Ewro 2021

Edrych ymlaen at Ewro 2021!

Rhiannon Salisbury
gan Rhiannon Salisbury

Y ffaith bod sawl digwyddiad wedi cael ei ohirio yn ddiweddar, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Ewro 2020, oedd y sbardun i Steffan Jones, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanilar, i fynd ati i ysgrifennu’r gerdd hon.

Er ei fod yn teimlo’n siomedig bod y digwyddiadau hyn wedi gorfod cael eu gohirio, mae’n edrych ymlaen at amser pan fydd hi’n ddiogel i’w cynnal unwaith eto. Da iawn ti Steffan! Rydyn ni i gyd yn yr ysgol yn falch iawn o dy lwyddiant ac yn edmygu dy agwedd bositif!

Ewro 2021

Dinasoedd yn dawel
Anthemau yn fud
Y wal goch yn ddistaw
Dim sŵn ar y stryd.

Y byd yn dioddef
Ynysu sydd raid
Rhaid ymladd y feirws
Cyn cyd-gerdded i’r cae.

Bydd y Ddraig Goch yn rhuo –
Dewch ’mlaen Gymru fach
Bydd y byd wedi gwella
Bydd Joe Allen yn iach!

Yfory daw gobaith
Yfory daw gwên
Dathlwn gyda’n gilydd
Ewro 2021.

Steffan Rhys Jones Bl.6, Ysgol Gynradd Llanilar