Mae popeth wedi gorfod addasu yn ddiweddar yn sgil cyfyngiadau Covid 19. Does yr un siop, bwyty na sefydliad wedi gallu osgoi’r Pandemig a phawb wedi gorfod rhoi mesurau mewn lle i gwrdd a gofynion y Llywodraeth. Dyw’r martiau da byw yn ddim gwahanol a rhaid yw mynnu fod pawb yn cadw pellter cymdeithasol a lleihau ar y nifer o bobl sydd o gwmpas y ring. Credwch fi mae’n dipyn o job cadw ffermwyr ar wahan heb y cloncan arferol ar ddiwrnod mart!
Gofynnodd papur bro Y DDOLEN i ffermwr ifanc o Lanfihangel y Creuddyn, Tom Evans i gofnodi ei brofiadau o’r mart ac effaith y Pandemig ar werthiant y misoedd diwethaf. Gallwch ddarllen yr hanes yn llawn yn rhifyn Tachwedd Y DDOLEN sydd ar werth yn eich siop leol nawr.
Dyma flas o’r hanes.
Mae’r marchnadoedd wedi gorfod addasu a rhoi cynlluniau mewn lle i gael cadw ar agor gan fynnu taw dim ond un person o bob busnes oedd yn mynychu a rheiny yn llenwi ffurflen ‘track and trace’ a chadw pellter o 2 medr. Mi ddaeth yn eithaf cyffredin i sawl marchnad gychwyn ffrydio’r arwerthiant yn fyw ar y cyfryngau cymdeithasol ar y we ac erbyn nos postio adroddiad llawn o’r niferoedd a werthwyd a phris uchaf ar gyfartaledd y farchnad. Roedd hyn yn gyfle gwych i’r to hynaf a’r rheiny oedd ffili mynychu ddal fyny a’r hyn oedd yn digwydd. Gwelwyd y sawl ac oedd wedi eu henwi yn rhannu’r adroddiadau ar eu welydd Facebook eu hunain yn llawn balchder a chael eu llongyfarch gan ffrindiau am eu hymdrechion. Buodd y cwmni Innovis yn cynnig i brynwyr allu neud drwy fidio ar lein yn ystod eu gwerthiannau hyrddod, profiad hollol newydd i rai mae’n siwr! Yn ôl pob sôn mae hyd yn oed Mart Pontarfynach a thudalen Facebook erbyn nawr!
Tom Evans, Llanfihangel y Creuddyn