld rhagor mae croeso mawr ichi yn Archifau Ceredigion, Canolfan Alun R. Edwards, Neuadd y Dre, Aberystwyth.

Dyma’r cyswllt i Gasgliad Florrie Hamer:

http://archifdy-ceredigion.org.uk/catalogue.php?sched=adx.0415

Tu fas y Rhydypennau
Ger y ffordd i Clarach