Coronafirws a gwasanaethau crefyddol

Capel y Garn yn ymateb i’r her o gynnal gwasanaethau

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Gyda’r cyfyngiadau llym sy’n gwahardd pobl rhag dod at ei gilydd i addoli a chymdeithasu, mae nifer o gapeli ac eglwysi ledled Cymru wedi bod yn arbrofi gyda phob math o dechnoleg i geisio cadw’u haelodau mewn cyswllt.

Un o’r rhain ydi Capel y Garn, Bow Street, sydd wedi creu tudalen Facebook a sianel YouTube yn ychwanegol at ddefnyddio Twitter a’u gwefan: www.capelygarn.org.

 Dyma ymateb gweinidog Gofalaeth y Garn, y Parch Ddr Watcyn James, i’r cwestiwn am sut y mae ei waith wedi newid yn ystod cyfnod y cyfyngiadau:

‘Mae’n debyg mai’r ateb mwyaf gonest yw hyn – does dim wedi newid a’r un pryd mae’n teimlo fel pe bai popeth wedi newid.

‘Yn yr ystyr bod amcan ein galwedigaeth yn parhau – i borthi a gofalu am yr eglwys, mae gwaith bugeiliol yn parhau, y gwaith o ysgrifennu a pharatoi yn parhau fel o’r blaen. Byddai’n rhwydd tybied fod popeth yn “normal”. Dwi mor brysur ag erioed.

‘Ond y gwir yw bod cymaint o elfennau eraill wedi eu trawsffurfio. Gan nad ydym yn rhydd i fynd ar ein teithiau i ymweld â’n haelodau, bu’n rhaid addasu. Bellach does prin wahaniaeth rhwng un dydd a’r llall. Mae’r Suliau wedi eu gweddnewid a’r syniad o “ymgynnull” wedi ei drawsffurfio. Mae’r ”bugeilio’” yn parhau – ond dros y ffôn.

‘A sut mae cynnal ysgol Sul? Bu’n rhaid dysgu gweithio mewn ffordd wahanol gan ddefnyddio technoleg Zoom, recordio sain a hyd yn oed arbrofi ym myd fideo er mwyn paratoi ar gyfer ein cynulleidfaoedd sydd ar wasgar ar hyd y fro! Mae Zoom, Soundcloud, Facebook ac YouTube bellach yn rhan o’n geirfa gapelyddol.

‘Gan na wyddom am ba hyd y pery’r ynysu na bygythiad COVID-19, nid yw’n bosibl i ni ddarogan beth fydd effeithiau hirdymor yr ynysu. Ond mae hefyd yn amlwg hyd yn oed yn awr mai tirlun gwahanol iawn fydd yn ein hwynebu os pery’r dieithrio am dymor maith.’

Yn y cyfamser, gallwch wrando ar fyfyrdodau neu wasanaethau byr gan y Parch Watcyn James ar dudalen Facebook neu sianel YouTube Capel y Garn, neu dilynwch y ddolen Soundcloud ar Twitter (@capelygarn).

Hefyd, gallwch ymuno mewn ‘paned a sgwrs’ ar fore Mercher drwy gyfrwng Zoom neu â gwasanaeth Cymorth Cristnogol fore Sul nesaf, 10 Mai, am 9.30 o’r gloch.