Mae cychwyn y ddegawd newydd hon yn achos dathliad arbennig i Bapur Sain Ceredigion.
Roedd rhifyn cyntaf 2020 ar 8 Ionawr yn dathlu ac yn cofio ei ymddangosiad am y tro cyntaf fis Ionawr 1970, 50 mlynedd yn ôl.
Y Cardiganshire Talking Newspaper (fel y’i gelwid bryd hynny) oedd y papur cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Gyfunol. Cai ei dderbyn gan 18 o bobl; erbyn hyn mae ganddo 112 o wrandawyr yn siroedd gorllewin Cymru a thu hwnt, pawb ohonyn nhw â nam gweledol o ryw fath.
Hanes creu’r ‘papur’
Sylfaenydd menter y Papur Sain oedd Ronald Sturt, gŵr o Swydd Surrey a ddaeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Llanbadarn Fawr, ac a fu’n llyfrgellydd arbennig yn nifer o ysbytai Llundain cyn cyrraedd.
Pan fu farw Mr Sturt ar 6 Ionawr 2003 yn 81 oed, talwyd teyrngedau i’w waith yn y Times a’r Guardian. Credai bod hawl gan bobl ag anableddau dderbyn yr un gwasanaethau gwybodaeth â phawb arall. Wedi i fentrau eraill tebyg ddilyn, aeth ymlaen i lunio’r Talking Newspaper Association UK, y TNF/Talking News Federation heddiw. Ef oedd ei Lywydd cyntaf.
Yn gysylltiedig â’r dasg o sefydlu’r Cardiganshire Talking Newspaper oedd pennaeth y Coleg Llyfrgellwyr, Frank Hogg; perchennog y Cambrian News, Henry Read; y Llyfrgellydd Cenedlaethol, David Jenkins; Pennaeth y Brifysgol, Syr Goronwy Daniel; a Tom Evans, darlledwr a newyddiadurwr enwog.
Dywedodd Eileen Sinnet Jones, un a fu’n gwirfoddoli o’r cychwyn ers 1970, “Cyfrannodd Tom ei arbenigedd i’r fenter. Hebddo, fydden ni ddim wedi goroesi! Cynigiodd Tom ei wasanaeth hyd 1997.
Dan lywyddiaeth Trefor Lloyd Jones, syniad gwych aelodau Ford Gron Aberystwyth (yn eu plith Des Slay, Alwyn Griffiths, Dr John Lloyd, Denis Bates, Alun Rees, Des Hayes, Syd Smith (sy’n recordydd heddiw)) oedd cynnal y Donkey Derby yn Aberystwyth, er mwyn codi arian i gynnal y papur.
William Edward Watcyn Story oedd y Trysorydd cyntaf gyda’r ymddiriedolwyr Ralph Davies, R Geraint Gruffydd, Richard Morgan a Gwyneth Mainwaring.
Cartrefi amrywiol
Cafodd y Papur Sain gartrefi amrywiol yn Aberystwyth. I gychwyn, yng ngarej Bronpadarn, cartref pennaeth y Coleg Llyfrgellwyr, ac yna i’r Avondale (a fu’n gartref preswyl yr henoed). Wedyn i Le’r Ffald, lle mae plac ar y wal yn coffáu hynny. Cartrefi oedd yn eiddo i Gyngor Sir Aberteifi oedd rhain. O’r hen Queen’s Hotel ar y prom daeth yn nes i’w gartref gwreiddiol, sef Canolfan Rheidol, Boulevard St Brieuc. Mae’r Cyngor yn dal i noddi’r fenter ers dros hanner can mlynedd.
Llu o wirfoddolwyr
Heddiw, mae 60 o bobl yn gwirfoddoli i gynhyrchu Papur Sain Ceredigion Talking Newspaper. Bydd timau gwahanol yn dewis eitemau, yn darllen y rhifynnau Cymraeg a Saesneg, yn recordio, dyblygu a gweinyddu – tasgau sy’n digwydd cyn i’n gwrandawyr dderbyn y newyddion yn brydlon cyn diwedd yr wythnos. Caniateir postio pob eitem am ddim gan Swyddfa’r Post.
Mae pwyllgor o 12 yn cynnal cyfarfodydd chwarterol. Y person hollbwysig i’r gwrandawyr ac sy’n cadw cysylltiad ar bob newid neu ddiffyg yw Anne Roberts, Llinell Gyswllt Gwrandawyr (07494 558326).
Gweddill y dathliadau
Bydd dathliadau’n cael eu cynnal gydol 2020. Prynwyd cyfrifiaduron a meddalwedd newydd eisoes; cynhelir noson i wirfoddolwyr yn Amgueddfa Ceredigion fis Mawrth gydag arddangosfa. Gobeithiwn fod yn bresennol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Tregaron fis Awst. Dewch yno i’n gweld.
Am fwy o fanylion/ymholiadau:
Cadeirydd: Eurwen Booth: eurwen@aol.com / 01970 612615 / 07720 823179
Ysgrifennydd: Margaret Sharp: randmsharp@talktalk.net / 01970 626834
Gwirfoddolwraig ers 1970: Eileen Sinnet Jones: 01970 612341