Roedd yna ddathlu dwbl yn Sofia wedi i dîm pêl-droed Cymru chwarae Bwlgaria yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd neithiwr (14/10/2020).
Ychydig dros bythefnos wedi i Rhys Norrington-Davies gael ei enwi yng ngharfan lawn Cymru, dyma fe’n ennill ei gap llawn cyntaf yn erbyn Bwlgaria. Er yn gefnwr i Luton, dechreuodd Rhys y gêm ar ochr chwith canol y cae Cymru.
Cafodd gem gadarn yn chwarae o flaen Ben Davies yn yr amddiffyn ac yn cefnogi’r asgellwr Daniel James (ac yn a Rabbi Matondo) ar yr asgell chwith. Chwaraeodd ran amlwg yn cynorthwyo Cymru i droi amddiffyn yn ymosod, gydag ambell bas dreiddgar i’r asgellwyr. Cafodd ergyd ar y gôl toc wedi’r hanner ond aeth yr ergyd dros y trawsbren. Ar ddiwedd ei gêm gyntaf, cafodd ganmoliaeth hael gan sylwebydd S4C Nic Parri a’r arbenigwyr yn y studio.
I goroni’r dathlu, sicrhaodd gôl hwyr Jonny Williams buddugoliaeth bwysig i Gymru. Bellach mae Cymru ar ben Grŵp B4 yn y gystadleuaeth gyda dwy gêm gartref ar y gorwel.
Gallwch weld cyfweliad gyda Rhys cyn y gêm ar YouTube: https://youtu.be/_AmhZdJ-6J0