Cap Cyntaf i Rhys?

Breuddwyd Rhys Norrington-Davies yw cael ei ddewis yng ngharfan llawn tîm pêl-droed Cymru

gan Gruffudd Huw

Llongyfarchiadau mawr i’r cefnwr chwith, Rhys Norrington-Davies, ar gael ei enwi yng ngharfan llawn Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr a’r ddwy gêm Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

Dechreuodd Rhys ei yrfa gyda thîm academi Aberystwyth cyn symud i Abertawe. Yna ymunodd â Sheffield Utd yn Uwch Gynghrair Lloegr. Bellach, mae wedi ymuno â Luton ar fenthyg am y tymor.

Cafodd Rhys fis Medi i’w gofio. Ymunodd â Luton ar fenthyg ar y 3ydd o Fedi. Chwaraeodd yn erbyn timau adnabyddus fel Derby, Watford a Barnsley yn y Bencampwriaeth, a chafodd fuddugoliaeth yn erbyn Norwich yng Nghwpan Carabao. Ond y pinacl, mae’n siŵr, oedd chwarae yn erbyn Man Utd yng Nghwpan Carabao. Erbyn diwedd y gêm, roedd yn chwarae yn erbyn Marcus Rashford, Mason Greenwood a Bruno Fernandes. Breuddwyd pob plentyn sy’n chwarae ar fore Sadwrn!

Dymuniadau gorau i Rhys wrth iddo ymarfer gyda Ramsey, Ben Davies a Dan James (ond nid Bale gan ei fod wedi ei anafu). Gobeithio y bydd yn ennill ei gap cyntaf!

Mae Rhys eisoes wedi cael 14 cap i’r tîm dan 21 a 4 cap i’r tîm dan 19.

Llun: Rhys Norrington-Davies yn chwarae i dîm dan 21 Cymru yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Wrecsam mis Tachwedd diwethaf. Diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am y llun.

1 sylw

Gruffudd Huw
Gruffudd Huw

Newyddion da i Rhys sy’n dechrau ar y fainc yn erbyn Lloegr yn Wembley heno (08/10/2020).

Mae’r sylwadau wedi cau.