Penwythnos diwethaf, gwnaeth Recordiau Bwca gyhoeddi ein bod wedi derbyn yr her i greu #PlaylistBro ar gyfer BroAber360 ac mae llwyth o awgrymiadau wedi cyrraedd – rhai yn fwy amlwg na’i gilydd!
Ta waeth – co chi “Mas o Aber” i’ch diddanu heddi ar Ddydd Miwsig Cymru…
Mae llwyth o enwau ar y rhestr wedi mynychu Prifysgol Aberystwyth gan gynnwys rhai o hên benau’r Sîn Gymraeg fel Geraint Davies, Geraint Lovgreen, Neil Rosser a Twm Morys i rai o aelodau bandiau ifanc poblogaidd Cymru fel Candelas, Bwncath, Y Cledrau, Yr Eira a Los Blancos.
Y tu hwnt i’r enwau Cymraeg mae yna gysylltiadau rhwng rhai o fandiau mwya’r byd gydag Aberystwyth a’r cylch.
Er enngraifft, faint oedd yn gwybod fod cysylltiad rhwng AC/DC gydag Aberystwyth? Mae Dick Jones wedi bod yn gofalu am ddrymiau AC/DC ers 1980, y flwyddyn rhyddhawyd eu halbwm “Back in Black”. Yn hynny o beth mae “Honey, What you do for Money” yn drac addas dros ben.
Wrth gwrs, mae siŵr o fod llawer fwy o enwau i’w ychwanegu i’r rhestr chwarae felly plîs cysylltwch gyda’ch awgrymiadau – bwcacymru@outlook.com