Cyfle i arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Galwad am waith celf sy’n ymateb i’r feirws corona.

Mae adran arddangosfeydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi cyhoeddi galwad am waith sy’n ymateb i’r sefyllfa bresennol o fyw ym myd sydd dan warchae’r feirws corona.

Gyda’r orielau ar gau am y tro, hoffa’r Ganolfan rhoi cyfle arbennig i artistiaid i ymateb i’r pandemig. Gall hyn fod yn ymateb i unrhyw agwedd o’r pandemig – o’r feirws a salwch, i’r cyfyngiadau symud a’r ffordd wahanol o fyw; o’r rhyngwladol, i’r lleol, i’r unigolyn. Mae’r galwad ar agor i gynigion o gelf weledol drwy unrhyw gyfrwng.

Er mwyn cynnig darn o waith, gallwch ei bostio ar Instagram neu Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #oriel_lockdown, neu gallwch e-bostio eich cynnig i oriel-lockdown@aber.ac.uk.

Dyddiad cau’r galwad yw Awst 1af. Bydd curaduron orielau’r Ganolfan yn dethol y gorau i ddangos mewn arddangosfa arbennig pan fydd Canolfan y Celfyddydau ar agor i’r cyhoedd unwaith eto.