Blas o beth sydd i ddod dydd Sul…15 o stondinwyr amrywiol, lleol a Chymreig.#Aberystwyth #CrefftwyrAberystwyth #siopalleol #cefnogilleol #Cymraeg #cynnyrchcymreig
Posted by Ffair Grefft Ar-lein – Online Craft Fair on Sunday, 26 April 2020
Eisiau cefnogi busnesau lleol Cymreig?
Ymunwch â phymtheg o stondinwyr lleol yn ein ffair grefft ar-lein gyntaf, dydd Sul yma- y trydydd o Fai. Mi fydd y ffair yn digwydd dros ein tudalen Facebook newydd @CrefftwyrAberystwyth. Y bwriad yw y bydd pob ‘stondin’ yn postio eu nwyddau nhw ar-lein ac mi fydd posib i’r cwsmeriaid gysylltu yn uniongyrchol gyda’r crefftwyr. Mae llu o grefftwyr talentog ar ein rhestr, sef;
- Vicky Jones
- ani-bendod
- NATUR
- Olew
- Iar fach yr haf
- Celf Lois
- Chwaethus
- Marian Haf
- Charlotte Baxter
- Ruth Jên
- Serennu
- Elin Angharad
- Celf Gwenllian
- Elin Crowley
- L P-D
Mi fydd y ffair yn cychwyn ar ein tudalen Facebook am 11yb ac yn parhau hyd at 4yp. Yn ogystal â hyn, rydym yn codi arian tuag at Ysbyty Bronglais. Drwy roddion hael gan y stondinau bydd hamper gwerth dros £200 gyda ni i’w rafflo yn cynnwys rhodd gan y pymtheg stondin. Bydd modd prynu tocynnau am £2.00 yr un, a bydd yr holl arian yma’n mynd tuag at yr achos.
Rydym yn falch i roi cynnig ar ddigwyddiad newydd, cyffrous a Chymreig yn ardal Aberystwyth. Cofiwch daro i mewn i’r dudalen i weld y cynnyrch hyfryd.