Cymdeithas Lenyddol yn Zwmio

Dechrau da i dymor rhithiol Cymdeithas Lenyddol y Garn 

gan Llinos Dafis

Daeth nifer dda i gyfarfod cyntaf Cymdeithas Lenyddol y Garn am eleni a gynhaliwyd – am y tro cyntaf erioed yn ei hanes – ar Zoom nos Wener, Hydref 16eg, gyda chyfeillion yn ymuno o Gymru benbaladr – o Sir Benfro i Ddyffryn Clwyd.

Yr Athro Gruffydd Aled Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, oedd cadeirydd y noson. Gwaith hawdd iddo, meddai, oedd cyflwyno’r siaradwraig, Sara Huws, Caerdydd, gan ei bod, yn ogystal â bod yn un o blant yr eglwys, hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin deledu yn cyflwyno’r rhaglen Waliau’n Siarad.

Dilynodd awr ddifyr dros ben gyda Sara’n olrhain ei hanes hi ei hun a thrwy hynny’n rhoi cipolwg i ni ar ddirgeledigaethau megis hanes celf – nid dim ond darluniau mewn fframiau ond yr hyn all fod ynghudd dan blastr ar walydd hen adeiladau. Aeth ymlaen wedyn i sôn am drefnu a dodrefnu arddangosfeydd ac amgueddfeydd – pa greiriau i’w dangos a beth a sut i’w harddangos – y math o beth fydd yn aros yn ein meddyliau y tro nesaf y cawn gyfle i ymweld â sefydliadau o’r fath.

Daeth y sgwrs i ben gyda’i phrosiect cynhyrfus diweddaraf, sef ysbrydoli sefydlu amgueddfa newydd sbon ar hanes menywod ym mhen dwyreiniol Llundain. Gallai hon fod o ddiddordeb mawr i ni yng Ngheredigion gan fod cymaint o ferched ifainc o’r ardal, yn cynnwys dwy chwaer i fy Mam-gu, wedi mynd i wasanaethu yn Llundain yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ac wedi aros yno, er nad yn y pen dwyreiniol efalle. Brysied y dydd y caf fynd i’w gweld, a diolch o galon i Sara am awr llawn gwybodaeth.

Cwis hwyliog, dan ofal Ann ac Alan Wynne Jones fydd gennym y mis nesaf, nos Wener, 20 Tachwedd, am 7.30 o’r gloch. Felly, beth am ymuno yn yr hwyl?

Am fanylion cysylltu, anfonwch neges: ymholiadau@capelygarn.org neu Twitter: @capelygarn neu ar dudalen Facebook Capel y Garn