Ffermwyr Ifanc yn rhyddhau sengl i ddathlu Dydd Miwsig Cymru

Ffermwyr Ifanc yn rhyddhau sengl a fydd yn fersiwn o’r gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor

CFfI Cymru Wales Yfc
gan CFfI Cymru Wales Yfc

Mae CFfI Cymru yn rhyddhau sengl a fydd yn fersiwn o’r gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor mewn cydnabyddiaeth a Dydd Miwsig Cymru gan hefyd ennyn sylw at elusen iechyd meddwl Cymraeg.

Bydd y gân yn cynnwys aelodau o’r deuddeg ffederasiwn ledled Cymru gan gydweithio a’r gantores a’r gyflwynwraig teledu Lisa Angharad yn ogystal â BBC Radio Cymru. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan adran Gymraeg y Llywodraeth.

Bydd y sengl yn rhoi cyfle i unigolyn o bob sir arddangos eu talent yn ogystal â chôr CFfI Cymru a fydd wedi ei wneud fyny o aelodau ledled Cymru gan gynnwys Swyddogion a Staff CFfI Cymru.

Mae’r recordio eisoes wedi cymryd lle yn stiwdio Sain, Caernarfon ac ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid yn ystod dechrau mis Ionawr gyda’r gân yn cael ei lansio ar Ddydd Miwsig Cymru ei hun, sef y 7fed o Chwefror. Yn ogystal â chael ei recordio yn broffesiynol mae’r sesiynau recordio wedi cael eu ffilmio er mwyn gwneud ffilm i gyd-fynd a’r sengl.

Bydd y siwrne o’r recordio hyd at y lansiad yn cael ei ddilyn gan raglen Ifan Evans ar BBC Radio Cymru. O’r 3ydd-7fed o Chwefror y sengl yma bydd trac yr wythnos ar BBC Radio Cymru. Mae rhaglen Ifan Evans am fod yn dilyn yr holl daith gan siarad â chyfranogwyr.

Mae CFfI Cymru yn bwriadu rhoi canran o’r arian wrth werthu’r sengl i elusen iechyd meddwl Cymraeg yma yng Nghymru, meddwl.org. Mae’r elusen meddwl wedi ei selio ar wefan ble mae posib dod o hyd i gefnogaeth; boed hynny’n darllen am brofiadau eraill, dysgu mwy am iechyd meddwl neu wybodaeth am ble i gael cymorth.

Bwriad Dydd Miwsig Cymru yw dathlu pob math o gerddoriaeth neu fiwsig Cymraeg. Diolchwn yn fawr i drefnwyr Dydd Miwsig Cymru o adran Gymraeg y Llywodraeth am eu cefnogaeth wrth ariannu’r prosiect. Bydd y sengl ar gael i’w lawr lwytho ar Spotify o’r 7fed o Chwefror ymlaen gyda lansiad yn cael ei gynnal gyda’r nos yn y Brasserie, Aberystwyth. Bydd y lansiad yn dechrau am 6:30 gyda’r artistiaid Rhys Gwynfor gyda Candelas yn ogystal â’r band Mellt yn ein diddanu. Croeso cynnes i bawb!