Dathlu’r Talwrn

Cyfrol newydd yn dathlu pen-blwydd rhaglen radio Talwrn y Beirdd yn 40

gan Iestyn Hughes

Cyfrol a fydd yn dwyn atgofion i lawer yng nghylch BroAber yw Dathlu’r Talwrn, sef cyfrol ysgafn a hwyliog sy’n olrhain hanes rhaglen radio Talwrn y Beirdd, sy’n dathlu’r deugain eleni.

Ceir erthyglau cefndir, atgofion lu, ffeithiau difyr, lluniau, ac wrth gwrs, nifer teilwng o gampweithiau barddonol a ddaeth i’r brig dros y blynyddoedd. Dyma gyfrol ddelfrydol i unrhyw un sy’n hoff o’r gyfres hirhoedlog hon.

Ceir sawl cyfraniad – erthyglau a cherddi – gan nifer o feirdd cyfoes lleol, megis Huw Meirion Edwards, Dafydd John Pritchard, Eurig Salisbury a Hywel Griffiths.

Cyhoeddir y gyfrol, a ddyluniwyd gan Tanwen Haf, gan Gyhoeddiadau Barddas, a’r pris yw £9.95. Mae ar gael o’r siopau Cymraeg lleol, neu drwy wefan Gwales