COVID-19: Y sefyllfa yng Ngheredigion (26/05)

Pedwaredd rthygl wythnosol gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Bob wythnos, rydw i hefyd ysgrifennu erthygl i BroAber360 am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae dal dim ond 6 wedi marw yng Ngheredigion. 3 yn yr ysbyty, 2 gartref ac 1 mewn cartref gofal. Does dim marwolaeth newydd wedi’i gofrestru yn y sir ers canol Ebrill. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae gan Geredigion 42 o achosion, sef cynnydd o 3 ers wythnos yn ôl. Golyga hyn bod yna nawr 57.8 achos i bob 100k o breswylwyr yn y sir. Gallwch chi weld y data yma.

Gallwch weld y nifer o achosion i bob 100k o bobl ym mhob sir yng Nghymru yn y map isod. Mae achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynyddu yn sylweddol oherwydd mwy o brofi. Ar y thema o brofi, mae profi yng Ngheredigion wedi cynyddu hefyd. Ar y 21ain o Fai, profwyd 115 o bobl, sef dros bedair gwaith mwy nac unrhyw ddiwrnod arall hyd yn hyn. Profodd pob un ohonynt yn negyddol ar y diwrnod hwnnw.

Mae’n bosibl fod yna mwy o drosglwyddiad yn digwydd yng Ngheredigion, felly mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n ofalus ac yn aros adref i stopio hon. Rydyn ni dal yn lwcus iawn i gymharu â Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a, dros ddyddiau diweddar, Sir Ddinbych.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 25/05/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 26/05/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 15/05/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 26/05/2020.