Edrych ’nôl, edrych ’mlaen

Cyfle i brosiect Coetir Anian i fyfyrio ar lwyddiannau a chynllunio ar gyfer y dyfodol

gan Nia Huw

Mae’r hoe anorfod i fywyd bob dydd a ddaeth yn sgil Covid 19 wedi golygu cyfnod tawelach nag arfer i brosiect Coetir Anian. Er bod y tîm yn awyddus i ddychwelyd at y llu o weithgareddau a fyddai fel rheol yn llenwi eu calendr, mae’r saib hwn wedi rhoi cyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Prosiect cymharol newydd yw Coetir Anian, wedi’i lleoli ar safle 350 erw ym Mynyddoedd Cambria, ger Machynlleth. Ei nod yw adfer cynefinoedd ac annog pobl i gysylltu â natur wyllt. Tîm o dri aelod o staff a Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n rhedeg y prosiect. Prynwyd y tir yn 2017 mewn partneriaeth â Choed Cadw. Mae’r tir yn cynnwys ardal o goetir hynafol ac ardal eang o ucheldir wedi’i ddominyddu gan wellt y gweunydd. Eu hegwyddor arweiniol yw caniatáu i natur ddilyn ei chwrs a gweld sut mae cynefinoedd yn datblygu heb osod targedau penodol. Fodd bynnag, yn ystod camau cychwynnol y prosiect, bu’n ofynnol gwneud ychydig ymyriadau er mwyn hwyluso rhai datblygiadau. Mae nifer o unigolion wedi cyfrannu at y gwaith sydd wedi cynnwys tynnu ffensys, blocio gafaelion draenio i greu pyllau bach a phlannu coed. Cam pwysig arall fu ychwanegu gre o geffylau lled-wyllt a chyr o wartheg ucheldir i’r tir. Mae hyn oll wedi arwain at gofnodi rhywogaethau fel gwas y neidr ddeheuol ac amrywiaeth o rywogaethau adar, fel yr ehedydd, troellwr bach, boda tinwyn, y gog a’r rugiar goch.

Agwedd hollbwysig i’r prosiect yw’r rhaglen addysg ac ymgysylltu â’r cyhoedd cynhwysfawr a mae’r ddwy elfen hon wedi ffynnu dros y flwyddyn ddiwethaf. Adeiladwyd perthnasoedd ag ysgolion cynradd lleol, trwy raglen tair blynedd o weithgareddau ar y safle ac yn yr ysgol. Mae disgyblion wedi cael cyfle i ddysgu am fyd natur, datblygu sgiliau crefftau byw yn y gwyllt a chymryd rhan mewn prosiectau celf gydag artistiaid lleol. Rhai gweithgareddau sydd wedi eu mwynhau yw tyfu hadau mes i’w plannu ar y safle, chwilota i gynhyrchu gwleddoedd o ffrwythau a chnau, dysgu sut i gynnau tân gwersyll, creu murluniau llachar a hardd wedi’u hysbrydoli gan natur – mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Wrth gwrs, ceir yr hwyl fwyaf yn tasgu mewn nentydd ac adeiladu argaeau!

Yn ogystal, cynhelir gwersylloedd ieuenctid ar gyfer grwpiau o ddisgyblion ysgol uwchradd lle mae’r bobl ifanc yn gwersylla am bum niwrnod (heb ffonau symudol!) Y ffocws ar gyfer yr wythnosau hyn yw datblygu gwytnwch a hunanhyder trwy fyw ym myd natur. Er bod rhai o’r bobl ifanc yn cyrraedd yn teimlo’n ansicr o’r hyn y gallai’r wythnos ei gynnwys, buan iawn y byddant yn datblygu gwerthfawrogiad o’r pethau symlaf mewn bywyd! Mae staff a disgyblion fel ei gilydd yn gwerthfawrogi diwrnodau a dreulir yn cerdded trwy’r afon, adeiladu tân, cerfio llwyau, paratoi brithyll ar gyfer swper a chrwydro’r safle. Roedd criw Coetir Anian wrth eu boddau gyda’r adborth a oedd yn cynnwys, ‘Ymrwymodd y myfyrwyr i’r profiad yn llawn ac wrth i’r wythnos fynd heibio gwelsom rai newidiadau gwych. Roedd y myfyrwyr yn chwerthin, yn crio ac yn cefnogi ei gilydd. Buont yn gweithio fel tîm yn gofalu am y tân, yn paratoi prydau bwyd, yn helpu i ddiogelu’r pebyll. Fe wnaethant ymgysylltu â staff ac roeddent wrth eu bodd yn dysgu am yr amgylchedd yr oeddent ynddo ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr amrywiaeth a gwarchod y cynefin naturiol. Mae hwn yn brosiect y mae angen i bob myfyriwr ledled Cymru ei brofi. ’

Ar ben hyn i gyd, cynhelir diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd sy’n rhoi cyfle i aelodau’r gymuned leol fwynhau amser y tu allan yn dysgu sgiliau amrywiol, cwrdd â phobl o’r un anian ac, ar ôl rhywfaint o waith caled, mwynhau cinio o amgylch tân gwersyll! Mae gwirfoddolwyr eisoes wedi cyfrannu at lawer o dasgau fel adeiladu toiled compost a sied arddull tŷ crwn, plannu coed a difa rhedyn.

Hawdd gweld ei fod wedi bod yn amser prysur i Goetir Anian ac, maes o law, maen nhw’n gobeithio ehangu eu rhaglen ysgolion tra hefyd yn datblygu partneriaethau â grwpiau cymunedol eraill. Yn y pen draw, bydd diwrnodau gwirfoddoli yn ailddechrau a bydd ymwelwyr o bell ac agos yn cael eu croesawu unwaith eto. Gan edrych i’r dyfodol, cam cyffrous arall i Goetir Anian yw’r cyfle i benodi ymddiriedolwyr newydd i’w fwrdd. Byddai hyn yn gyfle rhagorol i rywun sy’n angerddol am natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae mwy o wybodaeth am y rôl ar gael ar; https://www.coetiranian.org/cyfle-i-ymddiriedolwyr

 

NODIADAU
Rheolir Coetir Anian / Cambrian Wildwood gan Sefydliad Tir Gwyllt Cymru mewn partneriaeth â Coed Cadw, perchennog rhydd-ddaliadol Bwlch Corog.
Prynwyd Bwlch Corog gan Coed Cadw yn 2017 yn dilyn ymgyrch codi arian lwyddiannus. Mae’r safle ar brydles i Sefydliad Tir Gwyllt Cymru ac mae’r elusennau’n gweithio mewn partneriaeth i adfer coetir brodorol a chynefinoedd eraill.
Mae Sefydliad Tir Gwyllt Cymru yn Elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr Rhif 1158185
Llywydd: Sue Jones-Davies
Noddwr: Jane Davidson

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.coetiranian.org neu www.cambrianwildwood.orgCysylltu: post@coetiranian.org