Newyddion trist iawn. Roedd Richard yn ddyn hynaws dros ben. Bydd colled ar ei ôl mewn sawl cylch yng nghymuned Aberystwyth. Mae ein cydymdeimlad yn fawr â Dana, Dafydd a Fflur a’r teulu oll. Rhiannon, Eurig a Llew Salisbury.
Bydd gan nifer fawr o bobl Aberystwyth, a thu hwnt, atgofion da o Dr Richard Edwards a fu farw nos Lun 30 Mawrth. Trwy ei weithgaredd, brogarwch a gwladgarwch y des i i adnabod Richard, a hynny wrth i mi drefnu Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a Ras yr Iaith.
Daeth Richard, yn llythrennol i sefyll yn y bwlch yn achos Ras yr Iaith. Ras relay, di-gystadleuaeth yw Ras yr Iaith i godi arian i’r iaith Gymraeg. Wrth gwrs, mae logistics trefnu hwn yn fawr, ac un o fy mhryderon mwyaf oedd cael meddyg gyda ni. Gofynnais a fyddai Richard yn barod i wneud y Ras gyntaf yn 2014 – diwrnod cyfan yn rhedeg mewn 9 tref yng Ngheredigion. Er mawr rhyddhad i mi, cytunodd Richard!
Roedd rhyddhad a’r llawenydd fod rhywun o calibre ac enw da Richard yn barod i eistedd yn y fan trwy gydol y dydd i gadw llygad craff arnom yn fawr iawn. Er mawr syndod i mi wnaeth e gytuno i wneud eto adeg Ras yr Iaith 2016 pan oeddem ni’n rhedeg dros 3 diwrnod ac mewn 11 tref ar draws Cymru ac eto yn 2018 dros dridiau yn y de a’r gogledd.
Gallai Richard fod wedi gwneud sawl peth arall gyda’i amser a’i ddawn feddygol, ond roedd y ffaith ei fod wedi cytuno i eistedd yn y fan am dridiau i helpu yn dweud lot amdano fel dyn a Chymro.
Dwi’n gwybod bod Mentrau Iaith Cymru, prif drefnwyr y Ras bellach, yn falch iawn iawn o’i bresenoldeb, ond gallaf ddweud â sicr bod ‘bois y fan’ – Dic ‘Rhedwr’ Evans, Andrew Edwards (Caradog Rd, nawr Cemaes), Don James, Gwilym Jones ac Owain Jones, yr un mor falch hefyd.
Roedd ’na lot o hwyl gyda ‘bois y fan’ yn enwedig pan oedd Dewi Pws yno gyda nhw – ac roedd gweld gwên siriol Richard yn golygu llawer i mi. Os oedd “y Doc” yn hapus (chwedl Andrew Edwards) roeddem ni’n hapus!
Gyda’r Parêd daeth Richard eto i gadw trefn, y tro yma fel Trysorydd. Unwaith eto, daeth i sefyll yn y bwlch. Mae delio gydag arian a chyllideb yn codi cryd arna’ i. Ond dyna lle’r oedd Richard, yn cŵl, di-ffws a threfnus, yn sicrhau bod popeth mewn trefn.
Doedd dim byd ‘fi fawr’ am Richard Edwards.
Byddai’n cadw cownt ariannol ond hefyd yn gyrru i Seren Signs ym Mhenrhyn-coch yn ei gar hyfryd gyda seins mawr melyn metal yn y bŵt. Roedd yn barod iawn i godi’r seins hefyd, gyda fi, ac Owain fy mab, yn rhoi help llaw. Eleni, am y tro cyntaf, roedd Richard yn rhy sâl i fod yn rhan o’r trefnu a’r diwrnod ei hun. A dyna pryd sylweddolais i gymaint o bethau bychan eraill roedd Richard yn ei wneud – yr holl bethau bychain oedd ‘as if by magic’ yn digwydd ar y dydd.
Roedd Richard yn ddyn oedd yn llythrennol yn gallu achub bywydau pobl yn ei yrfa – a hyd yn oed yn ei amser sbâr! A dyna lle’r oedd e, hefyd yn barod i roi help llaw i mi gyda fy syniadau gwirion.
Roeddwn i mor ‘chuffed’ bod rhywun o calibre Richard yn rhoi o’i amser i mi.
Ac eto, nid helpu fi oedd e ond rhoi rhywbeth nôl i’r iaith a’r genedl roedd yn ei garu ac i’r fro a Cheredigion yr oedd mor hoff ohoni ac mor wybodus ohono.
Bydd gan bobl eraill atgofion eraill melys iawn o Richard – gwn bod sawl yn diolch iddo am achub bywyd neu wella iechyd. Roedd yn cario presgripsiwn arno wrth fynd i’r siop, rhag ofn y byddai’n sylwi wrth siarad efo person bod angen meddyginiaethau arnynt!
Ac roedd yn aelod o deulu gweithgar iawn yn y fro – yn ŵr i Dana, tad Dafydd a Fflur ac roedd wrth ei fodd yn bod yn Daid i’w wyrion newydd, Gruff a Briall.
Roedd yn weithgar mewn gwahanol fathau o ‘Aberystwyths’ – hoffwn glywed eich hanesion, felly mae croeso i bawb rannu eich atgofion melys chi ohono yn y sylwadau isod.
I mi, roedd yn ddyn da, dyn diffuant, Cymro da, a dyn oedd yn caru eu deulu. Mae coffa da amdano a bwlch mawr ar ei ôl.