Ar Chwefror 1af, ddiwrnod ar ôl Brexit, daeth rhai cannoedd o bobl ynghyd yn y bandstand yn Aberystwyth i ddathlu eu hunaniaeth a’u diwylliant Ewropeaidd, ac i ddatgan yn glir eu bod am gadw’r cysylltiadau â gwledydd eraill Ewrop yn fyw.
Fel y dywedodd un o’r trefnwyr, Rhun Emlyn, wrth agor y digwyddiad, mae’r cysylltiad rhwng Cymru a thir mawr Ewrop yn mynd yn ôl ganrifoedd, a’r neges glir gan bob un o’r siaradwyr oedd nad yw Brexit am ein hailddiffinio a’n bod yn dal i fod yn Ewropeaidd.
Anogwyd pawb i gymryd camau pendant i danlinellu eu hunaniaeth Ewropeaidd, e.e. drwy ddysgu un o ieithoedd Ewrop neu gymryd rhan yn y cynllun gefeillio rhwng Aberystwyth a St Brieuc, Kronberg ac Arklow. Cafwyd hefyd farddoniaeth a cherddoriaeth, a darllenwyd neges gan Ben Lake, AS, yn canmol y trefnwyr am drefnu digwyddiad i ddod â phobl ynghyd fel ffrindiau i gefnogi a chysuro’u gilydd yn yr ysbryd sydd hefyd wrth sail yr Undeb Ewropeaidd.
Yn dilyn y cyfarfod, bu gorymdaith ar hyd y prom gyda llu o faneri lliwgar yr Undeb Ewropeaidd a gwahanol wledydd Ewrop.
Meddai’r Athro Wini Davies, un o’r trefnwyr ac Athro Emeritws yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth: “Dwi’n hyderus y gallwn ddweud bod y digwyddiad yma wedi tystio’n glir fod Aberystwyth yn lle sy’n ymfalchïo yn ei hunaniaeth Gymreig tra’n cydnabod yn ddiolchgar y dylanwad Ewropeaidd ar yr hunaniaeth yna.”