COVID-19: Y sefyllfa yng Ngheredigion (19/05)

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Dyma fy nhrydedd erthygl wythnosol am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion. Rwy’n ôl ar ôl wythnos i ffwrdd oherwydd, yn ffodus, roedd dim ond un achos a dim marwolaethau i’w trafod.

Dydd Mawrth yw hi eto, sy’n golygu bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi’r ystadegau marwolaethau. Yn ffodus iawn, does neb newydd wedi marw dros y pythefnos rhwng 25/04 a 08/05. Yng Ngheredigion, mae 6 wedi marw, 3 yn yr ysbyty, 2 gartref ac 1 mewn cartref gofal. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae gan Geredigion 39 o achosion, sef cynnydd o 1 ers wythnos yn ôl. Golyga hyn bod yna 53.4 achos i bob 100k o breswylwyr yn y sir. Gallwch chi weld y data yma.

Mae cynnydd y nifer yr achosion yn arafu ac mae mwy o brofi yn digwydd. Mae hon yn arwydd da bod pethau yng Ngheredigion wedi gwella a’n bod bron â stopio trosglwyddiad y firws yn y sir.

Rydym dal ymhell y tu ôl i’r siroedd eraill yng Nghymru. Dim ond 0.31% o achosion Cymru sydd yng Ngheredigion (i’w gymharu â 2.3% o boblogaeth Cymru). Dyma fap o’r achosion i bob 100k o bobl ym mhob sir. Mae gan Geredigion dim ond 29% cyfradd heintiau unrhyw ran arall o Gymru.

Os ydych chi’n cymharu’r gyfran heintiau gyda dwysedd poblogaeth, gallwch chi weld bod y rhifau’n cydberthyn tipyn yn llai nac oeddynt 3 wythnos yn ôl. Dengys hyn bod trosglwyddiad yr afiechyd yn dibynnu mwy ar ymddygiad pobl na dwysedd poblogaeth erbyn hyn.

Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i ddilyn neges Llywodraeth Cymru i aros gartref. Mae Ceredigion bron wedi curo’r firws. Gobeithio y bydd gweddill Cymru yn agos y tu ôl i ni.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 18/05/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 19/05/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 08/05/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 19/05/2020.