Pam dylid ail-agor parciau chwarae Aberystwyth

Mae Ymgeisydd Senedd lleol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dechrau deiseb i ail-agor ein meysydd chwarae. Dyma fe’n esbonio pam:

Cadan ap Tomos
gan Cadan ap Tomos
Cyfarpar chwarae ym maes chwarae'r Castell, Aberystwythieuan/Shutterstock

Mae meysydd chwarae Aberystwyth wedi bod ar gau i blant y dref ers mis Mawrth

Ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, mae plant Aberystwyth wedi bod heb fan pwrpasol a diogel i chwarae tu allan. Mae hyn er bod parciau eraill yng Ngheredigion ac ar draws Cymru eisoes wedi ail-agor yn ddiogel.

‘Dw i ddim yn credu bod hynny’n deg ar ein plant, felly ’dw i wedi dechrau deiseb i geisio annog newid meddwl. Cewch ychwanegu’ch enw chi fan hyn.

Mae’r penderfyniad i’w cadw ar gau yn un gan Gyngor Tref Aberystwyth, sy’n cynnal tri pharc chwarae’r dref – ym Mhenparcau, wrth y Castell, ac ar Rodfa Plascrug. Rwy’n siŵr bod eu penderfyniad â’r bwriadau gorau, ond i mi mae hi’n asesiad gor-ddiogel o’r risgiau yn y pandemig hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu agor meysydd chwarae plant awyr agored ers mis Gorffennaf. Yn ôl eu canllawiau ar y mater, mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod llai o risg i’r Coronafeirws gael ei drosglwyddo yn yr awyr agored, a rhwng plant yn ogystal.

Rwy’n credu ’roedd y Cynghorydd Tref Alex Mangold yn gywir i gyfeirio’r mater at y Comisiynydd Plant. Anghenion, pryderon a hawliau’r plant eu hunain dylai fod wrth galon y penderfyniad hwn.

‘Roeddwn i wrth fy modd fel plentyn yn chwarae ym mharc y Castell. Ar ben fy hun neu gyda ffrindiau, roedd fy nychymyg wastad yn arwain at oriau o hwyl a sbri. ‘Dw i methu dychmygu fy nheimladau petai dim modd i mi fynd i’r parc am fisoedd, yn enwedig ar adeg mor ansicr a phryderus â hyn.

Mae cyfleoedd i chwarae tu fas yn hynod o bwysig i blant – yn “hanfodol” hyd yn oed, yn ôl canllawiau’r Llywodraeth. P’un ai’n iechyd corfforol neu feddyliol, mae bod mewn maes chwarae â chymaint o fudd i unrhyw blentyn. Gan gofio’r wybodaeth sydd gennym ni nawr am y risg isel mewn sefyllfa fel hyn, ’dw i’n credu bod parhau i gadw ein parciau ar gau yn achosi mwy o niwed i’n plant na’u hamddiffyn.

Rwy’n bwriadu cyflwyno’r ddeiseb i’r Cyngor Tref cyn eu cyfarfod ar Dachwedd 23ain, lle bydd y mater ger eu bron unwaith eto. Mae ’na griw o gynghorwyr trawsbleidiol – gan gynnwys y Maer Charlie Kingsbury – eisoes o blaid eu hail-agor, ond mae dal angen perswadio mwy ohonynt er mwyn ennill y dydd.

Os ydych chi, eich plant neu’ch teulu ymysg y nifer sy’n gweld eisiau ein parciau’n arw, plîs ychwanegwch eich enw er mwyn i’ch llais cael ei glywed.