COVID-19: Y sefyllfa yng Ngheredigion

Erthygl wythnosol gyntaf gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton

Sgrîn-lun o ddata byw (cywir ar 28/4/20)

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Bob wythnos, rydw i’n mynd i ysgrifennu erthygl i BroAber360 am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Ceredigion yw’r sir yng Nghymru yr effeithir arni leiaf gan COVID-19.

Gyda dim ond 35 o achosion (48 i bob 100k o bobl), rydym ymhell y tu ôl i’r siroedd eraill. Mae 380 o bobl wedi cael eu profi yn y sir, sy’n golygu bod yna gyfradd positifrwydd o 9.2% o’r profion. Gallwch chi weld y data yma.

Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ddim yn cyhoeddi’r nifer o farwolaethau ym mhob sir, ond yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gywir ar yr 17eg o Ebrill, mae 5 o bobl wedi marw yng Ngheredigion oherwydd COVID-19. O’r rhain, digwyddodd 3 mewn ysbytai a 2 adref. Mae hwn yn cynrychioli cynnydd o 1 rhwng y 10fed a’r 17eg o Ebrill.

Mae’r rhifau isel iawn yng Ngheredigion yn dangos bod pobl y sir yn cadw at reolau’r llywodraeth yn agos iawn i gymharu gyda siroedd eraill. Mae hefyd gan Geredigion ddwysedd poblogaeth isel iawn, sydd hefyd yn berthnasol o ran nifer yr achosion o COVID-19, ond mae’n bwysig iawn i gofio: nid yw cydberthynas yn golygu achosiaeth.

Mae’n edrych fel bod y gromlin yn dechrau gwastatau, ond mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n cadw at y rheolau er mwyn lleihau’r risg o ail don o achosion. Rydyn ni’n ffodus yng Ngheredigion fod y feirws wedi effeithio’r sir yn weddol ysgafn i gymharu â siroedd eraill, ond ni ddylem ei gymryd yn ganiataol.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 27/04/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 28/04/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 17/04/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 28/04/2020.