Dydd Sadwrn, 1 Awst, ddaeth Cwmni Ennyn â gŵyl fawr o theatr gymunedol ar-lein i bobl sy’n aros gartref. Roedd SGRIPTŶOFEST, a ariannwyd gan y cynllun “Cer i Greu Adref”, yn ŵyl o ysgrifennu newydd, dwyieithog, ac fe gafodd ei dangos yn fyw ar gyfer Aberystwyth a thu hwnt. Ffilmiwyd wyth darn newydd o ysgrifennu gan ddramodwyr cymunedol yng nghartrefi pobl ac o’u cwmpas mewn galwadau fideo-gynadledda. Darparodd aelodau o’r cwmni weithdai cyfarwyddwyr i gyfarwyddwyr cymunedol, cyn iddynt fynd ymlaen i ymarfer y darnau gydag actorion cymunedol. Ar ben y gwaith perfformio, roedd yr actorion hefyd yn trefnu gwisgoedd, propiau a setiau Lego, yn ogystal â defnyddio camerâu a chasglu lluniau i’w golygu yn y ffilmiau byr. Roedd y rhai a gymerodd ran o bob oed a lefel profiad, o’r rhai a oedd â blynyddoedd o brofiad i’r rhai a oedd yn cyfarwyddo, ysgrifennu neu’n actio am y tro cyntaf. Er bod y rhan fwyaf o’r bobl a gymerodd ran wedi’u lleoli yn Aberystwyth, llwyddodd rhai i gymryd rhan o Iwerddon, yr Iseldiroedd a Romania!
Y canlyniad oedd casgliad cyfoethog a bywiog o waith yn y Gymraeg ac yn Saesneg, a wyliwyd ar y noson gan gynulleidfa o ardaloedd ar draws y byd. Cefnogodd nifer o gyfarwyddwyr ac ysgrifenwyr proffesiynol yr ŵyl mewn negeseuon o gefnogaeth i’r rhai oedd yn cymryd rhan, gan gynnwys Izzy Rabey, Lucy Gough, David Rabey a Catrin Fflur Huws. Hefyd roedd cystadleuaeth gwisgoedd a noddwyd gan ddau fusnes sydd wedi bod yn cefnogi’r gymuned trwy gydol cyfnod y clo, Maeth y Meysydd a Little Devil’s Cafe. Fe wnaeth cyfranogwyr y gymuned a’r gynulleidfa roi adborth trwy sylwadau a pholau ar-lein, yn ogystal â “chymeradwyaeth ar-lein” ar y diwedd, gan adael i bawb ddod at ei gilydd a dathlu gwaith yr artistiaid cymunedol.
Roedd yr ŵyl hefyd yn codi arian ar gyfer Cronfa Celfyddydau Cymunedol Anna Evans, a sefydlwyd y llynedd gan ei ffrindiau a’i theulu.
Roedd Anna wedi bod yn gweithio ar y prosiect “CARTREF” mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chwmni Ennyn cyn y bu farw yn anffodus yn dilyn damwain ar wyliau ym mis Awst 2019. Roedd Anna yn flaenllaw iawn gyda chelfyddydau cymunedol ac yr oedd ei gwaith yn ymestyn dros amrywiaeth o feysydd celfyddydol – o baentio i brintio, i waith clywedol i ffotograffiaeth – ac roedd ei gwreiddiau’n dynn yn y gymuned. Treuliai nosweithiau hwyr yn aml yn paentio, yn llifio ac yn sicrhau fod popeth yn ei le ar gyfer arddangosfa drannoeth. Mae ffrindiau, cyd-weithwyr a theulu Anna am i’w gwaith a’i gweledigaeth barhau drwy gyflwyno Grant Celfyddydol Cymunedol yn ei henw. Bydd y cynllun yn cefnogi artistiaid a hwyluswyr celfyddydau o bob math i ddarparu prosiectau celfyddydau cymunedol tebyg i’r gwaith pwysig yr oedd Anna yn ei wneud. Roedd tîm SGRIPTŶOFEST yn falch iawn o gyhoeddi bod dros £500 wedi’i godi ar gyfer y grant yn ystod y noson!
Dwedodd Anna Sherratt, Cyfarwyddwraig Gelfyddydol Cwmni Ennyn, “Rwyf wrth fy modd ynglŷn â’r ymateb i’r ŵyl, sydd wedi arddangos talent, cyfoeth a chryfder y gymuned artistig, yn Aberystwyth a thu hwnt. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran, i’r tîm hyfryd yng Nghwmni Ennyn, i’r rhai a oedd yn gwylio adref ac i’r rhai a roddodd gyfraniad at y grant. Gall y celfyddydau cymunedol wella ansawdd bywyd yn sylweddol ac rydym yn falch o gyfrannu at yr achos yma ar adeg pan mae cymaint o bobl yn teimlo’n unig, yn bryderus neu’n ynysig, trwy roi’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn digwyddiad dychmygus a chreadigol. Diolch o galon i chi!”
Cafwyd sawl sylw o ganmoliaeth ar y Gweplyfr hefyd, yn cynnwys “Very, very good. Diolch yn fawr.”
Mae’n dal yn bosib gwylio’r ŵyl gan ddilyn y ddolen yma: www.awakennyn.co.uk/sgriptyofest-darllediad-broadcast ac mi fydd yr ŵyl a fideos y perfformiadau yn ymddangos yn fuan ar sianel YouTube y cwmni. Mae’r tudalen yma’n dal i godi arian ar gyfer Cronfa Greadigol Anna Evans hefyd: www.awakennyn.co.uk/rhoi-donate