Cymdeithas Lenyddol y Garn – o’r festri i’r rhithfyd

Sara Huws yn agor tymor newydd Cymdeithas Lenyddol y Garn

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Bydd Noson Agoriadol Cymdeithas Lenyddol Capel y Garn yn wahanol iawn eleni gan mai dros Zoom y bydd yn cael ei chynnal, a hynny nos Wener, 16 Hydref, am 7.30 o’r gloch.

Y siaradwraig fydd Sara Huws, Gaerdydd, a fydd yn ‘Siarad Trysore’, gan roi cip tu ôl i’r llen ar hanes hynod Cymru.

Daw Sara o Bow Street yn wreiddiol, ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers dros 13 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi cael gweithio’n agos gyda rhai o wrthrychau, hanesion a ffigyrau mwya hynod Cymru, trwy ei gwaith yn Sain Ffagan, Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Hi yw cyd-sefydlydd yr East End Women’s Museum, amgueddfa hanes fenywod cyntaf Lloegr, sydd yn paratoi i symud i gartref parhaol yn nwyrain Llundain. Mae’n darlledu yn aml am hanes menywod, celf a phensaernïaeth – yn ddiweddar ar y rhaglen Waliau’n Siarad gydag Aled Hughes.

Mae croeso i unrhyw ymuno! Am fanylion cysylltu, anfonwch neges: ymholiadau@capelygarn.org neu Twitter: @capelygarn neu ar dudalen Facebook Capel y Garn