Digwyddodd yn Aber – Podlediad Newydd Sbon Amgueddfa Ceredigion i Gofnodi Straeon Cudd Aberystwyth

Rhannwch eich straeon ac atgofion am Aberystwyth – Does dim stori’n rhy fawr neu’n rhy fach.

gan Heulwen Davies

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn arwain prosiect newydd ac arloesol yn 2021, i gasglu straeon cudd Aberystwyth ar blatfformau digidol. Mae hyn diolch i gais llwyddiannus am arian o’r gronfa ‘Diwylliant 15 munud’, sy’n bartneriaeth rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri a CADW – gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, 

Bydd ‘Digwyddodd yn Aber’ yn darganfod mwy am y cymeriadau, digwyddiadau a’r straeon cudd sydd wedi lliwio hanes Aberystwyth, wrth archwilio a rhannu’r straeon fydd yn cysylltu’r gymuned ehangach. Bydd y straeon personol yn cael eu cyflwyno mewn cyfres o bodlediadau 3 munud o hyd ac yn ffurfio map twristiaeth ddigidol, yn ogystal â bwydo mewn i bodlediadau hirach fydd yn ymddangos ar wefan, sianel YouTube a chyfryngau cymdeithasol yr Amgueddfa. Daw’r prosiect terfynol yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Ceredigion ar gyfer y dyfodol.

Meddai Carrie Canham, Curadur yr Amgueddfa:

“Rydym wedi gwirioni gyda’r gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac yn edrych ymlaen at ddatgelu straeon gwahanol am Aberystwyth. Mae treftadaeth yn llawer iawn mwy na dyddiadau, pobl enwog a llefydd enwog, rydym am gofnodi straeon fel y rhai byddwch chi’n rhannu mewn tafarn, mewn aduniad ysgol neu dros baned, straeon sy’n cysylltu pobl gyda ble maen nhw’n byw.”

Mae criw Digwyddodd yn Aber yn awyddus i glywed straeon gan bobl Aberystwyth, yn ogystal ag unigolion sydd wedi byw neu wedi treulio amser yn y dref. Y bwriad yw recordio a chofnodi amrywiaeth o straeon ac atgofion personol am wahanol ardaloedd o dref Aberystwyth, gan gynnwys straeon am Bont Trefechan ac adeilad yr Academy, a arferai gael ei gydnabod fel Capel Wesleaidd. Efallai eich bod chi’n cofio’r brotest ar y bont? Efallai eich bod chi wedi mynychu neu briodi yn y Capel? Does dim stori’n rhy fawr neu’n rhy fach.

Bydd yr Amgueddfa yn cydweithio gyda haneswyr a storïwyr digidol profiadol er mwyn datblygu’r adnoddau a bydd cyfle i wirfoddolwyr gymryd rhan hefyd. Os hoffech chi ddysgu a datblygu sgiliau ymarferol yn y maes recordio sain, sgiliau cyfweld a phodlediadau, mae gwirfoddoli ar y prosiect yn gyfle i ddysgu’r sgiliau defnyddiol yma am ddim! Mae Amgueddfa Ceredigion yn awyddus i glywed gan wirfoddolwyr 18+ sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cyrsiau hyfforddiant ar y 12fed a’r 19eg o Ionawr.

I drafod eich straeon ac atgofion neu i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli a’r hyfforddiant am ddim, cysylltwch â Sarah Morton, Swyddog Cynaladwyedd Amgueddfa Ceredigion Sarah.Morton@ceredigion.gov.uk