Ffilm o ddadorchuddio cofeb ryfel unigryw Aberystwyth

Cofnod hanesyddol o seremoni dadorchuddio cofeb ryfel Aberystwyth

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Ar 14 Medi 1923 cafwyd seremoni rwysgfawr i ddadorchuddio cofeb ryfel Aberystwyth. Cafodd y gofeb ei chynllunio gan Mario Rutelli, cerflunydd o Sisili yn wreiddiol, a’i hadeiladu o gerrig o chwarel Ystrad Meurig. Yr Arglwydd Ystwyth sy’n rhoi teyrnged i gofio’r rhai a gollwyd a chyflawnwyd y gwaith o ddadorchuddio’r gofeb gan y Capten Edward Llewellyn.

Ar waelod y gofeb, mae gwraig noeth, ‘Dynoliaeth’, yn codi o ludw’r rhyfel, ac ar ben y gofeb, mae ‘Buddugoliaeth’ (merch arall) yn dal coron o ddail llawryf.

Gwnaed y ffilm ddi-sain wreiddiol i’w dangos fel ffilm newyddion yn sinemâu teulu’r Cheetham. Roedd Arthur Cheetham yn un o arloeswyr y maes ffilmiau yng Nghymru, ac roedd gan y teulu sinemâu ym Manceinion, gogledd Cymru ac Aberystwyth.

Gellir gwylio’r ffilm, sy’n rhan o gasgliad Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhad ac am ddim yma.