TicToc – Sioe Gerdd Roc. Rhys ap Hywel yn arwain y canu. Oeddech chi yn rhan o’r cast?
Alan Gwynant, Swyddog Technegol yr Eisteddfod (dde) yn trefnu safle Gelli Angharad.Y Babell Lên yn cael ei chodi ar y Maes.Y Babell LênDros y Bont i’r Steddfod!
Pabell y Cymdeithasau a’r Stiwdio Gerdd
Dydd Llun:
Saith a urddwyd i’r Orsedd fore Llun. ch-dde: Joyce Evans, Capel Bangor; Mererid ac Angharad Lewis, Rhos-goch; Anwen a Caryl Ebenezer, Non Jones a Rhian Heledd Jones, y pedair o Bow Street.Emyr a Heddwen Pugh-Evans (Emyr Ceiro a Heddwen Eden)
Anrhydeddwyd eraill o’r ardal hon â’r Wisg Wen, sef Dr Rachel Bromwich, Aberystwyth; Dr Dafydd Huws a Daniel Huws, Penrhyn-coch oedd newydd ymddeol o’i swydd fel Ceidwad Adran y Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Coroni’r Bardd buddugol
Ruth Davies, Pen-bont Rhydybeddau oedd cynllunydd y Goron
Y Beirniaid oedd Marged Haycock, John Roderick Rees a Gwynne Williams.
Aeth y Goron i Cyril Jones, Tregynon (Ceffyl Gwyn) am Gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cyfannu’.
Llythyron at Gyfaill o Kenya.
Ffawdheglwr y wên ifori,
wyt ti’n cofio cydfwrw dis y siwrne
rhwng Boraghoi a South Horr?…
Nos Lun:
Tic Toc: Sioe Gerdd Roc (Cwmni Ieuenctid Ceredigion)
Oeddech chi yno?
Oeddech chi yn un o’r cast?
Dydd Mawrth:
Wâc rownd yr Arddangosfa Celf a ChrefftRichard WilsonWilliam Owen Pughe (Idrison)Dic Aberdaron
Dydd Mercher:
Seremoni’r Fedal Ryddiaith
Dyma’r tro cyntaf i Orsedd y Beirdd anrhydeddu’r Prif Lenor.
Beirniaid y Fedal: Dafydd Rowlands, Alun Jones a Robert Rhys.Pwy oedd yn haeddu’r wobr? Wel ‘Penbowlen’ sef Robin Llywelyn, MinfforddY nofel fuddugol ‘…ni ddarllenais innau ddim byd tebyg yn y Gymraeg ers tro byd, os erioed…’ Dafydd Rowlands.Y Babell Lên: Alun Creunant Davies yn Cadeirio’r Beirniadaethau. Ar y llwyfan Glenys Howells (yn ei welis ) a Gwyneth JonesRobin Iwan, Rhosygwaliau, Y Bala, enillydd yr Unawd Cerdd Dant 12–16 oed. Y wobr ariannol yn rhoddedig gan y Tincer. Hefyd yn y llun ei hyfforddwraig Beti Richards (merch Caradog Pugh) a Dafydd Ifans, Penrhyn-coch, awdur y geiriau ‘Hwyrnos’ a ganwyd yn y gystadleuaeth.
Diolch i ffotograffwyr Y Tincer (Peter Henley ac Anthony Pugh) am ganiatâd i gynnwys y lluniau du a gwyn.
Mwy: Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 1, 3 a 4: lluniau o’r Eisteddfod a mwy…