Cystadleuaeth Canolfan y Celfyddydau yn ysbrydoli Creadigrwydd yn y Cartref

Creadigrwydd gartre’ gyda Chanolfan y Celfyddydau a rholiau papur toiled…

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nifer o lamaod wedi'u creu allan o rholau mewnol papur toiled gan Eira, fel rhan o gystadleuaeth creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Enillydd categori 9-14 oed

Yn sgil pobl yn cael eu hysbrydoli gan eitemau cyffredin a geir o gwmpas y cartref, cafodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ymateb gwych i gystadleuaeth greadigol a lanswyd yn ddiweddar i greu celf yn defnyddio tiwbiau mewnol rholiau toiled! Gyda chategorïau yn cynnwys plant ac oedolion, gwnaethpwyd argraff ddofn ar y beirniaid gan amrywiaeth y ceisiadau oedd yn llawn dychymyg a chreadigrwydd.

Enillodd Nathaniel (4 oed) y categori 0-8 year oed gyda’i grocodeil unigryw. ‘Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd ei fod wedi torri, gosod a gludio’r darn cyfan ei hun. Hefyd yn y categori hwn gwnaethpwyd argraff ar y beirniaid gan Efa a Ffion gyda’u gwaith tîm wrth greu teyrnged i staff y GIG.

Lamaod lliwgar oedd thema’r cais buddugol yn y categori 9-14 oed, a grewyd gan Eira, 11 oed. Bu’r beirniaid yn mwynhau’n arbennig gwahanol gymeriadau’r lamaod. Daeth Hermione Jayne yn ail yn y categori hwn gyda’i fersiwn hi o Arth Paddington, gyda’i het a bag origami gwych.

Yn olaf, enillwyd y categori 15 oed+ gan Dave Parker gyda’i bolyn totem dyfeisgar a chrefftus, tra bod yr ail wobr yn mynd i Lauren Surgey a wnaeth i’r beirniaid wenu gyda’i chelf Enfys amserol yn gyflwynedig i staff y GIG a gweithwyr allweddol eraill.

Gallwch weld yr enillwyr i gyd ar dudalen Facebook Canolfan y Celfyddydau.

Derbyniodd pob enillydd werth £20 o docynnau rhodd y Ganolfan, gyda’r ail ym mhob categori yn derbyn tocynnau gwerth £10, a fydd yn barod i’w defnyddio unwaith mae’r Ganolfan yn medru ailagor.

Gall unrhyw un sy’n awyddus i gadw’n greadigol yn ystod y cyfnod hwn gymryd cip ar y gweithdai celf byrion a drefnir gan adran arddangosfeydd y Ganolfan dwywaith yr wythnos, sy’n cael eu gosod ar YouTube bob Dydd Mawrth a Dydd Iau.