Argraffiadau’r Parchg W. J. Edwards o Steddfod Aberystwyth 1992
Dyma a sgrifennodd yn Y Tincer mis Medi 1992:
Wedi i J. R. Jones yn ei Gywydd Croeso hyfryd i Eisteddfod Genedlaethol 1992 ddweud:
Dewch yn wir a phrofi’r ffrwyth
A estyn Aberystwyth
mae’n dda cael sôn am gynhaeaf y brifwyl. Cafwyd cychwyn da yn y Babell Lên ar y Sadwrn cyntaf pan gawsom ein hatgoffa o gynhaeaf y gorffennol wrth inni glywed am gyfraniad cynifer o enwogion a faged nid nepell o faes y steddfod.
Cymwynas ddiweddaraf Nerys Ann Jones â ni oedd golygu’r casgliad o gerddi dwsin o feirdd pentrefi gogledd Ceredigion yn y gyfrol Oedi, cyfrol yr ychwanegwyd at ei gwerth gan grefft y tynnwr lluniau Eric Hall. Er na chafodd fy nghyfeillion Ifor Davies a Byron Howells fyw i weld cyhoeddi’r gyfrol mae’n dda cael tystio gyda Nerys fod yn y llyfr ‘dystiolaeth fod y pair diwylliannol yn dal i ffrwtian ym mhentrefi gogledd Ceredigion’. Pan fydd pob s֧ôn am steddfod 1992 wedi peidio fe allwn ni a’n disgynyddion droi at y gyfrol oludog hon i brofi o ffrwyth y beirdd oedd yn cyfansoddi’u cerddi ar derfyn yr ugeinfed ganrif.
Er bod llawer o drafod wedi bod ar ffurf a chynnwys oedfa’r pafiliwn fore Sul, a rhai wedi siarad yn ddigon ffôl, onid oedd hi’n dda inni gael ein symud o’n rhigolau arferol wrth addoli’r Arglwydd. Y mae ‘Celebration’ yn air allweddol ymhlith y Saeson sy’n arbrofi gyda dulliau addoli a diolch am gael ein gwefreiddio yn y pafiliwn yn Oedfa Dathlu’r Ffydd wrth inni glodfori’r Creawdwr, y Cynhaliwr a’r Gwaredwr. Fe ddylem gymeradrwyo pob ymdrech i wneud addoliad yn fyw a pherthnasol yn lle bod ein plant a’n hieuenctid yn dweud fod ein crefydda yn ddi-wefr a ‘boring’.
Er bod pob ardal sy’n gwahodd y brifwyl yn hoffi dweud y bydd eu huchel ŵyl hwy yn steddfod y ganrif fe ellir dweud fod yr ŵyl eleni yn un unigryw am fod yr Orsedd yn gyfrifol am dair seremoni. Wedi hir bwyso am degwch i ryddiaith roedd yn dda fod Gorsedd y Beirdd o’r diwedd yn anrhydeddu’r Prif Lenor fel y gwna gyda beirdd y Goron a’r Gadair. Canlyniad hynny yw ei bod yn rhesymegol inni ddisgwyl y gall enillwyr y Fedal Ryddiaith fod yn archdderwydd bellach. A chan fod saith merch ymhlith enillwyr y Fedal yn dal yn ein plith siawns na welwn un o’r rhyw deg yn llywyddu oddi ar y maen llog yn fuan.
Wrth sôn am y maen llog gresyn na chyfarfu’r Orsedd yn y cylch ar dir y castell yn enwedig am fod y tywydd yn ffafriol bore Gwener.
Cwyn arall sydd gennyf yw na chynhwyswyd enw Dewi Morgan, y Prifardd Dewi Teifi ar y Panel Enwogion. O gofio am gyfraniad cyfoethog Dewi fel bardd, llenor, newyddiadurwr, a phregethwr, heb sôn am ei gyfeillgarwch gyda T. Gwynn Jones, dylid bod wedi cofio amdano.
Rhan arall o gynhaeaf steddfod 1992 a gedwir mewn cyfrol yw’r arddangosfa ddiddorol o gartwnau yn ymwneud â’r eisteddfod fel sefydliad oedd yn harddu parwydydd y Babell Lên. Ffrwyth casglu diwyd Tegwyn Jones oedd yr arddangosfa oedd yn cynnwys gwaith pobl fel Hywel Harries a Leslie Illingworth, prif gartwnydd gwleidyddol Punch yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n dda fod Y Lolfa wedi cyhoeddi casgliad helaethach o’r cartwnau mewn llyfr a olygwyd gan Tegwyn.
Tegwyn hefyd yn narlith gynta’r Babell Lên a aeth â ni yn ôl i brifwyl 1865 yn y dre a diolch iddo am ddiogelu’r hanes mewn cyfrol a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. A chan fod y brifwyl eleni yn Eisteddfod Ceredigion mae’n dda cael cyfarch Gwasg Gomer a sefydlwyd yn 1892 gan ddiolch i Lewisiaid Llandysul am gynhaeaf canrif i gyfoethogi’n llên.
Ni wn a fydd Prifwyl 1992 fel rhai 1865, 1916 a 1952 yn gwneud elw ond fel Cardi alltud mae’n dda cael diolch am gynhaeaf toreithiog gŵyl Gelli Angharad ac am iddi ein hysbrydoli i ymegnio o blaid Cymru a phopeth gwerthfawr a berthyn i’n cenedl.
Diolch yn fawr i deulu’r diweddar W. J. Edwards am ganiatâd i gyhoeddi’r erthygl hon.