COVID-19: Y sefyllfa yng Ngheredigion (05/05)

Yr ail erthygl wythnosol gan Lloyd Warburton am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Dyma fy ail erthygl wythnosol am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Dydd Mawrth yw hi eto, sy’n golygu bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi’r ystadegau marwolaethau. Yng Ngheredigion, mae 6 wedi marw, 3 yn yr ysbyty , 2 gartref ac 1 mewn cartref gofal. Cynnydd o 1 (yr un mewn cartref gofal) mewn wythnos. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae gan Geredigion 37 o achosion, sef cynnydd o 2 ers wythnos yn ôl. Golyga hyn bod yna 50.7 achos i bob 100k o breswylwyr yn y sir. Gallwch chi weld y data yma.

Rydym dal ymhell y tu ôl i’r siroedd eraill yng Nghymru. Dim ond 0.35% o achosion Cymru sydd yng Ngheredigion (i gymharu â 2.3% o boblogaeth Cymru). Dyma fap o’r achosion i bob 100k o bobl ym mhob sir. Mae gan Geredigion tua thraean cyfradd heintiau unrhyw ran arall o Gymru.

Dros yr wythnos diwethaf, mae’r profi yng Ngheredigion wedi cynyddu yn sylweddol. Mae 455 o bobl yng Ngheredigion wedi cael prawf, sef cynnydd o 75 ers wythnos diwethaf. Nid yw hyn wedi achosi unrhyw effaith ar y nifer o achosion, felly gallwn gasglu bod y nifer o bobl gyda’r afiechyd yn cwympo. Mae 8.1% o’r profion yng Ngheredigion hyd yn hyn wedi bod yn bositif, ond 9.2% oedd y canran wythnos ddiwethaf.

Wythnos diwethaf, trafodais yr effaith dwysedd poblogaeth ar nifer yr achosion. Mae’r system drafnidiaeth a lleoliad hefyd wedi helpu Ceredigion i gadw’r rhifau’n isel. Mae Ceredigion ymhell i ffwrdd o ardaloedd gyda rhifau uchel o achosion, a dydy hi ddim yn hawdd teithio rhwng y dinasoedd a’r Sir. Oherwydd ein lleoliad rhwng coridor yr M4 a’r A55, ond heb briffordd fawr yn croesi ein Sir, does dim llawer o bobl o ddinasoedd neu drefi mawr sydd yn cario’r feirws yn ymweld  a ni. Yn y sefyllfa yma, mae Ceredigion yn ffodus iawn i fod yn wledig ac ynysig.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 04/05/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 05/05/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 24/04/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 05/05/2020.

1 sylw

Teilo Trimble
Teilo Trimble

Diolch Lloyd am y diweddariad erthygl wych eto.

Mae’r sylwadau wedi cau.