Tîm Pêl-droed Merched Aber yn gyfartal

Hanes Tymor Tîm Pêl-Droed Merched Tref Aberystwyth

Merched Aber

Mae tîm pêl-droed merched Tref Aberystwyth wedi cael tymor prysur gyda phum gem ar ddydd Sul.

Nhw oedd pencampwr Cynghrair Merched Cymru (WWL) a Chynghrair Canolbarth Cymru (CWFA) yn 2018-2019. Siomedig oedd y ffaith na fu modd gorffen y tymor 2019-2020.

Fel un o dimau gwreiddiol pan ffurfiwyd yr Uwch Gynghrair Cymru i Ferched yn 2009, roedd Tref Aberystwyth yn yr uwch gynghrair nes iddynt gael eu hisraddio ar ddiwedd tymor 2016-17. Ar ôl dau dymor yn ail gynghrair pêl-droed, dyrchafwyd y tîm yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019-20.

Dechrau’r tymor (27ain o Fedi) gyda gêm yn erbyn Port Talbot, ond colli 3 i 1 oedd y canlyniad. Colli hefyd oedd canlyniad y gêm yn erbyn Merched Cyncoed ar y 4ydd o Hydref. Gêm gartref ar yr 11 o Hydref, colli oedd yr hanes 2 i 1 i Cascade.

Gêm yng Nghaerdydd ar y 29ain o Dachwedd, ond colli 2 i 0 oedd y canlyniad.

O’r diwedd, cafwyd canlyniad cyfartal yn erbyn tîm Llansawel (Britton Ferry) dydd Sul, 6ed o Ragfyr.

Mae’r fideo yn cynnwys Nia Davies, chwaraewr y clwb a’i rheolwr Andy Evans.

Mae’r tîm 9fed yn y gynghrair ar y foment. Gêm gyntaf 2021 fydd yn erbyn Dinas Abertawe ar y 3ydd o Ionawr, gyda Metropolitan Caerdydd ar y 17eg o Ionawr.