Cyfle i ennill £100 yn Sioe Talybont eleni

Cystadleuaeth ffotograffiaeth arbennig Sioe Talybont ar y we

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn
Logo-sioe

Efallai eich bod wedi clywed bod Sioe Talybont yn cael ei chynnal ar y We eleni? Gallwch gystadlu mewn dros 100 o gystadlaethau.

Dwi’n siŵr mai’r gystadleuaeth ffotograffiaeth arbennig fydd y mwyaf poblogaidd eleni, gan ei bod yn agored i unrhyw un o bedwar ban byd. Llun o wartheg duon Cymreig yn eu cynefin yw’r thema, ac nid oes yn rhaid i’r cystadleuwyr fod yn berchen ar y gwartheg eu hunain. Felly, pan fyddwch yn mynd am dro, cadwch olwg am ambell un.

Os nad yw hyn yn ddigon i’ch perswadio, efallai y bydd y wobr. Mae Gwilym ac Ann Jenkins, Llety’r Bugail, Talybont wedi bod yn hael iawn trwy noddi’r gystadleuaeth am £100. Mae Mr Jenkins yn un o gyn-lywyddion Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig, ac efallai y gwelsoch chi fuchesi Arglwyddes a Thynygraig yn ystod ei ddiwrnod agored yn ôl yn 2017? Fis diwethaf, cynhaliodd y Gymdeithas gystadlaethau ffotograffiaeth ar Facebook, gan ddenu cystadleuwyr o bob cwr o’r byd – o Gymru fach i’r Almaen, Mecsico ac Awstralia! Gobeithio y bydd y cystadlu yn Sioe Talybont yr un mor frwd.

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu, ewch i’n gwefan neu ein tudalen Facebook am fwy o wybodaeth.