diolch am rannu dy brofiad, Beth. Fi’n falch o weld y byddet ti’n fodlon cael gwneud sesiwn arall yn y dyfodol!
Ers dechrau Mehefin mae gan y Mudiad Meithrin gynllun newydd o’r enw Clwb Cylch. Bwriad y cynllun yw darparu cynnwys Cymraeg i blant oed meithrin yn y cartref.
Fe wnaeth y Mudiad Meithrin gysylltu â fi yn ystod wythnos gyntaf y cynllun i ofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn rhedeg un o’r sesiynau. Fe gytunais, gan fy mod yn gweld pwysigrwydd y cynllun.
Fy unig broblem oedd fy mod i’n berson eithaf swil a phryderus. Roedd y syniad o ffilmio fy hunan yn canu, yn darllen stori a siarad yn gwneud i mi deimlo’n nerfus a phryderus iawn, ond hefyd ychydig yn gyffrous! Penderfynais i a fy ngŵr, oedd yn mynd i fy ffilmio, wneud ychydig ar y tro. Cyn pob ffilm fe wnes i ymarfer beth fyddwn yn ei ddweud, ac yna roedd angen i mi ganolbwyntio ar reoli fy anadlu cyn ffilmio. Roedd hon i’w gweld yn ffordd dda o wneud y dasg, ac fe wnaethon ni’r rhan fwyaf o’r darnau mewn un ‘take’. Roedd fy mhlant yn hynod o dda yn gadael i ni wneud hyn, ac yn eistedd yn dawel yn fy ngwylio, sy’n dipyn o sialens iddyn nhw!
Ar ôl i ni orffen ffilmio, fe anfonon ni’r ffilm gyfan i’r Mudiad Meithrin, a byddai’r ffilm yn ymddangos ar Facebook a Twitter y diwrnod canlynol. Y diwrnod yna, roeddwn i’n teimlo hyd yn oed yn fwy nerfus, yn gwybod efallai y byddai miloedd o blant bach Cymru yn fy ngwylio! Tybed beth fydden nhw’n ei feddwl ohonof? Penderfynais rannu’r ffilm ar fy nhudalen Facebook bersonol i fy nheulu a ffrindiau wylio os oedden nhw eisiau. Fe wnaeth sawl un ohonyn nhw wylio, a dweud wrthyf fy mod i wedi gwneud yn arbennig o dda, a mod i’n edrych yn hyderus wrth siarad a chanu (diolch byth)! Mae’n bosib y caf gyfle i wneud hyn eto rywbryd yn y dyfodol, ac rwy’n credu y byddaf yn ddigon hapus i wneud hynny! Rwy’n meddwl ei fod yn beth da i wneud pethau newydd a heriol o dro i dro, ac roedd hwn bendant yn her i mi, ond hefyd yn beth positif. Y peth pwysig i fi yw bod y plant wedi mwynhau.